Numeri
8 Siaradodd Jehofa â Moses gan ddweud: 2 “Dyweda wrth Aaron, ‘Pan fyddi di’n goleuo’r lampau, dylai golau’r saith lamp ddisgleirio ar y lle o flaen y canhwyllbren.’” 3 Felly dyma beth wnaeth Aaron: Gosododd y lampau er mwyn goleuo’r lle o flaen y canhwyllbren, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 4 Dyma sut cafodd y canhwyllbren ei wneud: Roedd wedi ei wneud o aur wedi ei guro â morthwyl; o’i goes i’w flodau, roedd yn waith curedig. Cafodd y canhwyllbren ei wneud yn ôl y weledigaeth roedd Jehofa wedi ei dangos i Moses.
5 Siaradodd Jehofa â Moses unwaith eto, gan ddweud: 6 “Cymera’r Lefiaid o blith yr Israeliaid, a’u puro nhw. 7 Dyma sut dylet ti eu puro nhw: Cymera ddŵr i’w glanhau nhw o’u pechod, a’i daenellu arnyn nhw, ac mae’n rhaid iddyn nhw siafio eu cyrff cyfan â rasel, golchi eu dillad, a’u puro eu hunain. 8 Yna byddan nhw’n cymryd tarw ifanc a’i offrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, a byddi di’n cymryd tarw ifanc arall fel offrwm dros bechod. 9 Ac mae’n rhaid iti gyflwyno’r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasglu holl gynulleidfa Israel at ei gilydd. 10 Pan fyddi di’n cyflwyno’r Lefiaid o flaen Jehofa, mae’n rhaid i’r Israeliaid osod eu dwylo ar y Lefiaid. 11 Ac mae’n rhaid i Aaron offrymu’r* Lefiaid o flaen Jehofa fel offrwm chwifio gan yr Israeliaid, a byddan nhw’n cyflawni gwasanaeth Jehofa.
12 “Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar bennau’r teirw. Wedyn, dylai un ohonyn nhw gael ei offrymu fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg i Jehofa, er mwyn i’r Lefiaid gael maddeuant. 13 A byddi di’n gwneud i’r Lefiaid sefyll o flaen Aaron a’i feibion ac yn eu hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio i Jehofa. 14 Mae’n rhaid iti neilltuo’r Lefiaid o blith yr Israeliaid, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. 15 Ar ôl hynny, bydd y Lefiaid yn dod i mewn i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Dyma sut dylet ti eu puro nhw a’u hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio. 16 Oherwydd maen nhw wedi eu neilltuo o blith yr Israeliaid ac wedi eu rhoi i mi. Bydda i’n eu cymryd nhw i fi fy hun, yn lle pob un o’r Israeliaid sy’n gyntaf-anedig. 17 Oherwydd mae pob cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid yn eiddo i mi, yn ddyn neu’n anifail. Gwnes i eu sancteiddio nhw i fi fy hun ar y diwrnod y gwnes i daro i lawr bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft. 18 Bydda i’n cymryd y Lefiaid yn lle’r holl rai cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid. 19 Ac o blith yr Israeliaid, bydda i’n rhoi’r Lefiaid i Aaron a’i feibion, er mwyn iddyn nhw gyflawni’r gwasanaeth ar ran yr Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac er mwyn iddyn nhw helpu’r Israeliaid i gael maddeuant. Wedyn, ni fydd yr Israeliaid yn mynd yn agos at y lle sanctaidd, ac felly ni fydd unrhyw drychineb yn dod ar y bobl.”
20 Dyma beth wnaeth Moses ac Aaron a holl gynulleidfa Israel ynglŷn â’r Lefiaid. Yn unol â phopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses ynglŷn â’r Lefiaid, dyna beth wnaeth yr Israeliaid. 21 Felly dyma’r Lefiaid yn eu puro eu hunain ac yn golchi eu dillad, wedyn gwnaeth Aaron eu hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. Yna cyflwynodd Aaron offrwm er mwyn eu glanhau nhw o’u pechod. 22 Wedi hynny, aeth y Lefiaid i mewn i gyflawni eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod o flaen Aaron a’i feibion. Yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ynglŷn â’r Lefiaid, dyna beth wnaethon nhw.
23 Yna siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 24 “Dyma’r drefn ar gyfer y Lefiaid: Pan fydd dyn yn 25 mlwydd oed neu’n hŷn, bydd ef yn ymuno â’r rhai sy’n gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. 25 Ond ar ôl iddo droi’n 50, bydd yn ymddeol o’r gwasanaeth ac yn stopio gwasanaethu. 26 Bydd ef yn cael gweini ar ei frodyr sy’n gofalu am y cyfrifoldebau ym mhabell y cyfarfod, ond mae’n rhaid iddo beidio â gwasanaethu yno. Dyma beth sy’n rhaid iti ei wneud ynglŷn â’r Lefiaid a’u cyfrifoldebau.”