LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 18
  • Sut i Adnabod Gwir Gristnogion

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Adnabod Gwir Gristnogion
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Ydy Tystion Jehofa yn Wir Gristnogion?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Medrwch Chi Ganfod y Wir Grefydd?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Sut Mae’r Newyddion Da yn Cael ei Gyhoeddi?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Un Yw Iesu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 18
Gwers 18. Iesu’n rhoi cyfarwyddyd i’w ddisgyblion a’u hanfon allan i bregethu mewn parau.

GWERS 18

Sut i Adnabod Gwir Gristnogion

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae biliynau o bobl yn dweud eu bod yn Gristnogion. Ond dydyn nhw ddim i gyd yn credu’r un fath, nac yn byw yn ôl yr un safonau. Felly sut gallwn ni adnabod gwir Gristnogion?

1. Beth yw Cristion?

Mae Cristnogion yn ddisgyblion neu ddilynwyr Iesu Grist. (Darllenwch Actau 11:26.) Sut maen nhw’n profi hynny? Dywedodd Iesu: “Os gwnewch chi aros yn fy ngair, rydych chi’n wir yn ddisgyblion imi.” (Ioan 8:31) Felly mae gwir Gristnogion yn dilyn dysgeidiaeth Iesu. Ac fel roedd Iesu’n dibynnu ar yr Ysgrythurau am ei ddysgeidiaeth, mae gwir Gristnogion yn seilio eu credoau ar y Beibl.—Darllenwch Luc 24:27.

2. Sut mae gwir Gristnogion yn dangos cariad?

Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Dyma fy ngorchymyn, eich bod chi’n caru eich gilydd yn union fel rydw innau wedi eich caru chi.” (Ioan 15:12) Sut dangosodd Iesu ei fod yn caru ei ddisgyblion? Treuliodd amser gyda nhw, yn eu calonogi ac yn eu helpu. Rhoddodd ei fywyd drostyn nhw. (1 Ioan 3:16) Yn yr un modd, mae gwir Gristnogion yn gwneud mwy na siarad am gariad. Maen nhw’n dangos eu cariad mewn gair a gweithred.

3. Pa waith mae gwir Gristnogion yn ei wneud?

Rhoddodd Iesu waith i’w ddisgyblion. “Fe wnaeth eu hanfon nhw allan i bregethu Teyrnas Dduw.” (Luc 9:2) Roedd y Cristnogion cynnar yn pregethu, nid yn unig yn eu mannau addoli, ond hefyd mewn mannau cyhoeddus, a chartrefi. (Darllenwch Actau 5:42; 17:17.) Heddiw mae gwir Gristnogion hefyd yn cyhoeddi gwirioneddau’r Beibl le bynnag mae pobl i’w cael. Maen nhw’n caru eu cymdogion ac felly maen nhw’n hapus i roi o’u hamser a’u hegni i rannu’r gobaith a’r cysur sydd yn y Beibl.—Marc 12:31.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut mae gwir Gristnogion yn wahanol i’r rhai nad ydyn nhw’n dilyn dysgeidiaeth ac esiampl Iesu.

4. Maen nhw’n chwilio’r Beibl i gael hyd i’r gwir

Dau Gristion yn y ganrif gyntaf yn archwilio sgrôl i gael hyd i wirioneddau’r Beibl.

Roedd y Cristnogion cynnar yn gweld gwerth Gair Duw

Nid yw pawb sy’n honni eu bod yn Gristnogion yn gweld gwerth yng ngwirioneddau’r Beibl. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

FIDEO: Sut Cafodd Cristnogaeth ei Llygru (5:11)

  • Sut mae rhai eglwysi sy’n honni eu bod yn Gristnogion wedi methu dysgu’r hyn yr oedd Iesu yn ei ddysgu?

Gair Duw oedd sail dysgeidiaeth Iesu. Darllenwch Ioan 18:37, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Yn ôl Iesu, sut gallwn ni adnabod Cristnogion “sydd ar ochr y gwir”?

5. Maen nhw’n cyhoeddi gwirioneddau’r Beibl

Cristnogion yn y ganrif gyntaf yn pregethu wrth bobl yn eu cartrefi.

Roedd y Cristnogion cynnar yn cyhoeddi’r newyddion da

Cyn i Iesu fynd yn ôl i’r nef, rhoddodd dasg i’w ddilynwyr sy’n parhau hyd heddiw. Darllenwch Mathew 28:19, 20 ac Actau 1:8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa mor bell byddai’r gwaith pregethu’n cyrraedd?

6. Maen nhw’n byw eu pregeth

Beth a wnaeth i ddyn o’r enw Tom gredu ei fod wedi dod o hyd i wir Gristnogaeth? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

FIDEO: Wnes i Gefnu ar Grefydd (5:20)

  • Yn y fideo, pam gwnaeth Tom droi ei gefn ar grefydd?

  • Pam mae Tom bellach yn sicr ei fod wedi cael hyd i’r gwir?

Dywedir mai gwell yw gwneud na dweud. Darllenwch Mathew 7:21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth sy’n fwy pwysig i Iesu—yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, neu’r hyn rydyn ni’n ei wneud?

7. Maen nhw’n caru ei gilydd

Teulu o Gristnogion yn y ganrif gyntaf yn dod â bwyd mewn basgedi i gartref un o’u cyd-Gristnogion.

Roedd y Cristnogion cynnar yn caru ei gilydd

Ydy Cristnogion wedi mentro eu bywydau i helpu Cristnogion eraill? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

FIDEO: Roedd yn Fodlon Marw Dros Ei Ffrind (2:55)

  • Yn y fideo, pam roedd Lloyd yn fodlon mentro ei fywyd i amddiffyn y Brawd Johansson?

  • Ydych chi’n meddwl ei fod wedi ymddwyn fel gwir Gristion?

Darllenwch Ioan 13:34, 35, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut byddai disgyblion Iesu (gwir Gristnogion) yn trin pobl o hil neu genedl arall?

  • Sut bydden nhw’n gwneud hyn yn ystod rhyfeloedd?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae Cristnogion wedi gwneud pethau ofnadwy, felly sut gallan nhw honni mai nhw sydd â’r wir grefydd?”

  • Pa adnod gallwch chi ei dangos sy’n esbonio sut mae adnabod gwir Gristnogion?

CRYNODEB

Mae gwir Gristnogion yn dilyn dysgeidiaeth y Beibl, yn dangos cariad hunan-aberthol, ac yn cyhoeddi gwirioneddau’r Beibl.

Adolygu

  • Ar beth mae gwir Gristnogion yn seilio eu credoau?

  • Pa rinwedd sy’n dangos pwy yw gwir Gristnogion?

  • Pa waith mae gwir Gristnogion yn ei wneud?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch fwy am bobl sy’n gwneud eu gorau i ddilyn esiampl a dysgeidiaeth Iesu Grist.

Tystion Jehofa—Pwy Ydyn Ni? (1:13)

Gwelwch sut daeth dynes a oedd yn arfer bod yn lleian o hyd i “deulu ysbrydol go iawn.”

“Defnyddion Nhw’r Beibl i Ateb Pob Cwestiwn!” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 1, 2014)

Dysgwch sut mae gwir Gristnogion yn dangos cariad tuag at gyd-addolwyr sydd mewn angen.

Helpu Ein Brodyr ar ôl Trychineb—Clip (3:57)

Gwelwch sut mae’r Cristnogion cynnar a gwir Gristnogion heddiw yn ffitio disgrifiad Iesu o’i wir ddilynwyr.

“Sut Mae Adnabod Gwir Gristnogion?” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 1, 2012)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu