LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 13
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Yr Arch yn dod o Ciriath-jearim (1-14)

        • Ussa yn cael ei daro i lawr (9, 10)

1 Cronicl 13:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “o Sihor.”

  • *

    Neu “mynedfa Hamath.”

1 Cronicl 13:6

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “rhwng.”

1 Cronicl 13:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “ypsetio.”

  • *

    Sy’n golygu “Ffrwydriad yn Erbyn Ussa.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 13:1-14

Cyntaf Cronicl

13 Gwnaeth Dafydd ymgynghori â phenaethiaid y miloedd ac â phenaethiaid y cannoedd ac â phob arweinydd arall. 2 Yna dywedodd Dafydd wrth holl gynulleidfa Israel: “Os yw’n dda i chi ac os yw’n dderbyniol i Jehofa ein Duw, dewch inni anfon neges at weddill ein brodyr yn holl ardaloedd Israel, a hefyd at yr offeiriaid a’r Lefiaid yn eu dinasoedd sydd â thiroedd pori, i ddweud wrthyn nhw am ddod i ymuno â ni. 3 A dewch inni ddod ag Arch ein Duw yn ôl.” Roedd hyn oherwydd doedden nhw ddim wedi gofalu amdani yn nyddiau Saul. 4 Cytunodd y gynulleidfa gyfan i hynny, am fod pawb yn meddwl mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. 5 Felly casglodd Dafydd Israel gyfan at ei gilydd, o afon* yr Aifft mor bell â Lebo-hamath,* er mwyn dod ag Arch y gwir Dduw o Ciriath-jearim.

6 Aeth Dafydd ac Israel gyfan i fyny i Baala, i Ciriath-jearim, sy’n perthyn i Jwda, i nôl Arch y gwir Dduw, Jehofa, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben* y cerwbiaid, yr Arch lle mae pobl yn galw ar ei enw. 7 Ond rhoddon nhw Arch y gwir Dduw ar wagen newydd a daethon nhw â hi o dŷ Abinadab, ac roedd Ussa ac Ahïo yn arwain y wagen. 8 Roedd Dafydd ac Israel gyfan yn dathlu â’u holl nerth o flaen y gwir Dduw i sŵn caneuon, telynau, offerynnau llinynnol eraill, tambwrinau, symbalau, a thrwmpedi. 9 Ond pan ddaethon nhw at lawr dyrnu Cidon, dyma’r wagen bron yn troi drosodd oherwydd y gwartheg, felly estynnodd Ussa ei law a gafael yn yr Arch. 10 Gyda hynny, gwylltiodd Jehofa ag Ussa a’i daro i lawr am ei fod wedi estyn ei law a gafael yn yr Arch, a bu farw yn y fan a’r lle o flaen Duw. 11 Ond dyma Dafydd yn digio* oherwydd bod llid Jehofa wedi ffrwydro yn erbyn Ussa; ac mae’r lle hwnnw wedi cael ei alw’n Peres-ussa* hyd heddiw.

12 Daeth Dafydd yn ofnus o’r gwir Dduw y diwrnod hwnnw, a dywedodd Dafydd: “Sut galla i ddod ag Arch y gwir Dduw ata i?” 13 Ni ddaeth Dafydd â’r Arch i le roedd yn byw yn Ninas Dafydd, yn hytrach, trefnodd iddi gael ei chymryd i dŷ Obed-edom y Gethiad. 14 Roedd Arch y gwir Dduw gyda theulu Obed-edom, ac arhosodd yr Arch yn ei dŷ am dri mis, ac roedd Jehofa yn parhau i fendithio teulu Obed-edom a phopeth oedd ganddo.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu