Numeri
28 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Rho’r gorchymyn hwn i’r Israeliaid, ‘Mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod chi’n cyflwyno fy offrwm imi, fy mara. Mae’n rhaid i’r offrymau hyn gael eu cyflwyno imi drwy dân ar eu hamser penodedig, a bydd yr arogl yn fy mhlesio i.’
3 “A dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma’r offrwm y byddwch chi’n ei gyflwyno i Jehofa drwy dân: dau oen gwryw sy’n flwydd oed ac sy’n ddi-nam fel offrwm llosg rheolaidd bob dydd. 4 Byddwch chi’n offrymu un oen gwryw yn y bore, a byddwch chi’n offrymu’r oen gwryw arall yn y gwyll,* 5 ynghyd â degfed ran o effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew olewydd pur fel offrwm grawn. 6 Mae’n offrwm llosg rheolaidd a gafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai fel arogl sy’n plesio Duw, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, 7 ynghyd â’i offrwm diod, chwarter hin ar gyfer pob oen gwryw. Mae’n rhaid ichi dywallt* y ddiod alcoholig yn y lle sanctaidd fel offrwm diod i Jehofa. 8 A byddwch chi’n offrymu’r oen gwryw arall yn y gwyll,* gyda’r un offrwm grawn a’r un offrwm diod ag sy’n cael eu gwneud yn y bore. Byddwch chi’n ei gyflwyno fel offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio.
9 “‘Sut bynnag, ar ddiwrnod y Saboth, dylech chi offrymu dau oen gwryw sy’n flwydd oed ac sy’n ddi-nam, a dwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, yn ogystal â’i offrwm diod. 10 Dyma’r offrwm llosg ar gyfer y Saboth, ynghyd â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm diod.
11 “‘Ar ddechrau pob mis byddwch chi’n cyflwyno’r rhain fel offrwm llosg i Jehofa: dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 12 a thair rhan o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer pob tarw, a dwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer yr hwrdd,* 13 a degfed ran o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer pob oen gwryw, fel offrwm llosg, offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. 14 Ac ynglŷn â’u hoffrymau diod, dylech chi offrymu hanner hin o win ar gyfer tarw, ac un rhan o dair o hin ar gyfer yr hwrdd,* a chwarter hin ar gyfer oen gwryw. Dyma’r offrwm llosg y byddwch chi’n ei offrymu bob mis yn ystod y flwyddyn. 15 Hefyd, mae’n rhaid offrymu un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod i Jehofa, yn ogystal â’r offrwm llosg rheolaidd ynghyd â’i offrwm diod.
16 “‘Bydd Pasg Jehofa yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis. 17 Ac ar y pymthegfed* diwrnod o’r mis hwn, bydd ’na ŵyl. Bydd bara croyw yn cael ei fwyta am saith diwrnod. 18 Ar y diwrnod cyntaf bydd ’na gynhadledd sanctaidd. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. 19 A byddwch chi’n cyflwyno’r rhain fel offrwm llosg drwy dân i Jehofa: dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n flwydd oed. Dylech chi offrymu anifeiliaid sy’n ddi-nam. 20 Dylech chi eu hoffrymu nhw gyda’u hoffrymau grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, tair rhan o ddeg o effa ar gyfer tarw a dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd.* 21 Byddwch chi’n offrymu degfed ran ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 22 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 23 Byddwch chi’n offrymu’r rhain ar wahân i offrwm llosg y bore, sy’n cael ei gyflwyno fel offrwm llosg rheolaidd. 24 Byddwch chi’n offrymu’r rhain yn yr un ffordd bob dydd am saith diwrnod fel bwyd, bydd yn offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. Dylai gael ei offrymu ynghyd â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm diod. 25 Dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd ar y seithfed diwrnod. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled.
26 “‘Ar ddiwrnod gŵyl y ffrwythau cyntaf, pan fyddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn newydd i Jehofa, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd yn ystod gwledd yr wythnosau. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. 27 Byddwch chi’n cyflwyno dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n flwydd oed fel offrwm llosg i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. 28 Ac ynglŷn â’u hoffrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, mae’n rhaid offrymu tair rhan o ddeg o effa ar gyfer pob tarw, dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd,* 29 degfed ran o effa ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 30 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 31 Byddwch chi’n eu hoffrymu nhw yn ogystal â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn. Dylen nhw fod yn anifeiliaid di-nam, yn ogystal â’u hoffrymau diod.