Troednodyn
a A wyt ti erioed wedi clywed rhywun sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd yn dweud, ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl mynd yn hen yn y system hon’? Rydyn ni i gyd yn awyddus i weld Jehofa yn dod â diwedd i’r byd drygionus hwn, yn enwedig yn ystod yr adegau anodd hyn. Ond, mae’n rhaid inni ddysgu bod yn amyneddgar. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar egwyddorion o’r Beibl a all ein helpu ni i ddisgwyl yn hyderus. Byddwn ni hefyd yn trafod dwy sefyllfa lle mae’n rhaid inni ddisgwyl yn amyneddgar am Jehofa. Ac yn olaf byddwn ni’n ystyried y bendithion sydd ar y gorwel i’r rhai sy’n fodlon disgwyl.