LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb17 Rhagfyr t. 5
  • Nodwedd Newydd o’r Cyfarfod Canol Wythnos

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Nodwedd Newydd o’r Cyfarfod Canol Wythnos
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Dy “Amen” yn Werthfawr i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
mwb17 Rhagfyr t. 5
Efengyl Mathew yn fersiwn astudio ar-lein o’r New World Translation

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Nodwedd Newydd o’r Cyfarfod Canol Wythnos

Yn dechrau yn Ionawr 2018, bydd y cyfarfod canol wythnos yn cynnwys nodiadau astudio a chyfryngau o fersiwn astudio o’r New World Translation of the Holy Scriptures (nwtsty), hyd yn oed os nad yw’r fersiwn astudio ar gael yn dy iaith di. Bydd y wybodaeth hon yn sicr o gyfoethogi dy baratoad ar gyfer y cyfarfodydd. Yn bwysicach, gad iddi wneud iti glosio yn fwy at ein Tad cariadus, Jehofa!

NODIADAU ASTUDIO

Bydd y nodiadau astudio yn rhoi gwybodaeth ddiwylliannol, ddaearyddol, a ieithyddol am lawer o adnodau’r Beibl.

Mathew 12:20

Cannwyll yn mygu: Roedd lamp gyffredin a ddefnyddiwyd mewn tŷ yn llestr oedd yn cael ei lenwi gydag olew olewydd. Roedd wic llin yn tynnu’r olew i fyny i gynnal y fflam. Gall yr ymadrodd Groeg “cannwyll sy’n mygu” gyfeirio at wic sy’n marwlosgi a mwg yn codi ohono, dim ond y mymryn lleiaf o fywyd sydd ar ôl, a’r fflam ar fin diffodd. Proffwydodd Eseia 42:3 am dosturi Iesu; na fyddai byth yn diffodd y wreichionen olaf o obaith mewn unigolyn gostyngedig a bregus.

Mathew 26:13

Credwch chi fi: Groeg, a·menʹ, trawslythreniad o’r Hebraeg ʼa·menʹ, sy’n golygu “bydded felly,” neu “yn sicr.” Mae Iesu yn defnyddio’r ymadrodd yn aml cyn datganiad, addewid, neu broffwydoliaeth, i bwysleisio ei fod yn hollol wir a dibynadwy. Dywed ysgolheigion fod defnydd Iesu o “credwch chi fi,” neu amen, yn unigryw mewn llenyddiaeth gysegredig. Wrth ailadrodd ar ôl ei gilydd (a·menʹ a·menʹ), fel y gwelwn drwy gydol Efengyl Ioan, caiff ymadrodd Iesu ei gyfieithu “yn wir, yn wir.”—In 1:51, BCND.

CYFRYNGAU

Mae ffotograffau, arlunwaith, fideos mud, ac animeiddiadau yn helpu egluro manylion amrywiol a gofnodwyd yn y Beibl.

Bethffage, Mynydd yr Olewydd, a Jerwsalem

Mae’r fideo byr hwn yn dilyn llwybr sy’n dod i Jerwsalem o’r dwyrain, o bentref a elwir heddiw’n et-Tur—safle Bethffage’r Beibl yn ôl pob tebyg—hyd at un o uchelfannau Mynydd yr Olewydd. I’r dwyrain o Bethffage, ar lethrau dwyreiniol Mynydd yr Olewydd y mae pentref Bethania. Pan oedd yn Jerwsalem, byddai Iesu a’i ddisgyblion yn arfer treulio’r noson yn Bethania. Heddiw, safle tref el-ʽAzariyeh (El ʽEizariya), enw Arabeg sy’n golygu “Man Lasarus.” Yn sicr, fe arhosodd Iesu yng nghartref Martha, Mair, a Lasarus. (Mth 21:17; Mc 11:11; Lc 21:37; In 11:1) Wrth deithio o’u cartref i Jerwsalem, gallai Iesu fod wedi cymryd llwybr tebyg i’r un yn y fideo. Ar 9 Nisan, 33 OG, pan aeth Iesu ar gefn ebol asen dros Fynydd yr Olewydd i Jerwsalem, mae’n eithaf posib ei fod wedi gwneud hyn o Bethffage, gan ddilyn y ffordd i Jerwsalem.

Ffordd gall Iesu fod wedi ei dilyn o Bethania i Jerwsalem
  1. Ffordd o Bethania i Bethffage

  2. Bethffage

  3. Mynydd yr Olewydd

  4. Dyffryn Cidron

  5. Mynydd y Deml

Hoelen mewn Asgwrn Sawdl

Asgwrn sawdl dynol sydd wedi ei drywanu gan hoelen

Dyma ffotograff o replica o asgwrn sawdl dynol sydd wedi ei drywanu gan hoelen haearn 11.5 cm (4.5 mod.) o hyd. Cafodd yr arteffact gwreiddiol ei ddarganfod ym 1968, yn ystod cloddio yng ngogledd Jerwsalem, ac mae’n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n rhoi prawf archaeolegol o’r tebygrwydd bod hoelion yn cael eu defnyddio wrth ddienyddio pobl er mwyn eu hoelio i bolyn pren. Gall yr hoelen hon fod yn debyg i’r hoelion a ddefnyddiwyd gan y milwyr Rhufeinig a hoeliodd Iesu Grist i’r stanc. Cafwyd hyd i’r arteffact mewn cist o garreg, a elwir yn esgyrnfa, lle rhoddwyd esgyrn sychion un oedd wedi marw, wedi i’r cnawd bydru. Mae hyn yn dangos y gallai rhywun a oedd wedi ei ddienyddio ar stanc gael claddedigaeth.—Mth 27:35.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu