Numeri
5 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid anfon allan o’r gwersyll bob person sy’n dioddef o’r gwahanglwyf ac unrhyw un sydd â rhedlif ac unrhyw un sy’n aflan oherwydd ei fod wedi cyffwrdd â rhywun marw. 3 Dylech chi eu hanfon nhw allan, yn wryw neu’n fenyw. Dylech chi eu hanfon nhw allan o’r gwersyll, fel na fyddan nhw’n heintio gwersylloedd y rhai rydw i’n byw yn eu plith.” 4 Felly dyma’r Israeliaid yn gwneud hynny ac yn eu hanfon nhw allan o’r gwersyll. Gwnaeth yr Israeliaid yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrth Moses.
5 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 6 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd dyn neu ddynes* yn anffyddlon i Jehofa ac yn cyflawni unrhyw un o’r pechodau sy’n gyffredin i bobl, bydd y person hwnnw’n dod yn euog. 7 Mae’n rhaid iddo gyfaddef y pechod mae wedi ei gyflawni a thalu’r cyfan yn ôl i wneud yn iawn am ei euogrwydd gan ychwanegu un rhan o bump o’i werth, a rhoi’r cwbl i’r un mae ef wedi pechu yn ei erbyn. 8 Ond os ydy’r person hwnnw wedi marw a does ganddo ddim perthynas agos i dderbyn yr iawndal, dylai gael ei roi i Jehofa, a bydd yn perthyn i’r offeiriad, yn ogystal â hwrdd* y cymod, yr un bydd yr offeiriad yn ei aberthu i Dduw er mwyn i’r un euog gael maddeuant.
9 “‘Bydd pob cyfraniad sanctaidd mae’r Israeliaid yn ei gyflwyno i’r offeiriad yn perthyn i’r offeiriad. 10 Bydd y pethau sanctaidd mae’r offeiriad yn eu derbyn gan bob person yn perthyn i’r offeiriad.’”
11 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 12 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth ddylai ddigwydd os ydy gwraig yn anffyddlon i’w gŵr 13 ac yn cael cyfathrach rywiol â dyn arall, ond doedd ei gŵr ddim yn gwybod am y peth, ac mae’n aros yn gyfrinach, fel ei bod hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan, ond does dim tyst yn ei herbyn hi, a dydy hi ddim wedi cael ei dal: 14 Os ydy’r gŵr yn dod yn genfigennus ac yn amheus o ffyddlondeb ei wraig, yna p’un a ydy hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan neu beidio, 15 dylai’r dyn ddod â’i wraig at yr offeiriad, yn ogystal ag offrwm drosti, un rhan o ddeg o effa* o flawd* haidd. Ni ddylai ef dywallt* olew arno na rhoi thus arno, oherwydd mae’n offrwm grawn o eiddigedd, offrwm grawn sy’n dod ag euogrwydd i’r amlwg.
16 “‘Bydd yr offeiriad yn dod â hi ymlaen, ac yn gwneud iddi sefyll o flaen Jehofa. 17 Bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr pur* mewn llestr pridd, ac yn cymryd ychydig o lwch o lawr y tabernacl a’i roi yn y dŵr. 18 A bydd yr offeiriad yn gwneud i’r ddynes* sefyll o flaen Jehofa ac yn datod gwallt y ddynes* ac yn rhoi’r offrwm grawn sy’n dwyn euogrwydd i’r cof yn ei dwylo hi, hynny yw, yr offrwm grawn o eiddigedd, a bydd y dŵr chwerw sy’n dod â melltith yn llaw yr offeiriad.
19 “‘Yna bydd yr offeiriad yn gwneud iddi dyngu llw gan ddweud wrthi: “Os na chafodd unrhyw ddyn arall gyfathrach rywiol â ti pan oeddet ti o dan awdurdod dy ŵr a dwyt ti ddim wedi crwydro a dy wneud dy hun yn aflan, yna ni fydd y dŵr chwerw hwn sy’n dod â melltith yn cael unrhyw effaith arnat ti. 20 Ond os wyt ti wedi crwydro a dy wneud dy hun yn aflan tra oeddet ti o dan awdurdod dy ŵr, ac wedi cael cyfathrach rywiol â dyn arall heblaw am dy ŵr—” 21 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud i’r ddynes* dyngu llw sy’n cynnwys melltith, a bydd yr offeiriad yn dweud wrth y ddynes:* “Gad i Jehofa wneud i dy enw gael ei ddefnyddio gan dy bobl pan fyddan nhw’n melltithio neu’n tyngu llw, wrth i Jehofa dy rwystro di rhag cael plant* a gwneud i dy fol chwyddo. 22 Bydd y dŵr hwn sy’n dod â melltith yn treiddio’n ddwfn y tu mewn iti ac yn gwneud i dy fol chwyddo ac yn dy rwystro di rhag cael plant.”* A dylai’r ddynes* ateb: “Amen! Amen!”*
23 “‘Yna dylai’r offeiriad ysgrifennu’r melltithion hyn yn y llyfr a’u golchi nhw i ffwrdd i mewn i’r dŵr chwerw. 24 Yna bydd yn gwneud i’r ddynes* yfed y dŵr chwerw sy’n dod â melltith, a bydd y dŵr sy’n dod â melltith yn mynd i mewn iddi ac yn achosi chwerwder. 25 A dylai’r offeiriad gymryd yr offrwm grawn o eiddigedd o law’r ddynes* a chwifio’r offrwm grawn yn ôl ac ymlaen o flaen Jehofa, a bydd yr offeiriad yn dod â’r offrwm yn agos at yr allor. 26 Bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw o’r offrwm grawn fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ac wedyn bydd yn gwneud i’r ddynes* yfed y dŵr. 27 Pan fydd yn gwneud iddi yfed y dŵr, os ydy hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan ac wedi bod yn anffyddlon i’w gŵr, yna bydd y dŵr sy’n dod â melltith yn mynd i mewn iddi ac yn achosi chwerwder, a bydd ei bol yn chwyddo, a bydd hi’n colli ei gallu i gael plant,* a bydd ei henw yn felltith ymysg ei phobl. 28 Ond, os ydy’r ddynes* yn lân a dydy hi ddim wedi ei gwneud ei hun yn aflan, yna fydd hi ddim yn cael ei chosbi fel hyn, a bydd hi’n gallu beichiogi a chael plant.
29 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn ag eiddigedd, pan fydd dynes* wedi crwydro a’i gwneud ei hun yn aflan tra ei bod hi o dan awdurdod ei gŵr, 30 neu os ydy dyn yn dechrau teimlo’n eiddigeddus ac yn meddwl bod ei wraig yn anffyddlon; dylai ef wneud i’w wraig sefyll o flaen Jehofa, ac mae’n rhaid i’r offeiriad ei thrin hi yn unol â’r holl gyfraith hon. 31 Ni fydd y dyn yn euog, ond bydd ei wraig yn atebol am ei heuogrwydd.’”