LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Heddiw

Dydd Gwener, Hydref 31

Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi, gan eich bod chi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy mod i wedi dod i gynrychioli Duw.—Ioan 16:27.

Mae Jehofa wrth ei fodd yn dweud wrth y rhai mae’n eu caru faint maen nhw wedi ei blesio. Mae’r Beibl yn cofnodi dau achlysur pan wnaeth Jehofa hynny gyda’i Fab annwyl. (Math. 3:17; 17:5) Hoffet ti glywed Jehofa’n dweud ei fod yn hapus gyda ti? Dydy Jehofa ddim yn siarad gyda ni yn llythrennol o’r nefoedd, ond gallwn ni “glywed” ei lais trwy dudalennau ei Air. Er enghraifft, gallwn ni wneud hyn wrth inni ddarllen geiriau Iesu yn yr Efengylau. Roedd Iesu yn efelychu ei Dad yn berffaith. Felly, bob tro rydyn ni’n darllen am Iesu yn dweud bod ei ddilynwyr wedi ei blesio, gallwn ni ddychmygu Jehofa yn dweud yr un peth wrthon ni. (Ioan 15:​9, 15) Dydy treialon ddim yn golygu ein bod ni wedi colli ffafr Duw. Maen nhw’n rhoi cyfle inni ddangos cymaint rydyn ni’n caru ac yn trystio Jehofa.—Iago 1:12. w24.03 28 ¶10-11

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Sadwrn, Tachwedd 1

O gegau plant a babanod, rwyt ti wedi ennyn clod.—Math. 21:16.

Os oes gen ti blant, helpa nhw i baratoi atebion sy’n addas i’w hoed. Weithiau mae pynciau difrifol yn cael eu trafod, fel problemau yn y briodas neu faterion moesol. Ond mae’n debyg bydd ’na o leiaf un neu ddau o baragraffau lle bydd plentyn yn gallu rhoi sylwad. Hefyd, helpa dy blant i ddeall pam fyddan nhw ddim yn cael eu dewis bob tro maen nhw’n rhoi eu llaw i fyny. Bydd deall hyn yn eu helpu nhw i beidio â theimlo’n siomedig pan fydd eraill yn cael eu dewis. (1 Tim. 6:18) Gall pob un ohonon ni roi atebion sy’n moli Jehofa ac sy’n calonogi ein brodyr a’n chwiorydd. (Diar. 25:11) Efallai gallwn ni roi profiad personol byr ar adegau, ond dylen ni osgoi siarad gormod amdanon ni’n hunain. (Diar. 27:2; 2 Cor. 10:18) Yn lle gwneud hynny, gwna dy orau i ganolbwyntio ar Jehofa, ei Air, a’i bobl.—Dat. 4:11. w23.04 24-25 ¶17-18

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Sul, Tachwedd 2

Mae’n rhaid inni beidio â chysgu fel y mae’r gweddill yn gwneud, ond gadewch inni aros yn effro a chadw’n pennau.—1 Thes. 5:6.

Mae cariad yn hanfodol er mwyn inni aros yn effro a chadw ein pennau. (Math. 22:​37-39) Mae caru Duw yn ein helpu ni i ddal ati i bregethu, hyd yn oed os ydy hynny’n achosi trafferthion inni. (2 Tim. 1:​7, 8) Oherwydd ein bod ni’n caru’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni’n parhau i bregethu, gan gynnwys tystiolaethu dros y ffôn neu drwy lythyrau. Rydyn ni’n dal i obeithio bydd ein cymdogion yn newid ac yn dechrau gwneud beth sy’n iawn. (Esec. 18:​27, 28) Rydyn ni hefyd yn caru ein brodyr a’n chwiorydd, ac yn dangos hynny drwy ‘annog ein gilydd a chryfhau ein gilydd.’ (1 Thes. 5:11) Fel milwyr sy’n brwydro ochr yn ochr, rydyn ni’n calonogi ein gilydd. Fydden ni byth yn brifo ein brodyr a’n chwiorydd yn fwriadol nac yn talu drwg am ddrwg i unrhyw un. (1 Thes. 5:​13, 15) Rydyn ni hefyd yn dangos cariad drwy barchu’r brodyr sy’n arwain yn y gynulleidfa.—1 Thes. 5:12. w23.06 9 ¶6; 11 ¶10-11

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu