LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 1
  • Dangos Diddordeb

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dangos Diddordeb
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Iesu
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
  • Dilyna Esiampl Iesu
  • Naturioldeb
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgyrsiau a All Roi Cyfle Inni Dystiolaethu
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgwrs er Mwyn Tystiolaethu’n Anffurfiol
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Caredigrwydd
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 1

DECHRAU SGWRS

Iesu’n siarad â dynes wrth y ffynnon.

Ioan 4:​6-9

GWERS 1

Dangos Diddordeb

Egwyddor: “[Gofalwch] nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.” —Phil. 2:4.

Esiampl Iesu

Iesu’n siarad â dynes wrth y ffynnon.

FIDEO: Iesu a’r Ddynes Wrth y Ffynnon

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 4:​6-9. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth sylwodd Iesu arno am y ddynes cyn iddo ddechrau sgwrs?

  2. Dywedodd Iesu: “Rho ddiod imi.” Pam roedd hyn yn ffordd effeithiol o ddechrau sgwrs?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Rydyn ni’n fwy tebygol o gael sgwrs dda os ydyn ni’n dechrau gyda phwnc sydd o ddiddordeb i’r person arall.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Bydda’n hyblyg. Yn lle mynnu sgwrsio am rywbeth sydd ar dy feddwl di, dechreua gyda rhywbeth y mae pobl eraill yn meddwl amdano. Gofynna i ti dy hun:

  1. ‘Beth sydd ar y newyddion?’

  2. ‘Beth mae pobl yn y gymuned, yn y gwaith, neu yn yr ysgol yn siarad amdano?’

4. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Gofynna i ti dy hun:

  1. ‘Beth mae’r person yn ei wneud? Beth, efallai, sydd ar ei feddwl?’

  2. ‘Beth rydw i’n ei ddysgu am ddaliadau neu ddiwylliant y person drwy edrych ar ei ddillad, ei olwg, a’i gartref?’

  3. ‘A yw’n gyfleus i’r person siarad?’

5. Gwranda.

  1. Paid â siarad gormod.

  2. Ceisia annog y person arall i’w fynegi ei hun. Gofynna gwestiynau pan fydd hynny’n addas.

GWELER HEFYD

Math. 7:12; 1 Cor. 9:​20-23; 13:​4, 5; Iago 1:19.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu