-
Pam Dylen Ni Ymgysegru a Chael Ein Bedyddio?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
2. Pa fendithion sy’n dod o gael ein bedyddio?
Ar ôl ichi gael eich bedyddio, byddwch yn rhan o deulu hapus Jehofa. Byddwch yn profi ei gariad mewn nifer o ffyrdd ac yn parhau i agosáu ato. (Darllenwch Malachi 3:16-18.) Bydd Jehofa yn Dad ichi, a bydd gynnoch chi deulu o frodyr a chwiorydd ysbrydol ar draws y byd sy’n caru Duw ac yn eich caru chi. (Darllenwch Marc 10:29, 30.) Wrth gwrs, mae’n rhaid ichi gymryd camau penodol cyn ichi gael eich bedyddio. Mae angen ichi ddysgu am Jehofa, dod i’w garu, a rhoi ffydd yn ei Fab. Yn olaf, mae’n rhaid ichi gysegru eich bywyd iddo. Drwy gymryd y camau hyn a chael eich bedyddio, mae’n bosib ichi fwynhau bywyd am byth. Mae Gair Duw yn dweud: “Mae bedydd . . . yn eich achub chi.”—1 Pedr 3:21.
-
-
Gallwch Chi Aros yn Ffyddlon Er Gwaethaf ErledigaethMwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
Roedd Iesu’n gwybod yn iawn na fyddai pob aelod o’r teulu’n cefnogi ein penderfyniad i addoli Jehofa. Darllenwch Mathew 10:34-36, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth all ddigwydd pan fydd aelod o’r teulu yn dewis addoli Jehofa?
I weld esiampl o hyn, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Beth byddech chi’n ei wneud petai perthynas neu ffrind yn ceisio eich atal rhag gwasanaethu Jehofa?
Darllenwch Salm 27:10 a Marc 10:29, 30. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut gall yr addewid hwn eich helpu chi os yw eich teulu neu eich ffrindiau yn eich gwrthwynebu?
-