Troednodyn
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn cael ei arestio yn ei gartref. Mae ei wraig a’i ferch yn gwylio’r heddlu yn ei gymryd i ffwrdd. Tra bod y gŵr yn y carchar, mae brodyr a chwiorydd y gynulleidfa yn ymuno â’r chwaer a’i merch ar gyfer addoliad teuluol. Mae’r ddwy yn gofyn i Jehofa yn aml am y nerth i ymdopi â’u treial. Mae Jehofa yn rhoi heddwch mewnol a dewrder iddyn nhw. O ganlyniad, mae eu ffydd yn cryfhau, sy’n eu galluogi i ddal ati â llawenydd.