LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 4
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Yr allor, y Môr, a’r basnau (1-6)

      • Canwyllbrennau, byrddau, a chyrtiau (7-11a)

      • Popeth yn y deml yn cael ei gwblhau (11b-22)

2 Cronicl 4:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 82

2 Cronicl 4:3

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “gowrdiau.”

  • *

    Llyth., “gowrdiau.”

2 Cronicl 4:5

Troednodiadau

  • *

    Tua 7.4 cm (2.9 mod.).

  • *

    Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).

2 Cronicl 4:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “troli dŵr.”

2 Cronicl 4:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “y bara gosod.”

2 Cronicl 4:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “a’r gefeiliau.”

2 Cronicl 4:22

Troednodiadau

  • *

    Neu “y sisyrnau diffodd fflamau.”

  • *

    Llyth., “tŷ’r deml.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 4:1-22

Ail Cronicl

4 Yna gwnaeth yr allor gopr, 20 cufydd o hyd, 20 cufydd o led, a 10 cufydd o uchder.

2 Dyma’n castio basn dŵr enfawr o gopr a’i alw y Môr. Roedd yn grwn, yn 10 cufydd o un ymyl i’r llall ac yn 5 cufydd o uchder, ac roedd ganddo gylchedd o 30 cufydd. 3 Ac roedd ’na ffrwythau bach crwn* addurniadol oddi tano, yn mynd o’i amgylch yn gyfan gwbl, deg i bob cufydd yr holl ffordd o gwmpas y Môr. Roedd y ffrwythau bach crwn* mewn dwy res, ac roedden nhw wedi eu castio fel un darn gyda’r basn. 4 Roedd yn sefyll ar 12 tarw, 3 yn wynebu’r gogledd, 3 yn wynebu’r gorllewin, 3 yn wynebu’r de, a 3 yn wynebu’r dwyrain; ac roedd y Môr yn eistedd arnyn nhw, ac roedd eu cynffonnau i gyd tua’r canol. 5 Roedd yn lled llaw* o drwch; ac roedd ei ymyl wedi ei ffurfio fel ymyl cwpan, fel blodyn lili. Roedd y basn yn gallu dal 3,000 mesur bath* o ddŵr.

6 Hefyd, gwnaeth ddeg basn ar gyfer golchi, a rhoddodd bump ar y dde a phump ar y chwith. Bydden nhw’n eu defnyddio nhw i olchi’r pethau oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrymau llosg. Ond roedd yr offeiriaid yn defnyddio’r Môr er mwyn ymolchi.

7 Yna gwnaeth ddeg canhwyllbren aur, yn ôl y cynllun, a’u rhoi nhw yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.

8 Hefyd, gwnaeth ddeg bwrdd a’u rhoi nhw yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith; yn ogystal â 100 powlen aur.

9 Yna adeiladodd gwrt yr offeiriaid a’r cwrt mawr, a’r drysau ar gyfer y cwrt, a gorchuddio eu drysau â chopr. 10 A rhoddodd y Môr ar yr ochr dde, tua’r de-ddwyrain.

11 Hefyd gwnaeth Hiram y llestri lludw, y rhawiau, a’r powlenni.

Felly gorffennodd Hiram y gwaith roedd ganddo i’w wneud ar dŷ’r gwir Dduw ar ran y Brenin Solomon: 12 y ddwy golofn a’r capanau crwn oedd ar ben y ddwy golofn; y ddau rwydwaith oedd yn gorchuddio’r capanau ar ben y colofnau; 13 y 400 o bomgranadau ar gyfer y ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i bob rhwydwaith i orchuddio’r ddau gapan oedd ar ben y colofnau; 14 y deg cerbyd* a’r deg basn ar ben y cerbydau; 15 y Môr a’r 12 tarw oddi tano; 16 a’r llestri lludw, y rhawiau, y ffyrc, a’u holl offer. Gwnaeth Hiram-abif yr holl bethau hyn allan o gopr wedi ei sgleinio, a hynny ar gyfer tŷ Jehofa ar ran y Brenin Solomon. 17 Gorchmynnodd y brenin fod y copr yn cael ei gastio yn y clai trwchus yn ardal yr Iorddonen, rhwng Succoth a Sereda. 18 Gwnaeth Solomon nifer enfawr o’r holl offer hyn; wnaethon nhw ddim darganfod pwysau’r holl gopr.

19 Gwnaeth Solomon yr holl offer ar gyfer tŷ’r gwir Dduw: yr allor aur; y byrddau ar gyfer y bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 20 y canwyllbrennau a’u lampau o aur pur i losgi o flaen yr ystafell fewnol yn ôl y gofynion; 21 y blodau agored, y lampau, a’r offer i ddal y wic,* wedi eu gwneud o aur, yr aur puraf; 22 yr offer diffodd fflamau,* y powlenni, y cwpanau, a’r llestri i ddal tân, o aur pur; a mynedfa’r tŷ, ei ddrysau mewnol ar gyfer y Mwyaf Sanctaidd, a drysau’r Sanctaidd,* wedi eu gwneud o aur.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu