Troednodyn
a Am ein bod ni’n amherffaith, efallai byddwn ni’n brifo teimladau ein brodyr a chwiorydd. Sut rydyn ni’n ymateb? Ydyn ni’n awyddus i drwsio’r berthynas? Ydyn ni’n gyflym i ymddiheuro? Neu os ydyn nhw wedi brifo, ydyn ni’n dod i’r casgliad mai dyna eu problem nhw, nid un ni? Neu beth os ydyn ni’n ypsetio’n hawdd oherwydd beth mae eraill yn ei ddweud neu’n ei wneud? Ydyn ni’n cyfiawnhau ein hymateb drwy ddweud, ‘Fel ’na ydw i, dyna fy mhersonoliaeth’? Neu ydyn ni’n deall bod ein hymateb yn wendid a bod angen inni newid?