Dydd Mercher, Hydref 29
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd!—Salm 103:1.
Mae cariad tuag at Dduw yn ysgogi pobl ffyddlon i foli ei enw gyda chalon lawn. Roedd y Brenin Dafydd yn deall bod moli enw Jehofa yn golygu moli Jehofa ei hun. Pan ydyn ni’n clywed ei enw, mae’n ein hatgoffa ni o’i bersonoliaeth, ei rinweddau prydferth, a’i weithredoedd rhyfeddol. Roedd Dafydd eisiau trin enw ei Dad yn sanctaidd a’i foli. Roedd eisiau gwneud hyn gyda phopeth oedd ganddo—hynny ydy, gyda’i holl galon. Yn debyg, cymerodd y Lefiaid y blaen yn moli Jehofa a gwnaethon nhw gydnabod yn ostyngedig na fyddai eu geiriau byth yn gallu mynegi’r moliant y mae enw sanctaidd Jehofa yn ei haeddu. (Neh. 9:5) Yn sicr, byddai Jehofa wedi bod yn hapus iawn yn derbyn eu moliant gostyngedig o’r galon. w24.02 9 ¶6
Dydd Iau, Hydref 30
Pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.—Phil. 3:16.
Os dwyt ti ddim yn llwyddo i gyrraedd nod oedd yn amhosib iti, fydd Jehofa ddim yn meddwl llai ohonot ti. (2 Cor. 8:12) Os wyt ti’n llithro’n ôl, dysga o’r profiad. Paid ag anghofio beth rwyt ti eisoes wedi ei gyflawni. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy Duw ddim yn anghyfiawn, felly ni fydd yn anghofio am eich gwaith.” (Heb. 6:10) Felly ddylet tithau ddim anghofio chwaith. Meddylia am yr amcanion rwyt ti wedi eu cyrraedd yn barod. Efallai bod hynny’n cynnwys dod yn ffrind i Jehofa, siarad ag eraill amdano, neu gael dy fedyddio. Yn union fel rwyt ti wedi llwyddo i gyrraedd amcanion ysbrydol yn y gorffennol, gelli di ddal ati i wneud cynnydd tuag at y nod sydd gen ti ar hyn o bryd. Gyda help Jehofa gelli di gyrraedd dy nod. Wrth iti barhau i weithio tuag at dy nod ysbrydol, sylwa ar sut mae Jehofa’n dy helpu di ac yn dy fendithio ar hyd y ffordd. (2 Cor. 4:7) Ac os nad wyt ti’n rhoi’r gorau iddi, byddi di’n derbyn hyd yn oed mwy o fendithion.—Gal. 6:9. w23.05 31 ¶16-18
Dydd Gwener, Hydref 31
Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi, gan eich bod chi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy mod i wedi dod i gynrychioli Duw.—Ioan 16:27.
Mae Jehofa wrth ei fodd yn dweud wrth y rhai mae’n eu caru faint maen nhw wedi ei blesio. Mae’r Beibl yn cofnodi dau achlysur pan wnaeth Jehofa hynny gyda’i Fab annwyl. (Math. 3:17; 17:5) Hoffet ti glywed Jehofa’n dweud ei fod yn hapus gyda ti? Dydy Jehofa ddim yn siarad gyda ni yn llythrennol o’r nefoedd, ond gallwn ni “glywed” ei lais trwy dudalennau ei Air. Er enghraifft, gallwn ni wneud hyn wrth inni ddarllen geiriau Iesu yn yr Efengylau. Roedd Iesu yn efelychu ei Dad yn berffaith. Felly, bob tro rydyn ni’n darllen am Iesu yn dweud bod ei ddilynwyr wedi ei blesio, gallwn ni ddychmygu Jehofa yn dweud yr un peth wrthon ni. (Ioan 15:9, 15) Dydy treialon ddim yn golygu ein bod ni wedi colli ffafr Duw. Maen nhw’n rhoi cyfle inni ddangos cymaint rydyn ni’n caru ac yn trystio Jehofa.—Iago 1:12. w24.03 28 ¶10-11