LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Brenhinoedd 14
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Brenhinoedd

      • Proffwydoliaeth Aheia yn erbyn Jeroboam (1-20)

      • Rehoboam yn teyrnasu dros Jwda (21-31)

        • Ymosodiad Sisac (25, 26)

1 Brenhinoedd 14:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “Dylet ti ddweud hyn a hyn wrthi.”

1 Brenhinoedd 14:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “clirio’r dom; tail; baw.”

1 Brenhinoedd 14:15

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, Afon Ewffrates.

1 Brenhinoedd 14:20

Troednodiadau

  • *

    Neu “ar ôl hynny gorweddodd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

1 Brenhinoedd 14:26

Troednodiadau

  • *

    Neu “palas.”

1 Brenhinoedd 14:31

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Rehoboam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • *

    Hefyd yn cael ei alw’n Abeia.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Brenhinoedd 14:1-31

Cyntaf Brenhinoedd

14 Bryd hynny dyma Abeia fab Jeroboam yn mynd yn sâl. 2 Felly dywedodd Jeroboam wrth ei wraig: “Cod plîs, a chuddia pwy wyt ti fel fyddan nhw ddim yn gwybod mai fy ngwraig i wyt ti, a dos i Seilo. Edrycha! Mae Aheia y proffwyd yno. Ef yw’r un wnaeth sôn amdana i yn dod yn frenin ar y bobl hyn. 3 Cymera ddeg torth o fara gyda ti, yn ogystal â chacennau, a phot o fêl, a dos ato. Yna bydd ef yn dweud wrthot ti beth fydd yn digwydd i’r bachgen.”

4 Gwnaeth gwraig Jeroboam fel roedd ef wedi dweud. Cododd a mynd i Seilo a daeth i dŷ Aheia. Roedd llygaid Aheia yn syllu’n syth ymlaen, a doedd ef ddim yn gallu gweld oherwydd ei henaint.

5 Ond roedd Jehofa wedi dweud wrth Aheia: “Mae gwraig Jeroboam yn dod i dy holi di ynglŷn â’i mab, am ei fod yn sâl. Gwna i ddweud wrthot ti sut i’w hateb hi.* Pan fydd hi’n cyrraedd, bydd hi’n cuddio pwy ydy hi.”

6 Unwaith i Aheia glywed sŵn ei thraed wrth iddi ddod i mewn i’r fynedfa, dywedodd: “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam. Pam rwyt ti’n cuddio pwy wyt ti? Rydw i wedi cael fy aseinio i roi newyddion drwg iti. 7 Dos i ddweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: “Gwnes i dy godi di o blith dy bobl, i dy wneud di’n arweinydd dros fy mhobl Israel. 8 Yna gwnes i rwygo’r deyrnas i ffwrdd oddi wrth dŷ Dafydd a’i rhoi i ti. Ond dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion nac wedi fy nilyn i â dy holl galon fel gwnaeth fy ngwas Dafydd, roedd ef ond yn gwneud beth oedd yn iawn yn fy ngolwg i. 9 Rwyt ti wedi ymddwyn yn waeth na phawb a ddaeth o dy flaen di, ac rwyt ti wedi gwneud duw arall a delwau metel i ti dy hun er mwyn fy nigio i, ac rwyt ti wedi troi dy gefn arna i. 10 Am y rheswm hwnnw rydw i’n dod â thrychineb ar dŷ Jeroboam, a bydda i’n cael gwared ar bob gwryw o deulu Jeroboam, gan gynnwys hyd yn oed y mwyaf gwan ac isel yn Israel, a bydda i’n ysgubo tŷ Jeroboam i ffwrdd, yn union fel mae rhywun yn clirio’r carthion* nes bod y cyfan wedi mynd! 11 Bydd unrhyw un sy’n perthyn i Jeroboam sy’n marw yn y ddinas yn cael ei fwyta gan y cŵn; a bydd unrhyw un sy’n marw yn y cae yn cael ei fwyta gan adar y nefoedd, oherwydd dyna mae Jehofa wedi ei ddweud.”’

12 “Nawr cod a dos adref. Pan fyddi di’n camu i mewn i’r ddinas, bydd y plentyn yn marw. 13 Bydd Israel gyfan yn galaru drosto ac yn ei gladdu, oherwydd ef yw’r unig un o deulu Jeroboam a fydd yn cael ei gladdu mewn bedd, oherwydd ef yw’r unig un o dŷ Jeroboam mae Jehofa, Duw Israel, wedi gweld rhywbeth da ynddo. 14 Bydd Jehofa yn codi brenin iddo’i hun ar Israel a fydd yn cael gwared ar dŷ Jeroboam o’r diwrnod hwnnw ymlaen, ie, hyd yn oed nawr. 15 Bydd Jehofa yn taro Israel i lawr fel corsen sy’n siglo yn y dŵr, a bydd yn dadwreiddio Israel o’r wlad dda hon a roddodd ef i’w cyndadau, a bydd yn eu gwasgaru nhw y tu hwnt i’r Afon,* oherwydd gwnaethon nhw eu polion cysegredig, gan ddigio Jehofa. 16 A bydd yn cefnu ar Israel oherwydd y pechodau mae Jeroboam wedi eu cyflawni a’r rhai mae wedi achosi i Israel eu cyflawni.”

17 Gyda hynny, cododd gwraig Jeroboam a mynd i Tirsa. Pan ddaeth hi at drothwy’r tŷ, bu farw’r bachgen. 18 Felly dyma nhw’n ei gladdu a galarodd Israel gyfan drosto, yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud drwy ei was Aheia y proffwyd.

19 Ac mae gweddill hanes Jeroboam, sut gwnaeth ef ryfela a theyrnasu, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 20 A theyrnasodd Jeroboam am 22 mlynedd, ar ôl hynny bu farw;* a daeth ei fab Nadab yn frenin yn ei le.

21 Yn y cyfamser, roedd Rehoboam fab Solomon wedi dod yn frenin yn Jwda. Roedd Rehoboam yn 41 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 17 mlynedd yn Jerwsalem, y ddinas roedd Jehofa wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i sefydlu ei enw yno. Enw mam Rehoboam oedd Naama yr Ammones. 22 Ac roedd Jwda yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a gwnaethon nhw ei gythruddo yn fwy nag yr oedd eu cyndadau wedi gwneud oherwydd eu pechodau. 23 Hefyd gwnaethon nhw barhau i adeiladu uchelfannau iddyn nhw eu hunain, a cholofnau cysegredig, a pholion cysegredig ar bob bryn uchel ac o dan bob coeden ddeiliog. 24 Yn y wlad roedd ’na hefyd ddynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn eu temlau. Roedden nhw’n gwneud pethau hollol ffiaidd, fel gwnaeth y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid.

25 Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem. 26 Cymerodd drysorau tŷ Jehofa, a thrysorau tŷ* y brenin. Cymerodd bopeth, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud. 27 Felly, gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau o gopr yn eu lle, a rhoddodd nhw o dan ofal penaethiaid y gwarchodlu, a oedd yn gwarchod mynedfa tŷ’r brenin. 28 Bryd bynnag roedd y brenin yn mynd i dŷ Jehofa, byddai’r gwarchodlu yn dod gydag ef ac yn cario’r tarianau, ac yna yn eu rhoi nhw yn ôl yn ystafell y gwarchodlu.

29 Ac ynglŷn â gweddill hanes Rehoboam, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 30 Roedd ’na ryfela di-baid rhwng Rehoboam a Jeroboam. 31 Yna bu farw Rehoboam* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. Enw ei fam oedd Naama yr Ammones. A daeth ei fab Abeiam* yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu