Ail Cronicl
27 Roedd Jotham yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 16 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jerusa ferch Sadoc. 2 Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad Usseia wedi gwneud, ond yn wahanol i’w dad wnaeth ef ddim mynnu mynd i mewn i deml Jehofa. Ond, roedd y bobl yn dal i ymddwyn yn ddrwg. 3 Adeiladodd giât uchaf tŷ Jehofa, a gwnaeth ef lawer o waith adeiladu ar wal Offel. 4 Hefyd adeiladodd ddinasoedd yn ardal fynyddig Jwda, ac adeiladodd lefydd caerog a thyrau yn yr ardaloedd coediog. 5 Brwydrodd yn erbyn brenin yr Ammoniaid a’u trechu nhw yn y pen draw, felly yn y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid 100 talent* o arian, 10,000 mesur corus* o wenith, a 10,000 mesur corus o haidd iddo. Hefyd, gwnaeth yr Ammoniaid dalu hyn iddo yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. 6 Felly, parhaodd Jotham i dyfu’n gryf, oherwydd roedd yn benderfynol o ddilyn ffyrdd Jehofa ei Dduw.
7 Ynglŷn â gweddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a’i ffyrdd, mae hynny wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Israel a Jwda. 8 Roedd yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 16 mlynedd yn Jerwsalem. 9 Yna bu farw Jotham,* a gwnaethon nhw ei gladdu yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.