LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Pwy Yw Iesu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
    • 1. Pwy yw Iesu?

      Ysbryd pwerus sy’n byw yn y nefoedd yw Iesu. Cafodd ei greu gan Jehofa Dduw cyn popeth arall. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud mai ef yw “cyntaf-anedig yr holl greadigaeth.” (Colosiaid 1:15) Mae’n cyfeirio at Iesu fel “unig-anedig Fab” Duw, oherwydd Iesu yw’r unig un i gael ei greu gan Jehofa ei hun. (Ioan 3:16) Roedd Iesu yn cydweithio’n agos â’i Dad, Jehofa, ac yn ei helpu i greu pob peth arall. (Darllenwch Diarhebion 8:30.) Mae’r berthynas rhwng Iesu a Jehofa yn dal yn agos iawn. Ef yw llefarydd ffyddlon Duw, “y Gair,” sy’n cyfleu negeseuon a chyfarwyddiadau Duw i eraill.—Ioan 1:14.

  • Sut Gall Marwolaeth Iesu Ein Hachub Ni?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
    • Gwers 27. Cymryd corff Iesu oddi ar y stanc.

      GWERS 27

      Sut Gall Marwolaeth Iesu Ein Hachub Ni?

      Rydyn ni’n pechu, dioddef, ac yn marw oherwydd anufudd-dod Adda ac Efa.a Ond nid yw’r sefyllfa’n anobeithiol. Mae Jehofa wedi creu ffordd inni gael ein hachub rhag pechod a marwolaeth drwy ei Fab, Iesu Grist. Mae’r Beibl yn esbonio bod Iesu, drwy ei farwolaeth, wedi talu pridwerth. Pridwerth yw’r pris sy’n cael ei dalu er mwyn rhyddhau rhywun. Y pris a dalodd Iesu oedd ei fywyd dynol perffaith. (Darllenwch Mathew 20:28.) Drwy ildio ei hawl i fywyd tragwyddol ar y ddaear, creodd Iesu ffordd inni gael popeth a gollodd Adda ac Efa yn ôl. Dangosodd hyn hefyd fod Jehofa ac Iesu’n ein caru ni’n fawr. Bydd y wers hon yn eich helpu chi i werthfawrogi’r hyn a wnaeth Iesu.

      1. Sut mae marwolaeth Iesu’n ein helpu ni heddiw?

      Gan ein bod ni’n bechaduriaid, rydyn ni’n gwneud llawer o bethau sydd ddim yn plesio Jehofa. Ond os ydyn ni’n edifar, yn gofyn i Jehofa faddau inni drwy Iesu Grist, ac yn gwneud ein gorau i beidio â gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd, gallwn fod yn agos at Dduw. (1 Ioan 2:1) Mae’r Beibl yn dweud: “Bu farw Crist unwaith ac am byth dros bechodau, person cyfiawn dros bobl anghyfiawn, er mwyn eich arwain chi at Dduw.”​—1 Pedr 3:18.

      2. Sut bydd marwolaeth Iesu’n ein helpu ni yn y dyfodol?

      Anfonodd Jehofa Iesu i’r byd i roi ei fywyd dynol perffaith “er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd [yn Iesu] beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:​16) Diolch i’r hyn a wnaeth Iesu, yn fuan bydd Jehofa yn dileu’r holl bethau drwg sydd wedi digwydd oherwydd anufudd-dod Adda. Mae hyn yn golygu bod cyfle inni fwynhau byw am byth mewn paradwys ar y ddaear os ydyn ni’n rhoi ffydd yn aberth Iesu.​—Eseia 65:21-23.

      CLODDIO’N DDYFNACH

      Dysgwch fwy am y rhesymau i Iesu roi ei fywyd, ac ystyriwch sut mae hyn yn eich helpu chi.

      3. Mae marwolaeth Iesu yn ein rhyddhau o bechod a marwolaeth

      Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

      FIDEO: Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?​—Rhan 1 (2:01)

      • Pa gyfle a gollodd Adda drwy beidio â bod yn ufudd i Dduw?

      Darllenwch Rhufeiniaid 5:12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Sut mae pechod Adda wedi effeithio ar eich bywyd chi?

      Darllenwch Ioan 3:16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Pam anfonodd Jehofa ei Fab i’r ddaear?

      A. Collage: 1. Adda ar ôl iddo anufuddhau i Dduw. 2. Cludo arch mewn angladd. Collage: A. Adda ar ôl iddo anufuddhau i Dduw. B. Iesu Grist. B. Collage: 1. Iesu Grist. 2. Pobl o wahanol oedran, hil, diwylliant a chefndir.
      1. Dyn perffaith oedd Adda, ond drwy anufuddhau i Dduw, gosododd yr hil ddynol ar y llwybr i bechod a marwolaeth

      2. Dyn perffaith oedd Iesu, a thrwy ufuddhau i Dduw, gosododdyr hil ddynol ar y llwybr i fywyd tragwyddol perffaith

      4. Mae marwolaeth Iesu yn gallu helpu pawb

      Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

      FIDEO: Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?​—Rhan 2 (2:00)

      • Sut mae’n bosib i farwolaeth un dyn helpu pawb?

      Darllenwch 1 Timotheus 2:5, 6, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Dyn perffaith oedd Adda, ond gosododd yr hil ddynol ar y llwybr i bechod a marwolaeth. Dyn perffaith oedd Iesu hefyd. Sut mae’r bywyd a aberthodd Iesu yn ‘talu’r pris angenrheidiol er mwyn rhyddhau pawb o bechod’?

      5. Mae’r pridwerth yn rhodd i chi gan Jehofa

      I ffrindiau Jehofa, mae’r pridwerth yn rhodd bersonol. Er enghraifft, darllenwch Galatiaid 2:20, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Sut dangosodd yr apostol Paul ei fod yn gweld y pridwerth yn rhodd bersonol?

      Pan bechodd Adda, y canlyniad iddo ef a’i ddisgynyddion oedd marwolaeth. Ond anfonodd Jehofa ei Fab i roi ei fywyd er mwyn i chi gael y cyfle i fyw am byth.

      Wrth ichi ddarllen yr adnodau canlynol, ceisiwch ddychmygu sut roedd Jehofa’n teimlo o weld ei Fab yn dioddef. Darllenwch Ioan 19:1-7, 16-18, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Sut rydych chi’n teimlo am yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud ar eich cyfer chi?

      BYDD RHAI YN GOFYN: “Sut mae’n bosib i un dyn farw dros bawb?”

      • Sut byddech chi’n ateb?

      CRYNODEB

      Oherwydd marwolaeth Iesu, gall Jehofa faddau ein pechodau, a rhoi inni’r cyfle i fyw am byth.

      Adolygu

      • Pam roedd yn rhaid i Iesu farw?

      • Sut mae’r bywyd a aberthodd Iesu yn ein hachub ni rhag pechod a marwolaeth?

      • Sut mae marwolaeth Iesu yn eich helpu chi?

      Nod

      DARGANFOD MWY

      Dysgwch pam mae bywyd perffaith Iesu fel dyn yn cael ei alw’n bridwerth.

      “Sut Mae Aberth Iesu ‘yn Bridwerth Dros Lawer’?” (Erthygl ar jw.org)

      Gwelwch beth mae angen i ni ei wneud er mwyn cael ein hachub.

      “Mae Iesu’n Achub​—Ond Sut?”(Erthygl ar jw.org)

      Ydy Jehofa yn barod i faddau hyd yn oed pechodau difrifol?

      “Atebion i Gwestiynau am y Beibl” (Y Tŵr Gwylio, Mai 1, 2013)

      Gwelwch sut roedd dysgu am aberth Iesu’n helpu dyn i newid ei bersonoliaeth.

      “Dydy Trais Ddim yn Feistr Arna i Bellach” (Erthygl ar jw.org)

      a Nid mater o wneud pethau drwg yn unig yw pechod. Mae pechod hefyd yn cyfeirio at y cyflwr amherffaith rydyn ni wedi ei etifeddu.

  • Gwerthfawrogi’r Hyn Mae Jehofa ac Iesu Wedi ei Wneud Drostoch Chi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
    • 1. Beth yw un ffordd y gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am yr hyn mae Duw a Christ wedi ei wneud?

      Mae’r Beibl yn dweud y bydd pawb “sy’n ymarfer ffydd [yn Iesu]” yn cael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Beth mae ymarfer ffydd yn ei olygu? Mae angen inni ddangos ein ffydd drwy ein dewisiadau a’n gweithredoedd. (Iago 2:17) Pan ddangoswn ein ffydd mewn gair a gweithred, mae ein perthynas â Iesu a’i Dad, Jehofa, yn mynd o nerth i nerth.​—Darllenwch Ioan 14:21.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu