Troednodyn
a Rydyn ni’n hapus pan fydd pobl yn ymateb yn bositif i’r newyddion da, ond yn drist pan dydyn nhw ddim. Beth os wyt ti’n astudio’r Beibl â rhywun sydd ddim yn gwneud cynnydd? Neu beth os dwyt ti erioed wedi helpu rhywun yn uniongyrchol i gyrraedd bedydd? Ydy hynny’n golygu bod dy waith i Jehofa ddim yn ddigon da? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld pam gallwn ni lwyddo yn ein gweinidogaeth a bod yn llawen ni waeth sut mae pobl yn ymateb i’n hymdrechion ni.