-
Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 21
Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?
Yn fuan, bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas i gael gwared ar ein problemau i gyd. Mae’r neges hon mor bwysig, ac mae angen i bawb ei chlywed. Roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr rannu’r neges hon â phawb! (Mathew 28:19, 20) Sut mae Tystion Jehofa yn dilyn gorchymyn Iesu?
1. Sut mae Mathew 24:14 yn cael ei gyflawni heddiw?
Rhagfynegodd Iesu: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Mathew 24:14) Mae Tystion Jehofa yn falch iawn o gael rhan yn y gwaith pwysig hwn. Rydyn ni’n pregethu’r newyddion da ledled y byd, mewn mwy na 1,000 o ieithoedd. Mae’r gwaith mawr hwn yn gofyn am ymdrech fawr a threfn. Ni fyddai’n bosib heb help Jehofa.
2. Beth rydyn ni’n ei wneud er mwyn pregethu i bobl?
Rydyn ni’n pregethu le bynnag mae pobl ar gael. Fel y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, rydyn ni’n pregethu “o dŷ i dŷ.” (Actau 5:42) Drwy ddefnyddio’r dull hwn, gallwn gyrraedd miliynau o bobl bob blwyddyn. Gan nad yw pobl bob amser i’w cael yn eu cartrefi, rydyn ni’n pregethu hefyd mewn mannau cyhoeddus. Rydyn ni wastad yn edrych am gyfle i ddweud wrth eraill am Jehofa a’i bwrpas.
3. Pwy sy’n gyfrifol am bregethu’r newyddion da?
Mae cyfrifoldeb ar bob gwir Gristion i rannu’r newyddion da. Rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri. Gan fod bywydau yn y fantol, rydyn ni’n gwneud ein gorau i bregethu. (Darllenwch 1 Timotheus 4:16.) Nid ydyn ni’n derbyn cyflog am y gwaith hwn, oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch heb dâl.” (Mathew 10:7, 8) Nid pawb sy’n derbyn ein neges, ond daliwn ati oherwydd mae pregethu yn rhan o’n haddoliad ac yn gwneud Jehofa yn hapus.
CLODDIO’N DDYFNACH
Dysgwch fwy am ymdrechion Tystion Jehofa i bregethu ledled y byd, a gwelwch sut mae Jehofa yn ein helpu.
Pregethu ledled y byd: (A) Costa Rica, (B) Yr Unol Daleithiau, (C) Benin, (Ch) Gwlad Thai, (D) Iap, (Dd) Sweden
4. Rydyn ni’n gweithio’n galed i gyrraedd pawb
Mae Tystion Jehofa yn gwneud ymdrech arbennig i bregethu i bobl le bynnag maen nhw’n byw. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol.
Beth sy’n eich taro chi am ymdrech Tystion Jehofa i bregethu?
Darllenwch Mathew 22:39 a Rhufeiniaid 10:13-15, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut mae ein gweinidogaeth yn dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion?
Sut mae Jehofa yn teimlo am y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da?—Gweler adnod 15.
5. Cyd-weithwyr Duw ydyn ni
Mae llawer o brofiadau yn dangos bod Jehofa yn arwain ein gwaith. Er enghraifft, un prynhawn yn Seland Newydd, roedd brawd o’r enw Paul yn mynd o dŷ i dŷ pan gwrddodd â dynes. Y bore hwnnw, roedd y ddynes wedi bod yn gweddïo ar Dduw gan ddefnyddio ei enw, Jehofa, yn gofyn am i rywun alw arni. “Dair awr wedyn,” meddai Paul, “dyma fi’n curo ar y drws.”
Darllenwch 1 Corinthiaid 3:9, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut mae profiadau tebyg i’r un yn Seland Newydd yn dangos bod Jehofa yn arwain y gwaith pregethu?
Darllenwch Actau 1:8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam mae angen help Jehofa i gyflawni ein gweinidogaeth?
Oeddech chi’n gwybod?
Yn ein cyfarfod canol wythnos, cawn ni ein hyfforddi i bregethu. Os ydych chi wedi bod yn un o’r cyfarfodydd hyn, beth roeddech chi’n ei feddwl am yr hyfforddiant sydd ar gael?
6. Rydyn ni’n ufuddhau i Dduw drwy bregethu
Yn y ganrif gyntaf, ceisiodd gwrthwynebwyr Iesu atal ei ddilynwyr rhag pregethu. Roedd y Cristnogion cynnar yn amddiffyn eu hawl i bregethu drwy “sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol.” (Philipiaid 1:7) Mae Tystion Jehofa yn gwneud yr un peth heddiw.a
Darllenwch Actau 5:27-42, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam na fyddwn ni’n stopio pregethu?—Gweler adnodau 29, 38, a 39.
BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam mae Tystion Jehofa yn mynd o ddrws i ddrws?”
Sut byddech chi’n ateb?
CRYNODEB
Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am gyhoeddi’r newyddion da i bob cenedl. Mae Jehofa yn helpu ei bobl i wneud y gwaith hwn.
Adolygu
Sut mae’r newyddion da yn cael ei bregethu ledled y byd?
Sut mae ein gweinidogaeth yn dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion?
Ydych chi’n meddwl bod y gwaith pregethu yn ein gwneud ni’n hapus? Pam?
DARGANFOD MWY
Gwelwch sut mae Tystion Jehofa yn pregethu i bobl mewn dinasoedd mawr.
Tystiolaethu Cyhoeddus Metropolitan Arbennig ym Mharis (5:11)
Beth mae Tystion Jehofa wedi ei wneud i helpu ffoaduriaid?
Gwrandewch ar chwaer yn esbonio pam mae hi’n mwynhau pregethu’n llawn amser.
Dysgwch am fuddugoliaethau yn y llys sydd wedi ei gwneud hi’n haws pregethu’r newyddion da.
“Amddiffyn yr Hawl i Bregethu yn y Llys” (Mae Teyrnas Dduw yn Rheoli!, pennod 13)
a Duw sy’n rhoi’r awdurdod inni bregethu. Felly nid oes angen caniatâd llywodraethau dynol ar Dystion Jehofa i gyhoeddi’r newyddion da.
-
-
Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 23
Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!
Dywedodd Iesu fod rhaid i bob Cristion gael ei fedyddio. (Darllenwch Mathew 28:19, 20.) Ond beth yw bedydd? A beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn cymryd y cam hwnnw?
1. Beth yw bedydd?
Mae’r gair “bedyddio” yn dod o ymadrodd Groeg sy’n golygu “trochi.” Pan fedyddiwyd Iesu, cafodd ei drochi yn afon yr Iorddonen, ac yna daeth “i fyny allan o’r dŵr.” (Marc 1:9, 10) Yn yr un modd, mae gwir Gristnogion yn cael eu bedyddio drwy gael eu llwyr ymdrochi mewn dŵr.
2. Beth mae bedydd yn ei ddangos?
Mae ein bedydd yn dangos ein bod wedi cysegru ein hunain i Jehofa Dduw. Sut rydyn ni’n ymgysegru? Cyn cael ein bedyddio, rydyn ni’n mynd at Jehofa mewn gweddi a dweud wrtho ein bod ni eisiau ei wasanaethu am byth. Rydyn ni’n addo addoli Jehofa yn unig a rhoi’r lle cyntaf yn ein bywydau i wneud ewyllys Duw. Rydyn ni’n dewis ‘gwadu ein hunain . . . a dal ati’ i ddilyn dysgeidiaeth ac esiampl Iesu. (Mathew 16:24) Mae ymgysegru a bedydd yn gwneud perthynas agos â Jehofa ac â’n cyd-addolwyr yn bosib.
3. Beth sydd angen ei wneud cyn cael eich bedyddio?
Gallwch baratoi ar gyfer bedydd drwy ddysgu am Jehofa a meithrin ffydd ynddo. (Darllenwch Hebreaid 11:6.) Wrth ichi ddysgu mwy am Jehofa a chryfhau eich ffydd, bydd eich cariad tuag at Jehofa hefyd yn tyfu. Yna byddwch yn dymuno pregethu amdano a byw yn unol â’i safonau. (2 Timotheus 4:2; 1 Ioan 5:3) Pan fyddwch chi’n byw “yn deilwng o Jehofa er mwyn ichi ei blesio’n llawn,” mae’n debyg y byddwch yn dewis cysegru eich bywyd i Dduw a chael eich bedyddio.—Colosiaid 1:9, 10.a
CLODDIO’N DDYFNACH
Gwelwch beth gallwn ni ei ddysgu o fedydd Iesu a sut gall rhywun baratoi ar gyfer y cam pwysig hwn.
4. Gallwn ddysgu o fedydd Iesu
Darllenwch Mathew 3:13-17 i ddysgu mwy am fedydd Iesu. Ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
A gafodd Iesu ei fedyddio’n fabi?
Sut cafodd ei fedyddio? Ai tywallt ychydig o ddŵr ar ei ben oedd hyn?
Ar ôl cael ei fedyddio, dechreuodd Iesu ar y gwaith pwysig yr oedd Duw wedi ei roi iddo. Darllenwch Luc 3:21-23 ac Ioan 6:38, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, pa waith a gymerodd y lle cyntaf yn ei fywyd?
5. Mae bedydd yn nod y gallwch ei gyrraedd
Efallai bydd bedydd yn ymddangos yn gam hynod o fawr i ddechrau. Ond ymhen amser, byddwch yn teimlo’n fwy hyderus. I weld esiamplau rhai pobl sydd wedi cymryd y cam pwysig hwn, gwyliwch y FIDEO.
Darllenwch Ioan 17:3 ac Iago 1:5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth gall helpu rhywun i baratoi ar gyfer bedydd?
Rydyn ni’n ein cysegru ein hunain i Jehofa drwy ddweud wrtho ein bod ni eisiau ei wasanaethu ef am byth
Drwy gael ein bedyddio, rydyn ni’n dangos i eraill ein bod ni wedi ymgysegru i Dduw
6. Ar ôl ein bedydd rydyn ni’n dod yn rhan o deulu Jehofa
Pan gawn ni ein bedyddio, rydyn ni’n dod yn rhan o deulu unedig byd-eang. Er ein bod ni’n dod o gefndiroedd gwahanol, rydyn ni’n rhannu’r un daliadau a safonau moesol. Darllenwch Diarhebion 3:32 a 1 Pedr 2:17, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut mae bedydd yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa ac ag eraill sy’n ei addoli?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i ddim yn barod i gael fy medyddio.”
Os dyna sut rydych chi’n teimlo, ydych chi’n dal i feddwl bod bedydd yn nod gwerth ei gyrraedd?
CRYNODEB
Dysgodd Iesu fod angen i bob Cristion gael ei fedyddio. Cyn cymryd y cam hwnnw, mae angen adeiladu ffydd gadarn yn Jehofa, byw yn ôl ei safonau, ac ymgysegru iddo.
Adolygu
Beth yw bedydd, a pham mae’n bwysig?
Beth yw’r cysylltiad rhwng ymgysegru a bedydd?
Pa gamau sy’n arwain at ymgysegru a bedydd?
DARGANFOD MWY
Dysgwch beth yw bedydd a beth nad yw.
Adolygwch y camau sydd eu hangen er mwyn cael eich bedyddio.
“Bydd Caru Jehofa a’i Werthfawrogi yn Dy Arwain at Fedydd” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 2020)
Darllenwch pam nad emosiwn yn unig oedd y tu ôl i benderfyniad un dyn i gael ei fedyddio.
“Roedden Nhw Eisiau Imi Brofi’r Gwir Drosto I Fy Hun” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 1, 2013)
Ystyriwch pam mae bedydd yn gam buddiol a sut gallwch chi baratoi amdano.
“A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?” (Cwestiynau Pobl Ifanc—Atebion Sy’n Gweithio, Cyfrol 2, pennod 37)
a Os bydd rhywun wedi cael ei fedyddio mewn crefydd arall, bydd angen iddo gael ei fedyddio eto. Pam? Oherwydd nad oedd y grefydd honno’n dysgu’r gwir am y Beibl.—Gweler Actau 19:1-5 a Gwers 13.
-