LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Pam Darllen y Beibl?
    Y Tŵr Gwylio: Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl?
    • Dynes yn tynnu’r Beibl oddi ar silff lyfrau

      AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

      Pam Darllen y Beibl?

      “Ro’n ni’n disgwyl i’r Beibl fod yn anodd ei ddeall.”—Jovy

      “Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiflas.”—Queennie

      “Pan welais i mor drwchus oedd y Beibl, collais unrhyw awydd i’w ddarllen.”—Ezekiel

      Ydych chi erioed wedi meddwl am ddarllen y Beibl ond wedi dal yn ôl oherwydd teimladau tebyg? I lawer, mae darllen y Beibl i’w weld yn ormod o dasg. Ond beth pe bai’r Beibl yn gallu eich helpu chi i gael bywyd hapusach a mwy ystyrlon? Beth pe bai modd darllen y Beibl mewn ffordd sy’n ei wneud yn fwy diddorol? A fyddech chi’n fodlon bwrw golwg ar beth sydd gan y Beibl i’w gynnig?

      Ystyriwch rai sylwadau gan bobl sydd wedi dechrau darllen y Beibl a’i fwynhau.

      Mae Ezekiel, sydd yn ei ugeiniau cynnar, yn dweud: “Ro’n i’n arfer bod fel rhywun oedd yn gyrru car ond heb ddim syniad lle roedd yn mynd. Ond mae darllen y Beibl wedi rhoi ystyr i fy mywyd. Mae’n llawn cyngor ymarferol sy’n ddefnyddiol i mi bob dydd.”

      Esbonia Frieda, sydd hefyd yn ei hugeiniau: “Roedd gen i dymer wyllt ofnadwy ar un adeg. Ond drwy ddarllen y Beibl, dw i wedi dysgu rheoli fy hun. Dw i’n berson haws tynnu ymlaen â hi rŵan, ac mae gen i fwy o ffrindiau erbyn hyn.”

      Dywed Eunice, sydd yn ei phum degau: “Mae’r Beibl yn fy helpu i fod yn berson gwell, ac i newid fy arferion llai dymunol.”

      Fel mae’r bobl hyn a miliynau o bobl eraill wedi sylweddoli, mae darllen y Beibl yn gallu gwneud bywyd yn fwy pleserus. (Eseia 48:17, 18) Ymhlith pethau eraill, gall eich helpu chi i wneud penderfyniadau da, i gael ffrindiau go iawn, ac i leihau straen. Ac yn bwysicach byth, bydd yn eich helpu chi i ddysgu’r gwir am Dduw. Mae cyngor y Beibl yn dod oddi wrth Dduw, ac mae cyngor Duw bob amser yn dda.

      Y peth pwysicaf yw dechrau arni. Pa syniadau ymarferol fydd yn eich helpu chi i roi cynnig arni a’i fwynhau?

  • Sut Gallaf Ddechrau Arni?
    Y Tŵr Gwylio: Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl?
    • AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

      Sut Gallaf Ddechrau Arni?

      Dynes yn gweddïo cyn darllen y Beibl

      Beth fydd yn eich helpu chi i fwynhau darllen y Beibl a chael y gorau ohono? Dyma bum awgrym sydd wedi helpu llawer o bobl.

      Creu’r awyrgylch iawn. Ceisiwch ddod o hyd i le tawel. Mae’n werth cael gwared ar unrhyw beth all dynnu eich sylw, fel y gallwch ganolbwyntio. Bydd digon o olau ac awyr iach yn eich helpu hefyd.

      Mynd ati gyda’r agwedd gywir. Gan fod y Beibl yn dod oddi wrth ein Tad nefol, byddwch chi’n elwa fwyaf drwy fynd ati gydag agwedd plentyn sy’n barod i ddysgu gan riant cariadus. Os oes unrhyw deimladau negyddol gynnoch chi am y Beibl, ceisiwch eu rhoi nhw o’r neilltu fel y bydd Duw yn gallu eich dysgu.—Salm 25:4.

      Gweddïo cyn darllen. Meddyliau Duw sydd yn y Beibl, felly nid yw’n syndod fod angen help Duw i’w ddeall. Mae Duw yn addo rhoi’r ysbryd glân “i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Bydd yr ysbryd glân yn eich helpu chi i ddeall meddylfryd Duw. Ac ym mhen amser, bydd yn eich helpu chi i ddeall “hyd yn oed ddyfnderoedd Duw.”—1 Corinthiaid 2:10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

      Darllen er mwyn deall. Peidiwch â darllen dim ond i fynd trwy hyn a hyn o dudalennau. Ceisiwch ddeall yr hyn rydych yn ei ddarllen. Gofynnwch gwestiynau fel: ‘Pa rinweddau sydd i’w gweld yn y cymeriad dan sylw? Sut gallaf roi hyn ar waith yn fy mywyd i?’

      Gosod amcanion penodol. I gael lles o ddarllen y Beibl, ceisiwch ddysgu rhywbeth a fydd yn eich helpu chi yn eich bywyd. Ystyriwch osod amcanion fel y rhai canlynol: ‘Hoffwn ddysgu mwy am Dduw ei hun.’ ‘Hoffwn fod yn berson gwell, yn ŵr gwell, yn wraig well.’ Yna dewiswch rannau o’r Beibl a fydd yn eich helpu chi i gyrraedd y nod hwnnw.a

      Bydd y pum awgrym hyn yn eich helpu chi i ddechrau arni. Ond a oes modd ichi wneud darllen y Beibl yn fwy diddorol byth? Bydd yr erthygl nesaf yn cynnig syniadau.

      a Os nad ydych chi’n sicr pa rannau o’r Beibl a fyddai’n addas, bydd Tystion Jehofa yn hapus i’ch helpu.

      SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

      • Cymerwch eich amser a pheidiwch â brysio

      • Ceisiwch greu darlun yn eich pen o’r hanes

      • Ceisiwch weld sut mae’r adnodau yn cysylltu â gweddill yr hanes

      • Chwiliwch am y gwersi yn yr hyn rydych chi’n ei ddarllen

  • Beth Fydd yn Gwneud Darllen y Beibl yn Ddiddorol?
    Y Tŵr Gwylio: Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl?
    • Dynes yn defnyddio adnoddau astudio wrth ddarllen y Beibl

      AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

      Beth Fydd yn Gwneud Darllen y Beibl yn Ddiddorol?

      Pan fyddwch chi’n darllen y Beibl, a fydd y profiad yn un diflas neu’n un diddorol? I raddau mawr, mae’n dibynnu ar sut rydych chi’n mynd ati. Dewch inni edrych ar beth y gallwch ei wneud i gael mwy o bleser o ddarllen y Beibl.

      Dewiswch gyfieithiad dibynadwy, mewn iaith fodern. Os ydych chi’n darllen testun sy’n llawn geiriau anodd a hen ffasiwn, mae’n annhebyg y byddwch chi’n ei fwynhau. Felly chwiliwch am Feibl sy’n defnyddio iaith hawdd i’w deall a fydd yn cyffwrdd â’ch calon. Ond gwnewch yn siŵr ei fod hefyd yn gyfieithiad cywir.a

      Defnyddiwch dechnoleg fodern. Heddiw mae’r Beibl ar gael, nid yn unig fel llyfr wedi ei argraffu, ond hefyd ar ffurf ddigidol. Gellir ei ddarllen ar y We neu ei lawrlwytho i’w ddarllen ar gyfrifiadur, ffôn symudol, neu ddyfais arall. Mae rhai fersiynau yn caniatáu ichi weld adnodau eraill ar yr un pwnc, neu i gymharu nifer o gyfieithiadau gwahanol. Os yw’n well gynnoch chi wrando yn hytrach na darllen, mae recordiadau o’r Beibl ar gael hefyd. Mae llawer o bobl yn mwynhau gwrando wrth deithio i’r gwaith, wrth wneud gwaith tŷ, neu bethau eraill sy’n caniatáu iddyn nhw wrando. Rhowch gynnig ar rywbeth sy’n apelio atoch chi.

      Defnyddiwch adnoddau astudio. Byddwch chi’n cael mwy allan o ddarllen y Beibl drwy ddefnyddio adnoddau astudio. Bydd mapiau o wledydd yn y Beibl yn eich helpu chi i wybod lle digwyddodd yr hanesion yn y Beibl a deall y cyd-destun. Bydd erthyglau fel y rhai yn y cylchgrawn hwn, neu yn yr adran “Dysgeidiaethau’r Beibl” ar jw.org yn eich helpu chi i ddeall llawer o’r Beibl yn well.

      Defnyddiwch ddulliau gwahanol. Os ydy darllen y Beibl o glawr i glawr yn ormod o dasg, beth am gychwyn gyda darn sy’n apelio’n arbennig atoch chi? Os ydych chi eisiau dysgu am bobl enwog yn y Beibl, gallwch ddarllen y rhannau hynny o’r Beibl lle mae sôn amdanyn nhw. Fe welwch chi enghraifft o hyn yn y blwch “Adnabod y Beibl Drwy Adnabod y Bobl.” Neu efallai byddwch chi eisiau darllen y Beibl fesul thema neu yn nhrefn gronolegol y digwyddiadau. Beth am roi cynnig ar un o’r dulliau hyn?

      a Mae llawer yn teimlo bod y New World Translation of the Holy Scriptures yn gyfieithiad cywir, dibynadwy, ac yn hawdd ei ddarllen. Mae’r Beibl hwn, sydd wedi ei gynhyrchu gan Dystion Jehofa, ar gael mewn mwy na 160 o ieithoedd. Gellir lawrlwytho copi o’r wefan jw.org neu lawrlwytho’r ap JW Library. Neu os hoffech chi gael fersiwn printiedig, bydd Tystion Jehofa yn hapus i anfon copi i’ch cartref.

      ADNABOD Y BEIBL DRWY ADNABOD Y BOBL

      Rhai menywod ffyddlon

      Abigail

      1 Samuel pennod 25

      Esther

      Esther penodau 2-5, 7-9

      Hanna

      1 Samuel penodau 1-2

      Mair

      (Mam Iesu) Mathew penodau 1-2; Luc penodau 1-2; gweler hefyd Ioan 2:1-12; Actau 1:12-14; 2:1-4

      Rahab

      Josua penodau 2, 6; gweler hefyd Hebreaid 11:30, 31; Iago 2:24-26

      Rebeca

      Genesis penodau 24-27

      Sara

      Genesis penodau 17-18, 20-21, 23; gweler hefyd Hebreaid 11:11; 1 Pedr 3:1-6

      Rhai dynion nodedig

      Abraham

      Genesis penodau 11-24; gweler hefyd 25:1-11

      Dafydd

      1 Samuel penodau 16-30; 2 Samuel penodau 1-24; 1 Brenhinoedd penodau 1-2

      Iesu

      Efengylau Mathew, Marc, Luc, a Ioan

      Moses

      Exodus penodau 2-20, 24, 32-34; Numeri penodau 11-17, 20, 21, 27, 31; Deuteronomium pennod 34

      Noa

      Genesis penodau 5-9

      Paul

      Actau penodau 7-9, 13-28

      Pedr

      Mathew penodau 4, 10, 14, 16-17, 26; Actau penodau 1-5, 8-12

      ADNODDAU TYSTION JEHOFA AR GYFER ASTUDIO’R BEIBL

      • JW.ORG—Mae nifer o adnoddau astudio ar y wefan hon, gan gynnwys yr adran “Atebion i Gwestiynau am y Beibl.” Ceir hefyd gyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho’r ap JW Library

      • Cymorth i Astudio Gair Duw—Llyfryn sy’n cynnwys mapiau, lluniau, a diagramau sy’n ein helpu ni i ddeall y Beibl yn well

      • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?—Llyfryn 32-dudalen sy’n crynhoi thema gyffredin y Beibl

      • Insight on the Scriptures—Cyfeirlyfr am y Beibl mewn dwy gyfrol sy’n esbonio mwy am y bobl, y lleoedd a’r termau yn y Beiblb

      • ”All Scripture Is Inspired of God and Beneficial”—Mae’r llyfr ysgolheigaidd hwn yn esbonio pryd, lle a pham y cafodd pob llyfr yn y Beibl ei ysgrifennu, ac yn crynhoi eu cynnwysc

      • The Bible—God’s Word or Man’s?—Mae’r llyfr bach hwn yn cyflwyno ymchwil a thystiolaeth sy’n cefnogi’r honiad mai Gair Duw yw’r Beibld

      b Ar gael mewn nifer o ieithoedd

      c Ar gael mewn nifer o ieithoedd

      d Ar gael mewn nifer o ieithoedd

  • Sut Gall y Beibl Roi Bywyd Gwell i Mi?
    Y Tŵr Gwylio: Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl?
    • Gŵr a gwraig yn gweithio gyda’i gilydd yn y gegin

      AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

      Sut Gall y Beibl Roi Bywyd Gwell i Mi?

      Nid llyfr cyffredin mo’r Beibl. Mae’n cynnwys cyngor oddi wrth y Creawdwr ei hun. (2 Timotheus 3:16) Mae ei neges yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ein bywydau. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Y mae gair Duw yn fyw a grymus.” (Hebreaid 4:12 BCND) Mae’n gwella ein bywyd mewn dwy ffordd bwysig. Mae’n cynnig cyngor ar gyfer ein bywydau heddiw ac yn ein helpu i ddod i adnabod Duw a rhoi ffydd yn ei addewidion.—1 Timotheus 4:8; Iago 4:8.

      Gwella ein bywydau heddiw. Mae’r Beibl yn cynnig help gyda materion personol. Mae’n cynnwys cyngor ymarferol ar bethau fel:

      • Ein perthynas ag eraill.—Effesiaid 4:31, 32; 5:22, 25, 28, 33.

      • Ein hiechyd emosiynol a chorfforol.—Salm 37:8; Diarhebion 17:22.

      • Ein gwerthoedd moesol—1 Corinthiaid 6:9, 10.

      • Ein sefyllfa economaidd—Diarhebion 10:4; 28:19; Effesiaid 4:28.a

      Roedd cwpl ifanc yn Asia yn ddiolchgar iawn am gyngor y Beibl. Fel llawer o bobl sydd newydd briodi, roedden nhw’n cael trafferth dod i ddeall ei gilydd a chyfathrebu’n rhwydd. Beth ddigwyddodd pan ddechreuon nhw rhoi cyngor y Beibl ar waith? Dywed Vicent, y gŵr: “Roedd y Beibl yn fy helpu i fod yn garedig pan gawson ni broblemau yn ein priodas. Mae dilyn cyngor y Beibl wedi rhoi bywyd hapus inni.” Mae ei wraig, Annalou, yn dweud: “Mae darllen am esiamplau yn y Beibl wedi bod yn help mawr. Heddiw, mae ein priodas yn un hapus ac rydyn ni’n cytuno’n well.”

      Dod i adnabod Duw. Dywedodd Vicent hefyd: “Mae darllen y Beibl wedi gwneud i mi deimlo’n agosach at Jehofa nag erioed o’r blaen.” Mae hyn yn tynnu sylw at bwynt pwysig—bod y Beibl yn ein helpu ni i ddod i adnabod Duw. Drwy ddarllen y Beibl, byddwch chi nid yn unig yn manteisio ar gyngor Duw ond hefyd yn dod i’w adnabod fel ffrind. Ac fe welwch chi fod Duw yn addo dyfodol gwell pan fyddwch yn mwynhau “y bywyd sydd yn fywyd go iawn,” a hynny am byth! (1 Timotheus 6:19) Dyna rywbeth na all yr un llyfr arall ei gynnig.

      Os ydych chi’n dechrau darllen y Beibl a dal ati, byddwch chi hefyd yn cael bywyd gwell a dod i adnabod Duw. Sut bynnag, mae’n debyg y bydd llawer o gwestiynau yn codi wrth ichi ddarllen y Beibl. Ond cofiwch esiampl swyddog o Ethiopia a oedd yn byw 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd gan hwnnw lawer o gwestiynau am y Beibl. Pan ofynnwyd iddo a oedd yn deall beth roedd yn ei ddarllen, atebodd: “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” Roedd yn hapus i gael cymorth Philip a oedd eisoes yn un o ddisgyblion Iesu ac yn athro profiadol. (Actau 8:30, 31, 34) Os hoffech chi wybod mwy am y Beibl, croeso ichi gyflwyno cais ar lein ar www.pr2711.com/cy neu ysgrifennu aton ni gan ddefnyddio un o’r cyfeiriadau a restrir ar y wefan. Gallwch hefyd gysylltu â Thystion Jehofa yn eich ardal neu ymweld ag unrhyw Neuadd y Deyrnas. Pam na wnewch chi godi copi o’r Beibl heddiw a gweld sut mae’n gallu rhoi bywyd gwell ichi?

      a I weld esiamplau eraill o gyngor ymarferol y Beibl, gweler y wefan jw.org. Edrychwch o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ATEBION I GWESTIYNAU AM Y BEIBL.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu