Pennod 10
Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
1, 2. Sut mae llywodraethau dynol wedi methu?
YDYCH chi ’rioed wedi cael y profiad o brynu darn o offer ac yna ffeindio ’dydi e ddim yn gweithio? Er i chi gael dyn draw i’w drwsio, yn fuan mae’r teclyn yn torri i lawr eto. Sôn am siom!
2 Mae hi rywbeth yn debyg yn hanes llywodraethau’r byd. Ers canrifoedd mae dyn wedi dymuno cael llywodraeth fyddai’n sicr o ddod â heddwch a hapusrwydd. Ond er gwaetha’ pob ymdrech i atal dirywiad cymdeithas, prin bod ’na welliant o gwbl. Cymaint ydi’r cytundebau heddwch sy’ wedi’u gwneud—a chymaint wedi’u torri. Ydych chi’n gwybod am unrhyw lywodraeth sy’ wedi medru gwneud i ffwrdd â thlodi, rhagfarn, torcyfraith, afiechyd, a rhoi stop ar ddifetha’r amgylchedd? Mae rheolaeth dyn wedi mynd mor ddifrifol fel bod cwestiwn Solomon, brenin doeth Israel, yn dal yn berthnasol heddiw: “Sut y gall dyn ddeall ei ffordd?”—Diarhebion 20:24.
3. (a) Beth oedd thema pregethu Iesu? (b) Sut mae rhai pobl yn disgrifio Teyrnas Dduw?
3 Peidiwch â digalonni! Nid breuddwyd ydi un llywodraeth sefydlog dros y byd cyfan—dyma oedd thema Iesu wrth iddo bregethu am “deyrnas Dduw.” Fe ddysgodd ei ddilynwyr i weddïo amdani. (Luc 11:2; 21:31) Mae’n wir fod ’na sôn weithiau am Deyrnas Dduw ym myd crefyddol cymdeithas, a bod ’na filiynau’n gweddïo amdani wrth adrodd Gweddi’r Arglwydd bob dydd. Ond os gofynnwch chi i bobl “Be’ ’di Teyrnas Dduw?” maen’ nhw’n rhoi atebion gwahanol i chi. “Rhywbeth yn eich calon ydi hi,” mae rhai yn dweud. Mae eraill yn meddwl am y nefoedd. Mae’r Beibl yn rhoi ateb clir, fel y cawn weld.
TEYRNAS GYDA BWRIAD
4, 5. Pam benderfynodd Jehofah fynegi ei benarglwyddiaeth mewn ffordd newydd, a beth fydd hynny’n ei gyflawni?
4 Mae Jehofah Dduw wedi bod yn Frenin erioed, a’i Benarglwyddiaeth yn ymestyn dros y bydysawd. Ef biau’r safle dyrchafedig hwn gan mai fe greodd bob peth. (1 Chronicl 29:11; Salm 103:19; Actau 4:24) Ond mae’r Deyrnas oedd yn destun pregethu Iesu yn ail i awdurdod brenhinol Duw dros y bydysawd. Mae ’na amcan arbennig iawn i’r Deyrnas Feseianaidd honno. Pa amcan, meddech chi?
5 Fel daethom i ddeall ym Mhennod 6, bu i’r pâr dynol cynta’ wrthryfela yn erbyn awdurdod Duw. Fe gododd hyn gwestiynau mawr, ac fe benderfynodd Jehofah fynegi’i benarglwyddiaeth mewn ffordd newydd. Fe gyhoeddodd Duw ei fwriad i gyflwyno “had” fyddai’n malu’r Sarff, Satan, a dileu effaith y pechod ’roedd dynoliaeth wedi’i etifeddu. Yr “had” pennaf ydi Iesu Grist a thrwy gyfrwng “teyrnas Dduw” fe gaiff Satan ei drechu’n llwyr. Trwy gyfrwng y Deyrnas hon fe fydd Iesu Grist yn adfer brenhiniaeth dros y ddaear yn enw Jehofah, ac yn cyfiawnhau am byth hawl penarglwyddiaeth Duw.—Genesis 3:15; Salm 2:2-9.
6, 7. (a) Ble mae’r Deyrnas, a phwy ydi’r Brenin a’r cyd-lywodraethwyr? (b) Pwy ydi deiliaid y Deyrnas?
6 Yn ôl un cyfieithiad o’r Beibl, fe dd’wedodd Iesu wrth Phariseaid drwg: “Teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae.” (Luc 17:21, BCL) Oedd Iesu’n dweud fod y Deyrnas yng nghalonnau dynion mor llygredig? Nagoedd. Yn Y Beibl Cymraeg Newydd fe gawn gyfieithiad o’r Groeg gwreiddiol sy’n fwy cywir: “Y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi.” Mi ’roedd Iesu, a oedd yn eu plith nhw, yn cyfeirio ato’i hun fel y Brenin i ddod. Felly, nid rhywbeth yng nghalon person ydi Teyrnas Dduw, ond llywodraeth fyw, real, gyda brenin a deiliaid. Teyrnas nefol ydi hi, oherwydd mae’n cael ei galw’n “deyrnas nefoedd” ac yn “deyrnas Dduw.” (Mathew 13:11, BCL; Luc 8:10) Mewn gweledigaeth, fe welodd y proffwyd Daniel “un fel mab dyn,” Brenin y Deyrnas, yn cael ei gyflwyno i Dduw Hollalluog i dderbyn “arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu.” (Daniel 7:13, 14) Pwy ydi’r Brenin hwn? Wel, mae’r Beibl yn cyfeirio at Iesu Grist fel “Mab y Dyn.” (Mathew 12:40; Luc 17:26) Mae hyn yn dangos fod Jehofah wedi penodi ei Fab, Iesu Grist, yn Frenin.
7 Nid yw Iesu’n teyrnasu ar ei ben ei hun. Yn gwmni iddo mae 144,000 o gyd-frenhinoedd ac offeiriaid “wedi eu prynu’n rhydd oddi ar y ddaear.” (Datguddiad 5:9, 10; 14:1, 3; Luc 22:28-30) Teulu dynol byd-eang yn ymostwng i arweiniad Crist fydd deiliaid Teyrnas Dduw. (Salm 72:7, 8) Ond pa mor siŵr medrwn ni fod y bydd y Deyrnas yn wir yn cyfiawnhau penarglwyddiaeth Duw ac yn adfer y ddaear i’w chyflwr paradwysaidd?
MAE TEYRNAS DDUW YN REAL
8, 9. (a) Rhowch eglureb i ddangos mor ddibynadwy ydi addewidion Duw am y Deyrnas. (b) Pam medrwn ni fod yn sicr fod y Deyrnas yn real?
8 Dychmygwch fod tân wedi difetha’ch cartre’. Mae ffrind sydd â’r adnoddau ganddo yn cynnig eich helpu gan addo ailadeiladu’ch tŷ a sicrhau bwyd i’ch teulu. Petai e’n ffrind go iawn, un y medrech chi ddibynnu arno, mae’n siŵr y byddech chi’n derbyn ei air. Y diwrnod wedyn, wrth ichi gyrraedd yn ôl o’ch gwaith ’rydych yn synnu gweld rhai wrthi’n barod yn glanhau’r llanast ar ôl y tân, ac wedi trefnu bwyd ar gyfer eich teulu. Mae’n dod yn amlwg ichi y medrwch edrych ymlaen at weld y cyfan wedi’i adfer yn well hyd yn oed nag oedd e o’r blaen.
9 Mewn ffordd debyg, mae Jehofah yn ein hargyhoeddi ni fod y Deyrnas yn real. Mae llyfr yr Hebreaid yn y Beibl yn dangos fod trefn y Deyrnas i’w gweld yng ngwahanol agweddau’r Gyfraith. (Hebreaid 10:1) ’Roedd teyrnas ddaearol Israel gynt yn ddarlun o Deyrnas Dduw. Llywodraeth arbennig iawn oedd hon, gan fod ei brenhinoedd yn eistedd ar “orsedd yr ARGLWYDD.” (1 Chronicl 29:23) ’Roedd ’na hefyd adnod yn proffwydo: “Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.” (Genesis 49:10, BCL)a Yn wir, fe fyddai Iesu yn cael ei eni yn llinach frenhinol Jwda, yn Frenin ar lywodraeth Duw am byth.—Luc 1:32, 33.
10. (a) Pryd gafodd sylfaen Teyrnas Feseianaidd Duw ei gosod? (b) Pa waith pwysig fyddai darpar cyd-lywodraethwyr Iesu yn flaengar ynddo ar y ddaear?
10 Wrth ddewis ei apostolion ’roedd Iesu’n gosod sylfaen Teyrnas Feseianaidd Duw. (Effesiaid 2:19, 20; Datguddiad 21:14) Nhw oedd y cynta’ o 144,000 fyddai’n teyrnasu’n gyd-frenhinoedd gyda Iesu yn y nef. Tra ’roedden’ nhw ar y ddaear, fe fyddai’r darpar gyd-lywodraethwyr hyn yn arwain ymgyrch o dystiolaethu, yn ôl gorchymyn Iesu: “Ewch, . . . a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.”—Mathew 28:19.
11. Sut mae gwaith pregethu’r-Deyrnas yn cael ei wneud heddiw, a beth mae’n ei gyflawni?
11 Mae ’na dyrfaoedd heddiw’n ymateb ar raddfa heb ei thebyg i’r gorchymyn i wneud disgyblion. Mae Tystion Jehofah yn fyd-eang yn cyhoeddi’r newydd da am y Deyrnas fel proffwydodd Iesu: “Fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna y daw’r diwedd.” (Mathew 24:14) Un agwedd ar y gwaith pregethu’r-Deyrnas ydi’r rhaglen addysgiadol eang sy’n cael ei gweithredu ’nawr. Mae’r rhai sy’n ymostwng i ddeddfau ac egwyddorion Teyrnas Dduw eisoes yn mwynhau’r heddwch a’r undod sy’ tu hwnt i gyrraedd llywodraethau dynion. Mae hyn i gyd yn dangos fod Teyrnas Dduw yn real!
12. (a) Pam mae hi’n addas galw cyhoeddwyr y Deyrnas yn Dystion Jehofah? (b) Sut mae Teyrnas Dduw yn wahanol i lywodraethau dyn?
12 “Chwi yw fy nhystion, . . . fy ngwas, a etholais,” oedd geiriau Jehofah wrth yr Israeliaid. (Eseia 43:10-12) Fe gyhoeddodd Iesu, “y tyst ffyddlon,” y newydd da am y Deyrnas gyda sêl. (Datguddiad 1:5; Mathew 4:17) Mae’n iawn felly fod cyhoeddwyr y Deyrnas heddiw yn dwyn yr enw Tystion Jehofah. Ond pam mae’r Tystion yn rhoi cymaint o bwyslais ar y gwaith pregethu ac yn treulio cymaint o amser yn siarad ag eraill am Deyrnas Dduw? Oherwydd mai’r Deyrnas ydi unig obaith dynoliaeth. Methu ydi hanes llywodraethau dyn, ond ’fydd hynny byth yn digwydd i Deyrnas Dduw. “Tywysog tangnefedd” ydi’r enw ar Frenin y Deyrnas, Iesu, yn Eseia 9:6, 7 (BCL) ac mae’r adnod yn mynd yn ei blaen: “Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd.” Nid llywodraeth dros dro ydi Teyrnas Dduw—yn wir mae hi’n hollol wahanol i lywodraethau dyn. Mae hyn yn amlwg o’r adnod yn Daniel 2:44 sy’n dweud: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei meddiannu gan eraill. . . . Bydd hi ei hun yn para am byth.”
13. (a) Nodwch rai problemau y bydd Teyrnas Dduw yn rhoi sylw iddyn’ nhw a’u datrys. (b) Sut medrwn ni fod yn sicr y bydd addewidion Duw yn cael eu cyflawni?
13 Pa ddyn, pa frenin, allai lwyddo i gael gwared â rhyfel, torcyfraith, salwch, newyn, a sicrhau cartre’ i bawb, ac ar ben hyn atgyfodi’r rhai sy’ wedi marw? Mi fydd Teyrnas Dduw a’i Brenin yn rhoi eu holl sylw i’r pethau hyn. Fydd ’na ddim gwendid yn perthyn i’r Deyrnas fel sy’n perthyn i bethau dyn. Yn hytrach, fe fydd pob agwedd o’r Deyrnas yn effeithiol ac yn llwyddo gan fod Jehofah yn addo: “Felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges.” (Eseia 55:11) Ni fydd bwriad Duw yn methu, ond pryd oedd y Deyrnas i ddechrau llywodraethu?
Y DEYRNAS YN LLYWODRAETHU—PRYD?
14. Beth oedd disgyblion Iesu’n ei gamddeall am y Deyrnas, ond beth oedd Iesu’n ei sylweddoli am ei frenhiniaeth?
14 “Arglwydd, ai dyma’r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” oedd cwestiwn disgyblion Iesu iddo. Mae’n amlwg nad oedden’ nhw ddim y pryd hynny yn gwybod be’ oedd bwriad Teyrnas Dduw, na’r amser penodedig iddi gychwyn llywodraethu. “Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau; y mae’r Tad wedi gosod y rhain o fewn ei awdurdod ef ei hun,” oedd ateb Iesu i’w rhybuddio nhw i beidio â dyfalu am y peth. ’Roedd Iesu’n sylweddoli fod ei frenhiniaeth dros y ddaear, ynghadw iddo yn y dyfodol, ymhell ar ôl ei atgyfodi a’i esgyn i’r nef. (Actau 1:6-11; Luc 19:11, 12, 15) ’Roedd yr Ysgrythurau eisoes wedi dweud hyn. Ym mha ffordd?
15. Sut mae Salm 110:1 yn ein helpu ni i ddeall pryd fyddai amser cychwyn brenhiniaeth Iesu?
15 Wrth broffwydo am Iesu, fe alwodd y Brenin Dafydd e’n “Arglwydd,” gan ddweud: “Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.” (Salm 110:1 (BCL); cymharer Actau 2:34-36.) Mae hyn yn dangos y byddai ’na gyfnod rhwng esgyn Iesu i’r nef a chychwyn ei frenhiniaeth. Mi fyddai’n rhaid iddo ddisgwyl ar ddeheulaw Duw. (Hebreaid 10:12, 13) Am faint o amser fyddai e’n disgwyl a phryd fyddai ei frenhiniaeth yn cychwyn? Mae’r Beibl yn ein helpu ni i ffeindio’r atebion.
16. Be’ ddigwyddodd yn 607 C.C.C., a beth oedd y cysylltiad rhwng hyn a Theyrnas Dduw?
16 Dim ond ar un ddinas ar y ddaear y rhoddodd Jehofah ei enw, a Jerwsalem oedd honno. (1 Brenhinoedd 11:36) Hi hefyd oedd prifddinas teyrnas ar y ddaear oedd, yn ôl dymuniad Duw, yn darlunio’i Deyrnas nefol. Felly pan ddinistriwyd Jerwsalem gan y Babiloniaid yn 607 C.C.C. ’roedd hyn yn ddigwyddiad llawn arwyddocâd. Dyma gychwyn amser hir, cyfnod oedd yn torri ar draws brenhiniaeth uniongyrchol Duw dros ei bobl ar y ddaear. Rhyw chwe chanrif yn ddiweddarach, dangosodd Iesu fod y cyfnod hwn yn dal i fynd ’mlân, pan dd’wedodd: “Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed estroniaid nes cyflawni eu hamserau hwy.”—Luc 21:24.
17. (a) Be’ ydi “amser y Cenhedloedd,” a pha mor hir oedd y cyfnod i fod? (b) Pryd cychwynnodd “amser y Cenhedloedd” a phryd daeth y cyfnod i ben?
17 Yn ystod y cyfnod hwn, neu “amser y Cenhedloedd” (BCL), fe fyddai caniatâd i lywodraethau’r byd ymyrryd â’r frenhiniaeth ’roedd Duw yn ei chymeradwyo. Cychwynnodd y cyfnod hwnnw yn 607 C.C.C. pan ddinistriwyd Jerwsalem, ac yn ôl Daniel fe fyddai’r cyfnod yn ymestyn dros “saith amser.” (Daniel 4:23-25, BCL) Pa mor hir ’di hynny? Mae’r Beibl yn dangos fod tri “amser” a hanner yn 1,260 diwrnod. (Datguddiad 12:6, 14) Byddai saith amser felly’n 2,520 diwrnod. Beth bynnag, ddigwyddodd ’na ddim byd mawr ar ddiwedd y cyfnod byr hwnnw. Ond wrth gysylltu’r ymadrodd “diwrnod am bob blwyddyn” â phroffwydoliaeth Daniel a chyfri’ 2,520 mlynedd o 607 C.C.C., mi ddown at y flwyddyn 1914 C.C.—Numeri 14:34; Eseciel 4:6.
18. Be’ wnaeth Iesu yn fuan wedi iddo dderbyn grym y Deyrnas, a beth oedd hyn yn ei olygu i’r ddaear?
18 Ai dyma pryd cychwynnodd Iesu deyrnasu yn y nef? Yn y bennod nesa’ mi fyddwn ni’n trafod adnodau o’r Ysgrythur sy’n rhoi sail inni ateb yn gadarnhaol. Wrth gwrs fyddai brenhiniaeth Iesu ddim yn dod â heddwch sydyn ar y ddaear. Mae Datguddiad 12:7-12 yn dangos y byddai Iesu, yn fuan ar ôl derbyn y Deyrnas, yn bwrw Satan a’i angylion-cythraul allan o’r nef. Byddai hyn yn golygu gwae i’r ddaear, ond gallwn godi’n calon wrth ddarllen mai “byr yw’r amser” sydd ar ôl i’r Diafol. Cyn bo hir, byddwn yn medru llawenhau am fod Teyrnas Dduw yn llywodraethu, ac yn dod â bendithion i’r ddaear ac i’r ddynoliaeth ufudd. (Salm 72:7, 8) Sut medrwn ni ddweud y bydd hyn yn digwydd yn fuan?
RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH
Be’ ’di Teyrnas Dduw, ac o ble mae hi’n llywodraethu?
Pwy sy’n llywodraethu yn y Deyrnas, a phwy ydi’r deiliaid?
Sut mae Jehofah wedi’n hargyhoeddi ni fod ei Deyrnas yn real?
Pryd cychwynnodd “amser y Cenhedloedd” a phryd daeth y cyfnod i ben?
[Footnotes]
a Ystyr yr enw Seilo ydi “Y Sawl Sydd Piau Hi; Y Sawl y Mae’n Eiddo Iddo.” Gydag amser, fe ddaeth yn amlwg mai Iesu Grist, y “Llew o lwyth Jwda,” oedd Seilo. (Datguddiad 5:5) Yn ambell Targum, yn lle’r gair “Seilo” mae’r Iddewon wedi rhoi “y Meseia” neu “y brenin Meseia.”
[Box on page 94]
RHAI DIGWYDDIADAU PWYSIG PERTHNASOL I DEYRNAS DDUW
• Jehofah yn cyhoeddi’i fwriad i gyflwyno “had” i ysigo pen y Sarff, Satan y Diafol.—Genesis 3:15.
• Ym 1943 C.C.C., Jehofah yn dangos y byddai’r “had” hwn yn cael ei eni yn llinach Abraham.—Genesis 12:1-3, 7; 22:18.
• Ym 1513 C.C.C., Israel yn derbyn cyfamod y Gyfraith oedd yn “gysgod . . . o’r pethau da sy’n dod.”—Exodus 24:6-8; Hebreaid 10:1.
• Teyrnas ddaearol Israel yn cychwyn ym 1117 C.C.C., ac yn parhau wedyn yn llinach Dafydd.—1 Samuel 11:15; 2 Samuel 7:8, 16.
• Dinistrio Jerwsalem yn 607 C.C.C., ac “amser y Cenhedloedd” yn cychwyn.—2 Brenhinoedd 25:8-10, 25, 26; Luc 21:24, (BCL).
• Eneinio Iesu yn Ddarpar-Frenin yn 29 C.C., a chychwyn ei weinidogaeth ar y ddaear.—Mathew 3:16, 17; 4:17; 21:9-11.
• Iesu’n esgyn i ddeheulaw Duw yn y nef yn 33 C.C., i ddisgwyl cychwyn ei frenhiniaeth.—Actau 5:30, 31; Hebreaid 10:12, 13.
• “Amser y Cenhedloedd” yn dod i ben ym 1914 C.C. ac Iesu’n cael ei orseddu yn y Deyrnas nefol.—Datguddiad 11:15.
• Satan a’i gythreuliaid yn cael eu bwrw i lawr i’r ddaear a gwae’r ddynoliaeth yn gwaethygu.—Datguddiad 12:9-12.
• Iesu’n arolygu’r gwaith byd-eang o bregethu’r newydd da am Deyrnas Dduw.—Mathew 24:14; 28:19, 20.