LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Gobaith—A Yw’n Gwneud Gwahaniaeth?
    Deffrwch!—2004 | Ebrill 22
    • Gobaith—A Yw’n Gwneud Gwahaniaeth?

      DIM ond deg oed oedd Daniel, ond roedd ei frwydr yn erbyn canser wedi para am flwyddyn. Roedd ei feddygon a’i ffrindiau wedi colli pob gobaith. Ond roedd Daniel yn dal yn obeithiol. Credai y byddai’n tyfu i fod yn ymchwilydd ac yn helpu i ddarganfod meddyginiaeth ar gyfer canser ryw ddydd. Roedd yn edrych ymlaen at weld doctor a oedd yn arbenigwr yn y math o ganser a oedd ganddo. Ond pan ddaeth y diwrnod, roedd yn rhaid i’r arbenigwr ganslo’r apwyntiad oherwydd tywydd garw. Roedd Daniel wedi colli calon. Am y tro cyntaf aeth yn isel ei ysbryd a bu farw o fewn ychydig ddyddiau.

      Adroddwyd hanes Daniel gan arbenigwr a oedd wedi astudio sut mae gobaith neu ddiffyg gobaith yn effeithio ar iechyd. Efallai rydych chi wedi clywed storïau tebyg. Weithiau, bydd pobl mewn oed yn agos at farwolaeth ond yn awyddus i gyrraedd rhyw garreg filltir arbennig—boed hynny’n ymweliad gan anwylyn neu’n ddathliad o ryw fath. Ond unwaith bod yr achlysur drosodd, maen nhw’n marw. Beth sy’n digwydd yn yr achosion hyn? Ydy gobaith mor bwerus ag y mae rhai yn credu?

      Mae nifer cynyddol o ymchwilwyr ym maes iechyd yn awgrymu bod optimistiaeth, gobaith, ac emosiynau cadarnhaol eraill yn effeithio yn fawr ar ein bywyd a’n hiechyd. Ond nid pawb sy’n cytuno. Mae rhai ymchwilwyr yn wfftio syniadau o’r fath ac yn eu galw’n anwyddonol. Mae’n well ganddyn nhw gredu mai rhesymau corfforol yn unig sy’n achosi salwch corfforol.

      Wrth gwrs, nid peth newydd yw amau pwysigrwydd gobaith. Filoedd o flynyddoedd yn ôl, gofynnwyd i’r athronydd Groeg Aristotlys ddiffinio gobaith, a’i ateb oedd: “Breuddwyd effro ydyw.” Ac yn fwy diweddar, sylwad swta’r gwleidydd Americanaidd Benjamin Franklin oedd: “Marw yn llwglyd fydd yr un sy’n byw ar obaith.”

      Beth felly yw’r gwirionedd am obaith? Ai breuddwyd wag i’n cysuro ni ydy gobaith, a dim mwy? Neu oes rheswm i ni gredu mai rhywbeth mwy ydy gobaith​—rhywbeth sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n hapusrwydd, rhywbeth sy’n cynnig manteision go iawn?

  • Pam Mae Angen Gobaith?
    Deffrwch!—2004 | Ebrill 22
    • Pam Mae Angen Gobaith?

      BETH petai Daniel, y bachgen gyda chanser y mae sôn amdano yn yr erthygl flaenorol, wedi medru aros yn obeithiol? A fyddai wedi trechu ei ganser? A fyddai’n fyw heddiw? Mae’n debyg na fyddai hyd yn oed y rhai sydd yn credu’n gryf bod gobaith yn gwneud lles yn mynd mor bell â hynny. Ac mae hwn yn bwynt pwysig. Ddylen ni ddim meddwl mai ffisig at bob clwyf yw gobaith.

      Mewn cyfweliad â CBS News, rhybuddiodd Dr. Nathan Cherney y gall gorbwysleisio effaith gobaith fod yn beryglus wrth drin cleifion sy’n wael iawn. Dywedodd: “Rydyn ni wedi gweld gwŷr yn dweud y drefn wrth eu gwragedd am beidio â myfyrio digon neu am fethu meddwl yn ddigon positif.” Ychwanegodd Dr. Cherney: “Mae’r meddylfryd hwn wedi creu’r gamargraff bod modd rheoli’r salwch, ond wedyn pan fydd cleifion yn gwaethygu, y neges yw eu bod nhw wedi methu gwneud digon i reoli’r canser, a dydy hynny ddim yn deg.”

      Y gwir yw, mai brwydr anodd a blinedig yw ymdopi â salwch terfynol. Ni fyddai neb am ychwanegu at faich trwm anwylyn drwy wneud iddo deimlo’n euog. Felly, a ddylen ni ddod i’r casgliad nad oes unrhyw werth i obaith?

      Dim o gwbl. Mae Dr. Cherney yn arbenigo mewn gofal lliniarol, sy’n canolbwyntio, nid ar ymladd yn erbyn y salwch neu hyd yn oed ar ymestyn oes, ond ar sicrhau bod bywyd y claf mor gyfforddus â phosib tan y diwedd. Mae meddygon yn y maes hwn yn credu’n gryf bod triniaethau sy’n helpu pobl i deimlo’n hapusach yn werthfawr, hyd yn oed i gleifion sâl iawn. Mae tystiolaeth yn dangos bod gobaith yn gwneud hynny—a llawer mwy.

      Gwerth Gobaith

      “Mae gobaith yn therapi effeithiol,” meddai’r newyddiadurwr meddygol, Dr. W. Gifford-Jones. Edrychodd ef ar nifer o astudiaethau a gynhaliwyd i asesu gwerth y gefnogaeth emosiynol a roddwyd i gleifion terfynol wael. Y dybiaeth yw bod cefnogaeth o’r fath yn helpu pobl i gadw agwedd fwy positif. Yn ôl un astudiaeth ym 1989, roedd cleifion oedd yn derbyn y gefnogaeth hon yn byw’n hirach, ond mae ymchwil mwy diweddar yn llai pendant. Sut bynnag, mae astudiaethau wedi cadarnhau bod cleifion sy’n derbyn cefnogaeth emosiynol yn cael llai o iselder a llai o boen na’r rhai sydd heb gael y gefnogaeth honno.

      Ystyriwch astudiaeth arall a oedd yn canolbwyntio ar effaith optimistiaeth a phesimistiaeth ar gleifion sydd â chlefyd y galon (CHD). Cafodd grŵp o fwy na 1,300 o ddynion eu hasesu i weld pa mor optimistaidd oedden nhw. Dangosodd astudiaeth ddilynol, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fod mwy na 12 y cant o’r dynion wedi dioddef o CHD mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. O fewn y grŵp hwn, roedd bron dau draean yn bobl besimistaidd. Dywed Laura Kubzansky, darlithydd ym maes iechyd ac ymddygiad cymdeithasol yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Harvard: “Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod ‘meddwl yn bositif’ yn dda i’ch iechyd, wedi ei seilio ar adroddiadau anecdotaidd. Ond mae’r astudiaeth hon yn cynnig y dystiolaeth feddygol gadarn gyntaf o blaid y syniad ym maes clefyd y galon.”

      Mae rhai astudiaethau wedi darganfod bod pobl sy’n credu bod eu hiechyd yn wael yn gwneud yn waeth ar ôl llawdriniaeth na’r rhai sy’n credu bod eu hiechyd yn dda. Gwelir hefyd bod cysylltiad rhwng optimistiaeth a hir oes. Edrychodd un astudiaeth ar y ffordd mae agweddau positif a negyddol tuag at heneiddio yn effeithio ar bobl mewn oed. Ar ôl gweld negeseuon yn gwibio heibio a oedd yn cysylltu heneiddio â doethineb a phrofiad, roedd pobl hŷn i’w gweld yn cerdded yn fwy sionc. Yn wir, roedd y canlyniadau cystal â gwneud ymarfer corff am 12 wythnos!

      Pam mae pethau fel gobaith, optimistiaeth, ac agwedd gadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth i’n hiechyd? Efallai nad yw gwyddonwyr a meddygon yn deall y corff a’r meddwl yn ddigon da i roi ateb pendant i’r cwestiwn hwnnw ar hyn o bryd. Eto, mae arbenigwyr yn y maes yn gallu dyfalu ar sail profiad. Er enghraifft, mae darlithydd ym maes niwroleg yn awgrymu: “Peth da yw bod yn hapus ac yn obeithiol. Mae’n deimlad braf sydd ddim yn achosi straen fawr, ac mae’r corff yn gwneud yn well mewn amgylchiadau o’r fath. Dyma rywbeth arall y gall pobl ei wneud i geisio aros yn iach.”

      Efallai bydd rhai meddygon, seicolegwyr a gwyddonwyr yn gweld y syniad hwn yn un arloesol, ond nid yw’n newydd i’r rhai sy’n gyfarwydd â’r Beibl. Tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, cafodd y Brenin Solomon ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.” (Diarhebion 17:22, Y Beibl Cysegr-lân) Sylwch ar y cydbwysedd yn yr adnod hon. Nid yw’n dweud y bydd llawenydd yn gwella pob salwch, ond bod llawenydd yn gwneud lles.

      Yn wir, petai gobaith yn feddyginiaeth, oni fyddai pob meddyg yn ei roi i’w gleifion? Ond mae gan obaith fanteision sy’n ymestyn yn bell y tu hwnt i faes iechyd.

      Optimistiaeth, Pesimistiaeth, a’ch Bywyd Chi

      Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod agwedd bositif yn help mawr i bobl optimistaidd. Maen nhw’n tueddu i wneud yn well yn yr ysgol, yn y gwaith, a hyd yn oed ym myd y campau. Er enghraifft, ar gyfer un astudiaeth, fe wnaeth hyfforddwyr asesu galluoedd athletaidd y merched mewn tîm trac a maes. Ar yr un pryd, cafodd lefel gobaith y merched ei asesu. O ran rhagweld eu perfformiad, roedd lefel gobaith y merched yn llawer mwy dibynadwy na holl ystadegau’r hyfforddwyr. Pam mae gobaith mor ddylanwadol?

      Rydyn ni wedi dysgu llawer trwy astudio pesimistiaeth hefyd. Yn ystod y 1960au, yn sgil canlyniadau annisgwyl i arbrofion ynglŷn ag ymddygiad anifeiliaid, bathodd ymchwilwyr yr ymadrodd “dysgu bod yn ddiymadferth.” Mae hyn yn gallu effeithio ar bobl hefyd. Er enghraifft, mewn cyfres o arbrofion, dywedodd ymchwilwyr wrth y bobl oedd yn cymryd rhan eu bod nhw’n gallu rhoi taw ar sŵn ofnadwy drwy bwyso botymau mewn trefn arbennig. Llwyddon nhw i stopio’r sŵn.

      Cafodd grŵp arall yr un wybodaeth ond y tro hwn, nid oedd y botymau’n gweithio. Fel y gallwch ddychmygu, dechreuodd llawer yn yr ail grŵp deimlo’n ddiymadferth. Mewn profion eraill yn nes ymlaen, roedden nhw’n gyndyn i gymryd unrhyw gamau i geisio datrys y broblem, gan gredu na fyddai’n gwneud unrhyw wahaniaeth. Ond hyd yn oed yn yr ail grŵp, roedd y bobl optimistaidd yn gwrthod rhoi’r gorau i’r dasg.

      Roedd Dr. Martin Seligman yn un o’r tîm a greodd rhai o’r arbrofion cynnar hynny, ac aeth ymlaen i ddilyn gyrfa yn astudio optimistiaeth a phesimistiaeth. Astudiodd feddylfryd pobl sy’n dueddol o deimlo eu bod nhw’n ddiymadferth. Ei gasgliad oedd bod meddylfryd pesimistaidd yn gallu rhwystro pobl yn eu bywydau, neu hyd yn oed yn gallu eu parlysu. Mae Seligman yn crynhoi effeithiau meddyliau negyddol fel hyn: “Mae pobl besimistaidd yn credu mai nhw sydd ar fai am y pethau drwg sy’n digwydd iddyn nhw a bod y pethau drwg yn parhau i ddigwydd ni waeth beth maen nhw’n ei wneud. Ar ôl astudio’r maes am 25 o flynyddoedd, rydw i wedi dod i’r casgliad bod y bobl hyn yn cael mwy o helyntion na’r rhai sy’n credu fel arall.”

      Efallai bydd casgliadau fel hyn yn newydd i rai heddiw, ond maen nhw’n gyfarwydd i’r rhai sy’n astudio’r Beibl. Sylwch ar y ddihareb hon: “Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan.” (Diarhebion 24:10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’r Beibl yn esbonio’n glir bod digalondid a meddyliau negyddol yn gwneud i ni golli nerth. Felly, beth allwch chi ei wneud i ymladd yn erbyn pesimistiaeth a dod â mwy o optimistiaeth a gobaith i’ch bywyd?

      [Llun]

      Gall gobaith wneud byd o les

  • Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth
    Deffrwch!—2004 | Ebrill 22
    • Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth

      SUT rydych chi’n teimlo am y siomedigaethau yn eich bywyd? Mae llawer o arbenigwyr yn meddwl bod yr ateb i’r cwestiwn hwn yn datgelu a ydych chi’n optimistaidd neu’n besimistaidd. Rydyn ni i gyd yn cael anawsterau, rhai yn fwy nag eraill. Felly, pam mae rhai pobl yn codi yn ôl ar eu traed, yn barod i roi cynnig arall arni, tra bod eraill, sy’n wynebu problemau llai difrifol, yn rhoi’r gorau iddi?

      Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n chwilio am swydd. Rydych yn mynd i’r cyfweliad ond yn cael eich gwrthod. Sut rydych chi’n teimlo am fethu cael y swydd? Efallai byddwch chi’n dechrau credu mai chi ydy’r broblem, a dweud ‘Fydd neb yn cyflogi rhywun fel fi. Fydda’ i byth yn cael swydd.’ Neu, yn waeth byth, gallech chi adael i’ch siom effeithio ar eich agwedd tuag at bob rhan o’ch bywyd, gan feddwl, ‘Dw i’n fethiant llwyr. Yn dda i ddim.’ Dyma’r math o feddyliau sy’n llethu pobl besimistaidd.

      Brwydro yn Erbyn Pesimistiaeth

      Sut gallwch chi ymladd yn ôl? Y cam pwysig cyntaf yw dysgu adnabod meddyliau negyddol. Y cam nesaf yw ymladd yn eu herbyn. Chwiliwch am esboniadau rhesymol eraill. Er enghraifft, ydy hi’n wir i chi fethu cael y swydd oherwydd nad ydych chi’n ddigon da i gael unrhyw swydd? Neu ydy hi’n bosib bod y cyflogwr yn chwilio am rywun oedd â chymwysterau gwahanol?

      Trwy edrych ar ffeithiau penodol, fe welwch chi nad yw eich meddyliau pesimistaidd yn ddilys. A ydy cael eich gwrthod ar un achlysur yn golygu eich bod chi’n fethiant llwyr? Neu a allwch chi feddwl am rannau eraill o’ch bywyd lle rydych chi’n llwyddo—yn eich bywyd ysbrydol, er enghraifft, neu yn eich bywyd teuluol neu gymdeithasol? Dysgwch beidio â meddwl y bydd popeth a wnewch yn drychineb. Wedi’r cwbl, mae’n amhosib ichi wybod na fyddwch chi byth yn cael swydd. Mae mwy y gallwch ei wneud i wrthod meddyliau negyddol.

      Byddwch yn Bositif am Beth y Gallwch ei Wneud

      Yn ddiweddar, mae ymchwilwyr wedi creu diffiniad diddorol, os braidd yn gul, o beth yw gobaith. Maen nhw’n diffinio gobaith fel y gred y gallwch gyrraedd y nod. Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio bod mwy i obaith na hynny, ond mae’r diffiniad hwn yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd. Mae’n gallu ein helpu ni i fod yn fwy positif am y pethau y gallwn ni eu gwneud.

      Er mwyn credu bod cyrraedd y nod yn bosib, mae angen gosod a chyrraedd amcanion symlach. Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi erioed wedi cyrraedd nod, mae’n debyg y byddai’n werth ichi feddwl am y math o amcanion rydych chi yn eu gosod. Yn gyntaf, ydych chi erioed wedi gosod nod? Mae bywyd mor brysur, hawdd yw anghofio meddwl am beth sydd o wir bwys inni. Mae’r Beibl yn ein helpu yn hyn o beth, gan ddweud: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.

      Ar ôl penderfynu beth sydd o bwys inni, fe fydd hi’n haws i ni osod amcanion yn ein bywyd ysbrydol, ein bywyd teuluol ac yn ein bywyd yn gyffredinol. Mae’n bwysig inni beidio â gosod gormod o amcanion, a dewis rhai sy’n weddol hawdd eu cyrraedd. Os dewiswn nod sy’n rhy uchelgeisiol, efallai byddwn ni’n digalonni ac yn rhoi’r gorau iddi. Gan amlach, peth da yw rhannu amcanion mawr, hirdymor, yn rhai llai, tymor byr.

      “Ceffyl da yw ewyllys” meddai’r hen ddihareb, ac mae rhywfaint o wirionedd yn hynny. Ar ôl penderfynu beth yw ein hamcanion, mae angen yr ewyllys​—sef yr awydd a’r penderfyniad​—i’w cyrraedd. Pan feddyliwn ni am y wobr a gawn o gyrraedd y nod, byddwn ni hyd yn oed yn fwy penderfynol. Wrth gwrs, bydd problemau’n codi, ond pethau i’w goresgyn ydyn nhw, nid diwedd y ffordd.

      Sut bynnag, mae angen inni hefyd feddwl am ffyrdd ymarferol i gyflawni ein hamcanion. Dywed yr awdur C. R. Snyder, sydd wedi gwneud astudiaeth helaeth o obaith, y dylwn ni geisio meddwl am nifer o ffyrdd i gyrraedd pob nod. Wedyn, os bydd un cynllun yn methu, fe allwn ni ddefnyddio ail neu drydydd cynllun ac yn y blaen.

      Mae Snyder hefyd yn awgrymu y dylen ni ddysgu pryd mae angen newid ein hamcanion. Os nad oes unrhyw ffordd inni gyrraedd rhyw nod, bydd poeni am y peth yn ein digalonni. Ar y llaw arall, bydd gosod nod mwy realistig yn rhoi rhywbeth arall inni obeithio amdano.

      Cawn enghraifft dda o hyn yn y Beibl. Roedd y Brenin Dafydd wir eisiau adeiladu teml i’w Dduw, Jehofa. Ond dywedodd Duw wrth Dafydd y byddai’n rhoi’r fraint honno i’w fab Solomon. Yn lle pwdu a mynnu bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau, gosododd Dafydd nod newydd i’w hunain. Aeth ati i gasglu’r arian a’r adnoddau y byddai Solomon yn eu defnyddio i orffen y prosiect.—1 Brenhinoedd 8:17-19; 1 Cronicl 29:3-7.

      Hyd yn oed os ydyn ni wedi dysgu bod yn bositif ac yn optimistaidd yn ein bywydau personol, efallai bydd hi’n dal yn anodd i ni fod yn wir obeithiol. Pam felly? Y rheswm yw bod llawer o’r problemau sy’n gwneud i bobl ddigalonni yn y byd heddiw y tu hwnt i’n gallu i’w rheoli. Felly sut gallwn ni aros yn obeithiol mewn byd sy’n llawn tlodi, rhyfel, anghyfiawnder, a’r ofn sy’n gysylltiedig â salwch a marwolaeth?

      [Llun]

      Petaech chi’n methu cael un swydd, a fyddech chi’n credu na fyddwch chi byth yn cael swydd arall?

      [Llun]

      Roedd y Brenin Dafydd yn gallu addasu i sefyllfa newydd a newid ei amcanion

  • Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?
    Deffrwch!—2004 | Ebrill 22
    • Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?

      DYCHMYGWCH fod eich oriawr wedi stopio gweithio. I’w hatgyweirio, mae gynnoch chi nifer o ddewisiadau. Mae sawl siop yn dweud eu bod nhw’n gallu ei thrwsio er nad ydyn nhw’n cytuno ar sut i fynd ati. Ond beth petaech chi’n cael gwybod bod y dyn a ddyluniodd yr oriawr arbennig honno yn byw yn eich stryd? Ac mae rhywun yn dweud ei fod yn fodlon eich helpu, a hynny am ddim. Byddai’r dewis yn amlwg wedyn.

      Mae’r eglureb hon yn dangos beth gallwch chi ei wneud i aros yn obeithiol. Os ydych chi’n dechrau anobeithio—fel y mae llawer yn y byd sydd ohoni—lle gallwch chi droi am help? Mae llawer o bobl yn honni bod ganddyn nhw’r ateb i’r broblem, ond mae’r llu o wahanol syniadau yn ddigon i ddrysu rhywun. Felly beth am droi at yr Un a greodd y ddynolryw ac a roddodd inni’r gallu i edrych ymlaen yn obeithiol yn y lle cyntaf? Mae’r Beibl yn dweud nad ydy Duw “yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd,” a’i fod yn barod iawn i’n helpu.—Actau 17:27; 1 Pedr 5:7.

      Gwell Ddiffiniad o Obaith

      Yn y Beibl, mae ystyr ehangach a dyfnach i’r gair gobaith na’r diffiniad sy’n cael ei ddefnyddio gan feddygon, gwyddonwyr, a seicolegwyr heddiw. Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’r geiriau am obaith yn golygu aros yn eiddgar am rywbeth da. Yn y bôn, mae dwy elfen i obaith. Mae’n cynnwys y dymuniad am rywbeth da yn ogystal â’r rheswm i gredu y bydd hynny’n digwydd. Nid breuddwyd yw’r gobaith yn y Beibl. Mae ffeithiau a thystiolaeth yn sail gadarn iddo.

      Yn hyn o beth, mae gobaith yn debyg i ffydd, sydd hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na hygoeledd. (Hebreaid 11:1) Eto i gyd, mae gwahaniaeth rhwng ffydd a gobaith yn y Beibl.—1 Corinthiaid 13:13.

      Ystyriwch eglureb: Pan fyddwch yn gofyn ffafr gan ffrind, byddwch yn gobeithio y bydd yn fodlon helpu. Mae sail i’ch gobaith oherwydd bod gynnoch chi ffydd yn eich ffrind. Rydych chi’n ei adnabod yn dda ac wedi ei weld yn gwneud pethau caredig yn y gorffennol. Mae cysylltiad agos iawn rhwng eich ffydd a’ch gobaith, er nad ydyn nhw’n union yr un peth. Sut gallwch chi gael gobaith tebyg yn Nuw?

      Rhesymau i Obeithio

      Duw yw ffynhonnell gwir obaith. Mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa fel “unig obaith Israel.” (Jeremeia 14:8) Roedd gobeithion ei bobl i gyd yn dibynnu arno ef; felly ef oedd eu gobaith. Roedd y gobaith hwn yn fwy na dymuniad. Roedd Duw wedi rhoi rheswm iddyn nhw obeithio. Dros y canrifoedd, roedd Duw wedi gwneud llawer o addewidion ac wedi cadw pob un. Dywedodd Josua wrth Israel: “Dych chi’n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.”—Josua 23:14.

      Heddiw, gallwn ddibynnu ar addewidion Duw am yr un rheswm. Mae’r Beibl yn llawn o addewidion rhyfeddol Duw, a hefyd yn dangos sut cawson nhw eu cyflawni. Mae addewidion Duw mor ddibynadwy nes bod llawer ohonyn nhw wedi eu hysgrifennu fel petaen nhw eisoes wedi digwydd.

      Dyna pam gallwn ddweud bod y Beibl yn llyfr llawn gobaith. Wrth ichi astudio’r Beibl, byddwch chi’n dod i ymddiried yn Nuw a theimlo yn llawer mwy gobeithiol. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhufeiniaid 15:4.

      Pa Obaith Mae Duw yn ei Gynnig?

      Mae’n debyg bod angen gobaith arnon ni fwyaf pan fydd rhywun sy’n annwyl i ni yn marw. Ond yn aml, dyna pryd rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi colli pob gobaith. Wedi’r cwbl, pa sefyllfa sy’n cynnig llai o obaith na marwolaeth? Ni all neb ddianc oddi wrthi, ac ni allwn ni wneud dim i ddod â’n hanwyliaid yn ôl yn fyw. Nid heb reswm y mae’r Beibl yn disgrifio marwolaeth fel y “gelyn olaf.”—1 Corinthiaid 15:26.

      Felly, a oes gobaith i’r rhai sydd wedi marw? Mae’r adnod sy’n dweud mai gelyn yw marwolaeth hefyd yn dweud bod y gelyn hwn “i gael ei ddinistrio.” Mae Jehofa Dduw yn gryfach na marwolaeth. Y mae wedi profi hynny. Ym mha ffordd? Mae’r Beibl yn disgrifio naw achlysur pan ddefnyddiodd Duw ei rym i ddod â phobl yn ôl yn fyw.

      Er enghraifft, rhoddodd Jehofa y gallu i’w fab Iesu i atgyfodi ei ffrind annwyl, Lasarus, a oedd wedi marw ers pedwar diwrnod. A digwyddodd hyn, nid mewn cornel, ond yn agored o flaen tyrfa fawr.—Ioan 11:38-48, 53; 12:9, 10.

      Efallai byddwch chi’n gofyn, ‘Pam cafodd y bobl hyn eu hatgyfodi? Wedi’r cwbl, roedden nhw’n heneiddio a marw eto yn y pen draw.’ Mae hynny’n wir. Ond mae’r atgyfodiadau hyn, nid yn unig yn creu’r dymuniad ynon ni i weld ein hanwyliaid eto, ond hefyd yn rhoi rheswm i ni gredu y byddan nhw’n cael eu hatgyfodi. Mewn geiriau eraill, mae gynnon ni wir obaith.

      Dywedodd Iesu: “Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd.” (Ioan 11:25) Iesu yw’r un y bydd Jehofa yn ei ddefnyddio i atgyfodi pobl drwy’r byd i gyd. Dywedodd Iesu: “Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Yn wir, y mae gobaith i bawb sy’n cysgu yn y bedd gael eu hatgyfodi i fyw mewn paradwys ar y ddaear.

      Dyma ddisgrifiad hyfryd y proffwyd Eseia o’r atgyfodiad: “Bydd dy feirw di yn dod yn fyw! Bydd cyrff marw yn codi eto! Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy’n byw yn y pridd! Bydd dy olau fel gwlith y bore yn rhoi bywyd i dir y meirwon.”—Eseia 26:19.

      Am addewid llawn cysur! Mae’r meirw yn y lle mwyaf diogel posib, yn debyg i blentyn sy’n ddiogel yn y groth. Yn wir, mae’r rhai sy’n gorffwys yn y bedd wedi eu cadw yng nghof perffaith a diderfyn yr Hollalluog. (Luc 20:37, 38) Yn fuan iawn, cân nhw eu croesawu yn ôl i fyw mewn byd newydd a hapus, yn debyg i’r ffordd y mae teulu yn croesawu babi newydd. Felly, mae gobaith hyd yn oed i’r rhai sydd wedi marw.

      Sut Gall Gobaith Eich Helpu Chi?

      Mae gan Paul lawer i’w ddweud am bwysigrwydd gobaith. Dywedodd fod gobaith yn rhan hanfodol o’n harfwisg ysbrydol, gan ei gymharu â helmed. (1 Thesaloniaid 5:8) Beth roedd Paul yn ei feddwl? Yng nghyfnod y Beibl, roedd milwyr ar faes y gad yn gwisgo helmed a oedd wedi ei gwneud o fetel, ar ben cap o ledr neu ffelt. Byddai’n gwarchod y milwr rhag ergydion i’w ben. Beth oedd pwynt Paul? Fel y mae helmed yn amddiffyn y pen, felly y mae gobaith yn amddiffyn y meddwl. Os bydd gynnoch chi obaith cadarn yn addewidion Duw, byddwch yn dawel eich meddwl hyd yn oed wrth wynebu problemau difrifol. Pwy sydd heb angen helmed o’r fath?

      Rhoddodd Paul eglureb ddiddorol arall i ddangos pa mor bwysig yw gobaith. Ysgrifennodd: “Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr—mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel.” (Hebreaid 6:19) Roedd Paul wedi bod mewn sawl llongddrylliad ac fe wyddai pa mor bwysig oedd angor. Pan oedd y llong mewn storm, byddai’r morwyr yn gollwng yr angor. Pe bai’r angor yn dal ar waelod y môr, byddai’r llong yn gallu dod drwy’r storm yn ddiogel yn lle cael ei hyrddio tua’r lan a’i dryllio ar y creigiau.

      Yn yr un modd, os yw addewidion Duw “yn obaith sicr” i ni, byddwn ni’n gallu dod trwy’r dyddiau stormus hyn. Mae Jehofa yn addo bod amser yn dod pan na fydd neb yn dioddef oherwydd rhyfel, trosedd, galar neu hyd yn oed marwolaeth. (Gweler y blwch Rhesymau am Obaith.) Bydd glynu wrth y gobaith hwnnw yn ein hamddiffyn ni ac yn rhoi i ni’r nerth sydd ei angen i fod yn ufudd i Dduw yn hytrach nag efelychu agwedd y byd anfoesol o’n cwmpas.

      Mae Jehofa eisiau i chithau hefyd ddal eich gafael yn y gobaith hwn. Y mae’n dymuno i chi gael bywyd hapus. Ei ddymuniad yw “i bobl o bob math gael eu hachub.” Sut? Y cam cyntaf yw “dod i wybod y gwir.” (1 Timotheus 2:4) Rydyn ni’n eich annog chi i ddysgu popeth a allwch am y gwirioneddau yng Ngair Duw. Mae’r gobaith mae Duw yn ei gynnig i chi yn well nag unrhyw obaith arall yn y byd.

      Gyda gobaith o’r fath, fyddwch chi byth yn teimlo ar goll, oherwydd mae Duw yn gallu rhoi ichi’r nerth i wneud unrhyw beth sydd yn unol â’i ewyllys. (2 Corinthiaid 4:7; Philipiaid 4:13) Felly, os ydych chi’n chwilio am obaith, peidiwch â digalonni. Mae gwir obaith ar gael!

      [Blwch/Llun]

      Rhesymau am Obaith

      Bydd yr adnodau hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy obeithiol:

      ◼ Mae Duw yn addo dyfodol hapus.

      Mae ei Air yn dweud y bydd y ddaear yn cael ei throi’n baradwys yn llawn pobl hapus ac unedig.—Salm 37:11, 29; Eseia 25:8; Datguddiad 21:3, 4.

      ◼ Ni all Dduw ddweud celwydd.

      Mae Duw yn casáu pob math o gelwydd. Mae Jehofa yn sanctaidd ac yn bur, felly mae’n amhosib iddo ddweud celwydd.—Diarhebion 6:16-19; Eseia 6:2, 3; Titus 1:2; Hebreaid 6:18.

      ◼ Does dim terfyn ar nerth Duw.

      Dim ond Jehofa sy’n hollalluog. Nid oes dim byd yn y bydysawd sy’n gallu ei atal rhag cyflawni ei addewidion.—Exodus 15:11; Eseia 40:25, 26.

      ◼ Mae Duw eisiau i chi fyw am byth.

      —Ioan 3:16; 1 Timotheus 2:3, 4.

      ◼ Mae Duw yn obeithiol amdanon ni.

      Mae’n dewis canolbwyntio, nid ar ein ffaeleddau, ond ar ein rhinweddau a’n hymdrechion. (Salm 103:12-14; 130:3; Hebreaid 6:10) Mae’n gobeithio y byddwn ni’n gwneud y peth iawn, ac mae’n hapus o’n gweld ni’n gwneud hynny.—Diarhebion 27:11.

      ◼ Mae Duw yn ein helpu ni i wneud cynnydd ysbrydol.

      Nid oes rhaid i weision Duw deimlo’n ddiymadferth. Mae Duw yn rhoi ei ysbryd glân yn hael i ni, a hwnnw yw’r grym mwyaf pwerus sy’n bod.—Philipiaid 4:13, BCND.

      ◼ Ni fydd y rhai sy’n gobeithio yn Nuw byth yn cael eu siomi.

      Mae Duw yn hollol ddibynadwy, ni fydd byth yn eich siomi.—Salm 25:3.

      [Llun]

      Fel y mae helmed yn amddiffyn y pen, felly y mae gobaith yn amddiffyn y meddwl

      [Llun]

      Yn debyg i angor, mae gobaith sicr yn gallu ein sadio ni

      [Llinell Gydnabyddiaeth]

      Trwy garedigrwydd René Seindal/Su concessione del Museo Archeologico Regionale A. Salinas di Palermo

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu