LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 1 tt. 10-13
  • Sut Mae Sicrhau Bod Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Sicrhau Bod Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GWEDDÏWCH AR JEHOFA DDUW YN ENW IESU GRIST
  • SIARADWCH O’R GALON
  • GWEDDÏWCH YN UNOL AG EWYLLYS DUW
  • BETH GALLWN NI WEDDÏO AMDANO?
  • BYDDWCH YN AMYNEDDGAR A DALIWCH ATI
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Nesáu at Dduw mewn Gweddi
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 1 tt. 10-13

Sut Mae Sicrhau Bod Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Mae Jehofa yn Dduw “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Gallwn siarad ag ef pryd bynnag a le bynnag y dymunwn, yn uchel neu’n ddistaw. Mae Jehofa yn dymuno inni siarad ag ef fel “Tad,” ac yn wir, ef ydy’r Tad gorau y gallwn ni ei gael. (Mathew 6:9) Mae Jehofa yn esbonio yn garedig sut i weddïo a chael gwrandawiad.

GWEDDÏWCH AR JEHOFA DDUW YN ENW IESU GRIST

“Os ydych chi’n gofyn i’r Tad am unrhyw beth, fe fydd ynei roi ichi yn fy enw i.”—Ioan 16:23.

Mae geiriau Iesu yn dangos yn glir bod Jehofa am inni weddïo arno, nid drwy ddelwau, seintiau, angylion, neu hynafiaid, ond yn enw Iesu Grist. Drwy weddïo ar Dduw yn enw Iesu Grist, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd Iesu Grist. “Does neb yn dod at y Tad heblaw trwyddo i,” meddai Iesu.—Ioan 14:6.

SIARADWCH O’R GALON

“Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.”—Salm 62:8.

Pan weddïwn ar Jehofa, dylen ni siarad fel y bydden ni’n siarad â thad cariadus. Yn lle darllen gweddi o lyfr neu adrodd gweddi o’n cof, dylen ni siarad ag ef yn barchus ac o’r galon.

GWEDDÏWCH YN UNOL AG EWYLLYS DUW

“Beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano yn ôl ei ewyllys, mae’n ein clywed ni.”—1 Ioan 5:14.

Yn y Beibl, mae Jehofa Dduw yn esbonio beth a wnaiff droston ni a beth mae’n gofyn inni ei wneud drosto ef. Er mwyn i’n gweddïau fod yn dderbyniol i Dduw, mae angen inni weddïo “yn ôl ei ewyllys.” I wneud hynny, mae angen inni astudio’r Beibl i adnabod Duw yn well. Yna, bydd ein gweddïau yn ei blesio.

BETH GALLWN NI WEDDÏO AMDANO?

Teulu’n gweddïo cyn bwyta.

Gweddïwch am Eich Anghenion. Gallwn weddïo am anghenion bob dydd, sef bwyd, dillad, a chartref. Gallwn weddïo hefyd am ddoethineb, ac am nerth i ddyfalbarhau drwy dreialon. Gallwn weddïo am ffydd, am faddeuant, ac am help Duw.—Luc 11:3, 4, 13; Iago 1:5, 17.

Gŵr yn gweddïo gyda’i wraig sydd mewn gwely yn yr ysbyty.

Gweddïwch Dros Bobl Eraill. Mae rhieni yn hapus i weld plant yn caru ei gilydd. Mae Jehofa hefyd eisiau i’w blant garu ei gilydd. Peth da ydy gweddïo dros ein cymar, ein plant, ein teulu, a’n ffrindiau. Ysgrifennodd y disgybl Iago: “Gweddïwch dros eich gilydd.”—Iago 5:16.

Dyn yn cerdded mewn cae wrth i’r haul fachlud.

Cofiwch Ddiolch i Dduw. Mae’r Beibl yn dweud bod y Creawdwr yn gofalu amdanon ni “drwy roi glawogydd i chi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, drwy roi digonedd o fwyd ichi a thrwy lenwi eich calonnau â llawenydd.” (Actau 14:17) Pan feddyliwn am yr holl bethau mae Duw wedi eu gwneud droston ni, byddwn ni eisiau diolch iddo mewn gweddi. Wrth gwrs, dylen ni hefyd ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Dduw drwy’r ffordd rydyn ni’n byw.—Colosiaid 3:15.

BYDDWCH YN AMYNEDDGAR A DALIWCH ATI

Ar adegau, efallai byddwn ni’n digalonni os nad ydyn ni’n cael ateb i’n gweddïau ar unwaith. A ddylen ni ddod i’r casgliad nad oes gan Dduw ddiddordeb ynon ni? Dim o gwbl! Ystyriwch y profiadau canlynol sy’n dangos pa mor bwysig ydy dal ati i weddïo.

Mae Steve, y soniwyd amdano yn yr erthygl agoriadol, yn cyfaddef: “Oni bai am weddi, byddwn i wedi colli pob gobaith flynyddoedd yn ôl.” Beth newidiodd? Dechreuodd astudio’r Beibl a dysgu bod angen gweddïo a dal ati i weddïo. “Dw i’n gweddïo i ddiolch i Dduw am yr holl gefnogaeth dw i wedi ei chael gan ffrindiau annwyl,” meddai Steve. “Dw i’n hapusach heddiw nag erioed.”

Beth am Jenny a oedd yn teimlo nad oedd hi’n ddigon da i Dduw wrando arni? Mae hi’n dweud, “Pan oeddwn i ar fy isaf, erfyniais ar Dduw am help i ddeall pam roeddwn i’n teimlo mor ddiwerth.” Sut roedd hynny yn ei helpu? “Trwy siarad â Duw, dw i wedi sylweddoli bod Jehofa yn fy ngharu, hyd yn oed pan mae fy nghalon yn mynnu nad ydw i’n ddigon da. Mae hynny wedi fy helpu i beidio â digalonni.” A’r canlyniad? “Mae gweddïo wedi fy helpu i weld Jehofa fel Duw, Tad a Ffrind cariadus sydd bob amser yn gefn imi os ydw i’n dal ati i geisio ei blesio.”

Isabel gyda’i gŵr a’i mab.

“Dw i’n sylweddoli mai fo ydy’r ateb gorau i’m gweddïau,” meddai Isabel pan wêl ei mab Gerard yn mwynhau bywyd er gwaethaf ei anabledd

Ystyriwch brofiad Isabel hefyd. Pan feichiogodd hi, dywedodd y meddygon y byddai’r plentyn yn cael ei eni ag anabledd difrifol. Roedd y newyddion yn ei llorio. Dywedodd rhai y dylai hi gael erthyliad. “Roeddwn i’n teimlo mod i’n mynd i farw o’r boen yn fy nghalon.” Beth a wnaeth hi? “Gweddïais drosodd a throsodd am gymorth,” meddai. Pan gafodd ei mab Gerard ei eni, roedd ganddo anableddau. Ydy Isabel yn credu bod Duw wedi ateb ei gweddïau? Ydy! Ym mha ffordd? “Pan welaf fy mab, sy’n 14 oed erbyn hyn, yn mwynhau bywyd er gwaethaf ei anabledd,” meddai Isabel, “dw i’n sylweddoli mai fo ydy’r ateb gorau i’m gweddïau, y fendith fwyaf mae Jehofa wedi ei rhoi i mi.”

Mae eu geiriau diffuant yn ein hatgoffa o eiriau’r salmydd: “Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw’n teimlo’n saff am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw.” (Salm 10:17) Dyna resymau gwych dros ddal ati i weddïo!

Mae llawer o weddïau Iesu yn y Beibl. Yr un fwyaf enwog ydy’r un a ddysgodd i’w ddisgyblion. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r weddi honno?

Gweddi’r Arglwydd—Patrwm i’w Ddilyn

Tyrfa o bobl yn gwrando’n astud ar Iesu’n traddodi’r Bregeth ar y Mynydd.

Yn y Bregeth ar y Mynydd, rhoddodd Iesu weddi i’w ddisgyblion ei defnyddio fel patrwm. Mae llawer yn galw’r weddi hon yn Weddi’r Arglwydd. (Mathew 6:9-13; gweler hefyd Luc 11:2-4.) Dros y canrifoedd, mae’r weddi hon wedi bod mor boblogaidd nes bod llawer wedi ei dysgu ar eu cof ac yn ei adrodd air am air. Ai dyna oedd bwriad Iesu? Nid ydy hynny’n debygol. Gwelwn, o gymharu’r testunau ym Mathew a Luc, nad oedd Iesu ei hun yn ailadrodd yn union yr un geiriau yn ei weddi ar achlysur arall. Yn hytrach, roedd Iesu yn dysgu ei ddisgyblion sut i weddïo a beth i weddïo amdano. Gadewch inni weld beth gallwn ni ei ddysgu o weddi Iesu.

“Ein Tad yn y nefoedd”

  • Dylen ni weddïo ar Dduw ei hun a neb arall.

“Gad i dy enw gael ei sancteiddio”

  • Dylen ni anrhydeddu enw Duw, Jehofa, a’i weld yn sanctaidd.

“Gad i dy Deyrnas ddod”

  • Llywodraeth nefol ydy Teyrnas Dduw, a Iesu Grist yn Frenin arni. Yn fuan iawn bydd y Deyrnas yn llywodraethu dros y byd i gyd.

“Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear, fel y mae yn y nef”

  • Ewyllys Duw ydy i fodau dynol gael bywyd tragwyddol ar y ddaear, yn ddiogel ac yn heddychlon.

“Rho inni heddiw ein bara ar gyfer y diwrnod hwn”

  • Jehofa ydy’r un sy’n darparu pob peth sydd ei angen i gynnal ein bywydau.

“Maddau inni ein dyledion”

  • Rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau ac angen maddeuant.

Drwy gadw’r pwyntiau hyn mewn cof, bydd ein gweddïau personol yn fwy ystyrlon.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu