LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 18
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Buddugoliaethau Dafydd (1-13)

      • Gweinyddiaeth Dafydd (14-17)

1 Cronicl 18:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “anrhegion.”

1 Cronicl 18:4

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, torri llinynnau garrau y ceffylau.

1 Cronicl 18:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “anrhegion.”

  • *

    Neu “achubiaeth.”

1 Cronicl 18:11

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “sancteiddio.”

1 Cronicl 18:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “achubiaeth.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 18:1-17

Cyntaf Cronicl

18 Beth amser wedyn, trechodd Dafydd y Philistiaid yn llwyr, a chymerodd Gath a’i threfi cyfagos o ddwylo’r Philistiaid. 2 Yna trechodd Moab, a daeth y Moabiaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo.

3 Tra oedd Hadadeser brenin Soba ar ei ffordd i sefydlu ei awdurdod yn nhiriogaeth Afon Ewffrates, gwnaeth Dafydd ei drechu wrth ymyl Hamath. 4 Cipiodd Dafydd 1,000 o gerbydau, 7,000 o farchogion, ac 20,000 o filwyr oddi arno. Yna, dyma Dafydd yn gwneud y ceffylau cerbyd yn gloff,* oni bai am 100 ohonyn nhw. 5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, dyma Dafydd yn taro i lawr 22,000 o’r Syriaid. 6 Yna sefydlodd Dafydd garsiynau ymhlith y Syriaid yn Namascus, a daeth y Syriaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd. 7 Hefyd, cymerodd Dafydd y tarianau aur crwn oddi ar weision Hadadeser a dod â nhw i Jerwsalem. 8 Cymerodd Dafydd lawer iawn o gopr o Tibhath a Cun, dinasoedd Hadadeser. Defnyddiodd Solomon y copr hwnnw i wneud y Môr copr, y colofnau, a’r offer copr.

9 Clywodd Toi, brenin Hamath, fod Dafydd wedi trechu byddin gyfan Hadadeser, brenin Soba. 10 Felly, dyma Toi yn anfon ei fab Hadoram at y Brenin Dafydd ar unwaith i ddymuno’n dda iddo, ac i’w longyfarch am ei fod wedi ymladd yn erbyn Hadadeser a’i drechu (oherwydd roedd Hadadeser wedi ymladd yn erbyn Toi yn aml), a daeth ef â phob math o bethau wedi eu gwneud allan o aur, arian, a chopr. 11 Gwnaeth y Brenin Dafydd gysegru’r* rhain i Jehofa, yn ogystal â’r arian a’r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd: oddi ar Edom a Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid, a’r Amaleciaid.

12 Gwnaeth Abisai fab Seruia daro i lawr 18,000 o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen. 13 Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth yr holl Edomiaid yn weision i Dafydd. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd. 14 Parhaodd Dafydd i reoli dros Israel gyfan, ac fe wnaeth beth oedd yn iawn ac yn deg ar gyfer ei holl bobl. 15 Joab fab Seruia oedd dros y fyddin, Jehosaffat fab Ahilud oedd cofnodwr y brenin, 16 Sadoc fab Ahitub ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Safsa oedd yr ysgrifennydd. 17 Roedd Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a’r Pelethiaid. Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion i’r brenin.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu