PENNOD NAW
A Yw Diwedd Y Byd Yn Agos?
1. Ble gallwn ni ddysgu am y dyfodol?
YDYCH chi erioed wedi edrych ar y newyddion a gofyn, ‘A all pethau fynd yn waeth?’ Gyda chymaint o dristwch a chreulondeb yn y byd, mae rhai yn meddwl bod diwedd y byd yn agos. A yw hynny’n wir? A oes modd inni wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Mae’n amhosib i fodau dynol weld y dyfodol, ond nid yw’n amhosib i Dduw. Yn y Beibl, mae Duw yn datgelu’r dyfodol ar gyfer y ddaear a’r bobl arni.—Eseia 46:10; Iago 4:14.
2, 3. Beth ofynnodd disgyblion Iesu, a sut aeth Iesu ati i’w hateb?
2 Pan gyfeiria’r Beibl at ddiwedd y byd, nid diwedd y ddaear sydd dan sylw ond diwedd drygioni. Dywedodd Iesu Grist y byddai Teyrnas Dduw yn rheoli’r ddaear. (Luc 4:43) Roedd ei ddisgyblion eisiau gwybod pryd byddai Teyrnas Dduw yn dod, a gofynnon nhw i Iesu: “Pryd mae beth oeddet ti’n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di’n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” (Mathew 24:3) Yn lle rhoi dyddiad, disgrifiodd Iesu beth a fyddai’n digwydd yn y cyfnod cyn diwedd y byd. Ac mae’r pethau hynny yn digwydd heddiw.
3 Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y cyfnod sy’n arwain at ddiwedd y byd. Ond yn gyntaf, er mwyn inni ddeall pam mae’r sefyllfa ar y ddaear mor ddrwg, mae angen inni ddysgu am ryfel a ddigwyddodd yn y nef.
RHYFEL YN Y NEF
4, 5. (a) Beth ddigwyddodd yn y nefoedd yn fuan ar ôl i Iesu ddod yn Frenin? (b) Yn ôl Datguddiad 12:12, ar ôl i Satan gael ei fwrw i lawr, beth fyddai’n digwydd ar y ddaear?
4 Ym Mhennod 8, dysgon ni fod Iesu wedi dod yn Frenin yn y nefoedd ym 1914. (Daniel 7:13, 14) Mae llyfr Datguddiad yn disgrifio beth ddigwyddodd: “Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael [sef Iesu] a’i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig [Satan]. Roedd y ddraig a’i hangylion yn ymladd yn ôl.”a Colli’r frwydr a wnaeth Satan a’i gythreuliaid a chael eu bwrw i lawr i’r ddaear. Dychmygwch lawenydd yr angylion! Ond beth am y bobl ar y ddaear? Mae’r Beibl yn dweud y byddai cyfnod cythryblus i’r ddynoliaeth yn dilyn. Pam felly? Oherwydd bod y Diafol wedi gwylltio, “am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”—Datguddiad 12:7, 9, 12.
5 Mae’r Diafol yn gwneud popeth yn ei allu i greu helynt ar y ddaear. Mae’n gandryll oherwydd dim ond ychydig o amser sydd ar ôl cyn y bydd Duw yn cael gwared arno. Dewch inni edrych ar y pethau a ragfynegodd Iesu ar gyfer y dyddiau olaf.—Gweler Ôl-nodyn 24.
Y DYDDIAU OLAF
6, 7. Beth yw’r ffeithiau am ryfel a newyn heddiw?
6 Rhyfel. Dywedodd Iesu: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.” (Mathew 24:7) Mae mwy o bobl wedi eu lladd mewn rhyfeloedd ers 1914 nag yn ystod unrhyw gyfnod arall mewn hanes. Yn ôl un adroddiad gan y Worldwatch Institute, mae mwy na 100 miliwn wedi cael eu lladd mewn rhyfeloedd ers 1914. Bu farw mwy na theirgwaith cymaint o bobl mewn rhyfeloedd yn yr ugeinfed ganrif nag yn yr 19 canrif cyn hynny. Mae’n anodd dychmygu’r gofid a’r tristwch y mae rhyfeloedd wedi eu hachosi i filiynau o bobl!
7 Newyn. Dywedodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd.” (Mathew 24:7) Er ein bod yn cynhyrchu mwy o fwyd nag erioed, mae llawer o bobl heb ddigon i’w fwyta. Pam? Oherwydd nad oes ganddyn nhw bres i brynu bwyd, na thir i’w dyfu. Mae tua 10 y cant o bobl y byd yn byw mewn tlodi enbyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dweud bod miliynau o blant yn marw bob blwyddyn oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o fwyd i’w cadw yn iach.
8, 9. Beth sy’n dangos bod proffwydoliaethau Iesu ynglŷn â daeargrynfeydd a chlefydau wedi dod yn wir?
8 Daeargrynfeydd. Dywedodd Iesu: “Bydd daeargrynfeydd mawr.” (Luc 21:11) Mae daeargrynfeydd mawr yn llawer mwy cyffredin erbyn hyn. Ers 1900, mae mwy na dwy filiwn o bobl wedi marw o achos daeargrynfeydd. Ac er bod technoleg yn medru canfod daeargrynfeydd yn gynt, mae pobl yn dal i farw.
9 Clefydau. Rhybuddiodd Iesu am “heintiau.” Byddai clefydau peryglus yn lledaenu’n gyflym ac yn lladd llawer. (Luc 21:11) Er bod meddygon wedi dysgu sut i drin llawer o glefydau, mae rhai nad oes modd eu gwella. Yn wir, mae un adroddiad yn esbonio bod miliynau yn marw bob blwyddyn o glefydau fel y diciâu, malaria, a cholera. Ar ben hynny, yn y deugain mlynedd diwethaf mae meddygon wedi darganfod mwy na 30 o glefydau newydd, rhai ohonyn nhw na ellir mo’u trechu.
POBL YN Y DYDDIAU OLAF
10. Sut mae 2 Timotheus 3:1-5 yn cael ei gyflawni heddiw?
10 Yn 2 Timotheus 3:1-5, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn.” Disgrifiodd yr apostol Paul y ffordd byddai llawer yn ymddwyn yn ystod y dyddiau olaf. Dywedodd y byddai pobl
yn hunanol
yn caru arian
yn anniolchgar
yn anufudd i’w rhieni
yn ddiserch tuag at eu teuluoedd
yn afreolus
yn filain ac yn greulon
yn caru pleser yn lle Duw
yn ymddangos yn dduwiol ond yn anufudd i Dduw
11. Yn ôl Salm 92:7, beth fydd yn digwydd i bobl ddrwg?
11 Ydy pobl wedi dechrau ymddwyn fel hyn yn eich ardal chi? Y mae wedi digwydd mewn llawer o wledydd. Ond yn fuan, bydd Duw yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae’n addo: “Mae pobl ddrwg yn llwyddo—ond maen nhw fel glaswellt. Er bod y rhai sy’n gwneud drwg fel petaen nhw’n blodeuo, byddan nhw’n cael eu dinistrio am byth!”—Salm 92:7.
NEWYDDION DA YN Y DYDDIAU OLAF
12, 13. Pa bethau mae Jehofa wedi ein helpu ni i’w deall yn ystod y dyddiau olaf?
12 Rhagwelodd y Beibl y byddai’r byd yn llawn poen a dioddefaint yn y dyddiau olaf. Ond mae’r Beibl hefyd yn dweud y byddai pethau da yn digwydd.
“Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd.”—Mathew 24:14
13 Deall y Beibl. Ysgrifennodd y proffwyd Daniel am y dyddiau olaf. Dywedodd y byddai pobl ddoeth “yn deall beth sy’n digwydd.” (Daniel 12:9, 10) Byddai Duw yn helpu ei bobl i ddeall y Beibl yn well. Mae Jehofa wedi gwneud hyn yn enwedig ers 1914. Er enghraifft, y mae wedi ein dysgu ni am bwysigrwydd ei enw, am ei bwrpas ar gyfer y ddaear, am y pridwerth, am beth sy’n digwydd ar ôl inni farw, ac am yr atgyfodiad. Rydyn ni wedi dysgu mai dim ond Teyrnas Dduw all ddatrys ein problemau. Rydyn ni hefyd wedi dysgu sut i fod yn hapus a sut i fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Ond beth mae gweision Duw yn ei wneud gyda’r wybodaeth hon? Mae proffwydoliaeth arall yn rhoi’r ateb.—Gweler Ôl-nodiadau 21 a 25.
14. Lle mae’r neges am Deyrnas Dduw yn cael ei chyhoeddi, a phwy sy’n ei chyhoeddi?
14 Cyhoeddi’r newyddion da drwy’r byd. Wrth drafod y dyddiau olaf, dywedodd Iesu: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:3, 14) Heddiw, mae Tystion Jehofa ‘o bob cenedl a llwyth’ yn cyhoeddi’r newyddion da mewn 240 o wledydd ac mewn mwy na 900 o ieithoedd. Maen nhw’n helpu pobl i ddeall beth yw Teyrnas Dduw a sut mae’n mynd i helpu’r ddynoliaeth. (Datguddiad 7:9) Ac maen nhw’n gwneud hyn am ddim! Er bod llawer yn eu casáu a’u herlid, nid oes dim a all atal y gwaith pregethu, yn union fel y proffwydodd Iesu.—Luc 21:17.
BETH WNEWCH CHI?
15. (a) Ydych chi’n credu ein bod yn byw yn y dyddiau olaf, ac os felly, pam? (b) Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n ufuddhau i Jehofa a’r rhai sy’n gwrthod ufuddhau iddo?
15 Ydych chi’n credu ein bod yn byw yn y dyddiau olaf? Mae llawer o broffwydoliaethau’r Beibl am y dyddiau olaf yn cael eu cyflawni. Yn fuan, bydd Jehofa yn dod â’r gwaith o gyhoeddi’r newyddion da i ben ac yna bydd “y diwedd yn dod.” (Mathew 24:14) Beth yw’r diwedd? Dyma Armagedon, pan fydd Duw yn dileu pob drygioni. Bydd Jehofa yn defnyddio Iesu a’i angylion nerthol i ddinistrio unrhyw un sy’n gwrthod ufuddhau iddo Ef neu i’w Fab. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Ar ôl hynny, ni fydd Satan a’i gythreuliaid yn camarwain neb. A bydd pawb sydd eisiau ufuddhau i Dduw a chefnogi ei Deyrnas yn gweld pob un o addewidion Duw yn cael eu gwireddu.—Datguddiad 20:1-3; 21:3-5.
16. Gan fod y diwedd mor agos, beth ddylech chi ei wneud?
16 Mae’r byd o dan reolaeth Satan ar fin dod i ben. Felly, mae’n bwysig inni ofyn i’n hunain, ‘Beth ddylwn i ei wneud?’ Mae Jehofa am ichi ddysgu cymaint ag y gallwch am y Beibl. Ewch ati o ddifri i’w astudio. (Ioan 17:3) Bob wythnos, mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd sy’n helpu pobl i ddeall y Beibl. Gwnewch ymdrech i fynd i’r cyfarfodydd hynny yn rheolaidd. (Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.) Os gwelwch fod angen gwneud newidiadau yn eich bywyd, peidiwch ag ofni gwneud hynny. Wedyn, bydd eich perthynas â Jehofa yn gryfach byth.—Iago 4:8.
17. Pam bydd y rhan fwyaf o bobl yn synnu pan ddaw’r diwedd?
17 Esboniodd yr apostol Paul y bydd diwedd ar ddrygioni yn dod “yn gwbl annisgwyl” i’r rhan fwyaf o bobl, “fel mae lleidr yn dod yn y nos.” (1 Thesaloniaid 5:2) Dywedodd Iesu y byddai llawer yn dewis anwybyddu’r dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf. Dywedodd: “Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd [“ni thalon nhw ddim sylw,” NW] nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd!”—Mathew 24:37-39.
18. Pa rybudd roddodd Iesu inni?
18 Rhybuddiodd Iesu na ddylen ni adael i “joio, meddwi a phoeni am bethau materol” dynnu ein holl sylw. Dywedodd y bydd y diwedd yn dod yn sydyn fel trap yn cau. Ychwanegodd: “Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi’n gallu osgoi’r pethau ofnadwy sy’n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.” (Luc 21:34-36) Pam mae gwrando ar rybudd Iesu mor bwysig? Oherwydd yn fuan iawn caiff byd drwg Satan ei ddinistrio. Dim ond y rhai y mae Jehofa a Iesu yn eu cymeradwyo fydd yn goroesi’r diwedd ac yn byw am byth yn y byd newydd.—Ioan 3:16; 2 Pedr 3:13.
a Enw arall ar Iesu Grist yw Michael. Am fwy o wybodaeth, gweler Ôl-nodyn 23.