LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • kl pen. 5 tt. 43-52
  • Pa Fath o Addoliad Sy’n Dderbyniol gan Dduw?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pa Fath o Addoliad Sy’n Dderbyniol gan Dduw?
  • Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • ADDOLI MEWN YSBRYD A GWIRIONEDD
  • GWNEUD EWYLLYS Y TAD
  • GWYBODAETH GYWIR—YN AMDDIFFYN
  • GORCHMYNION DYNION YN ATHRAWIAETHAU
  • GWYLIWCH RHAG DIGIO DUW
  • MYNNWCH GADW SAFONAU UCHEL DUW
  • ADDOLI Â’CH HOLL ENAID
  • Y Ffordd Gywir o Addoli Duw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Bydd Gwir Addoliad yn Dy Wneud Di’n Hapusach
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Sut Gallwn Ni Addoli Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
kl pen. 5 tt. 43-52

Pennod 5

Pa Fath o Addoliad Sy’n Dderbyniol gan Dduw?

1. Beth oedd gwraig o Samaria eisiau ei wybod am addoli?

YDYCH chi ’rioed wedi meddwl, ‘Pa fath o addoliad sy’n plesio Duw?’ Rhywbeth tebyg, mae’n siŵr, oedd ar feddwl rhyw wraig wrth sgwrsio gyda Iesu Grist ger Mynydd Garisim yn Samaria. Dyma hi’n tynnu sylw at fel ’roedd y Samariaid a’r Iddewon yn addoli mewn ffyrdd gwahanol: “Yr oedd ein tadau yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi’r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae’r man lle dylid addoli.” (Ioan 4:20) Be’ dd’wedodd Iesu wrth y wraig o Samaria? Fod Duw yn cymeradwyo pob math o addoliad, neu bod ’na ofyn rhai pethau arbennig cyn medru plesio Duw?

2. Be’ dd’wedodd Iesu wrth ateb y wraig o Samaria?

2 Gwnaeth ateb Iesu iddi synnu’n fawr iawn: “Y mae’r amser yn dod pan na fyddwch yn addoli’r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem.” (Ioan 4:21) Ers canrifoedd ’roedd y Samariaid wedi ofni Jehofah a hefyd wedi addoli duwiau eraill ar Fynydd Garisim. (2 Brenhinoedd 17:33) Ond ’nawr dyma Iesu Grist yn dweud na fyddai ’na ran o bwys gan y lle hwnnw na Jerwsalem mewn gwir addoliad.

ADDOLI MEWN YSBRYD A GWIRIONEDD

3. (a) Pam nad oedd y Samariaid yn ’nabod Duw yn iawn? (b) Sut medrai Iddewon ffyddlon ac eraill ddod i ’nabod Duw?

3 Aeth Iesu ’mlân yn ei sgwrs gyda’r wraig: “Yr ydych chwi’r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni’n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod.” (Ioan 4:22) ’Roedd gan y Samariaid syniadau gau am grefydd. Iddyn’ nhw, dim ond pum llyfr cynta’r Beibl oedd wedi’u hysbrydoli—a’r rheini yn eu ffurf arbennig nhw, Pumllyfr y Samariaid. Sut felly, y gallen’ nhw ’nabod Duw yn iawn? Ond ar y llaw arall, ’roedd yr Iddewon wedi cael y fraint a’r cyfrifoldeb o ofalu am wybodaeth Ysgrythurol. (Rhufeiniaid 3:1, 2) ’Roedd yr Ysgrythurau yn cynnwys pob dim oedd ei angen i’r Iddewon neu unrhyw un arall oedd yn fodlon gwrando, ddod i ’nabod Duw.

4. Yn ôl Iesu, be’ fyddai’n rhaid i’r Iddewon a’r Samariaid ei wneud i sicrhau bod eu haddoliad yn dderbyniol gan Dduw?

4 I ddweud y gwir, mi ddangosodd geiriau Iesu y byddai’n rhaid i’r Iddewon yn ogystal â’r Samariaid addasu eu ffordd nhw o addoli cyn medru plesio Duw. Fe dd’wedodd: “Y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” (Ioan 4:23, 24) I addoli Duw “mewn ysbryd” mae’n rhaid inni gael ysbryd Duw a dilyn arweiniad yr ysbryd hwnnw. I addoli Duw ‘mewn gwirionedd’ mae gofyn inni astudio’i Air, y Beibl, fel bod ein haddoliad mewn harmoni â’r gwirionedd mae e wedi’i roi inni. Ai dyma’ch dymuniad chi?

5. (a) Be’ ydi ystyr “addoli”? (b) Be’ mae’n rhaid inni ei wneud os ydym am i Dduw dderbyn ein haddoliad?

5 Yr hyn ’roedd Iesu’n tynnu sylw ato oedd fod Duw yn gofyn am wir addoliad. Mae’n amlwg felly fod ’na ffyrdd o addoli na fedrith Jehofah mo’u derbyn nhw. Ystyr addoli Duw ydi ei anrhydeddu a’i barchu a rhoi gwasanaeth cysegredig iddo. Petaech chi’n awyddus i anrhydeddu llywodraethwr pwysig mae’n siŵr y byddech chi’n barod iawn i’w was’naethu a gwneud yr hyn fyddai’n ei blesio. Am resymau tebyg, mae’n siŵr ein bod ni eisiau plesio Duw. Felly, yn lle dweud, ‘’Rydw i’n hapus efo ’nghrefydd; mae’n fy siwtio i,’ fe ddylem fod yn addoli Duw yn ôl ei ofynion.

GWNEUD EWYLLYS Y TAD

6, 7. Pam mae Iesu’n gwrthod cydnabod rhai’n ddisgyblion iddo?

6 Beth am inni ddarllen Mathew 7:21-23 i weld a fedrwn ni ffeindio’n union yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng addoliad mae Duw yn medru’i dderbyn a’r addoliad nad ydi e’n fodlon ei dderbyn. Fe dd’wedodd Iesu: “Nid pawb sy’n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid [ysbryd-greaduriaid drwg], ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?’ Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.’”

7 Mae gwir addoliad yn gofyn cydnabod Iesu Grist yn Arglwydd. Ond byddai addoliad llawer oedd yn mynnu eu bod nhw’n ddisgyblion i Iesu, yn ddiffygiol. Fe dd’wedodd e y byddai rhai yn gwneud “gwyrthiau,” fel honni medru gwella pobl sâl. Ac eto, yn ôl Iesu, mi fyddai ’na un peth hanfodol bwysig na fydden’ nhw’n ei wneud—fydden’ nhw ddim yn “gwneud ewyllys [ei] Dad.” Os ydym ni eisiau plesio Duw mae’n rhaid inni ddysgu beth ydi ewyllys y Tad ac yna ei gweithredu.

GWYBODAETH GYWIR—YN AMDDIFFYN

8. Os ydym am wneud ewyllys Duw be’ ’di’r gofynion, a pha syniadau anghywir mae’n rhaid inni eu hosgoi?

8 Cyn medru gwneud ewyllys Duw mae’n rhaid cael gwybodaeth gywir am Jehofah Dduw a hefyd am Iesu Grist. Mae’r fath wybodaeth yn arwain i fywyd tragwyddol. Mae’n siŵr felly, ein bod i gyd yn awyddus i ystyried Gair Duw, y Beibl, o ddifri’, er mwyn cael hyd i’r wybodaeth sy’n gywir. Mae rhai yn dadlau ’does dim rhaid poeni, dim ond inni fod yn ddiffuant a brwdfrydig wrth addoli. Ac eto, mae eraill o’r farn, ‘Gorau po leiaf ’rydych yn ei wybod, fedr neb wedyn ddisgwyl llawer gennych chi.’ Ond mae’r Beibl yn ein hannog i ddysgu mwy a mwy am Dduw a’i fwriadau.—Effesiaid 4:13; Philipiaid 1:9; Colosiaid 1:9.

9. Sut mae gwybodaeth sy’n gywir yn ein hamddiffyn ni, a pham mae angen inni gael y fath amddiffyn?

9 Mae gwybodaeth o’r fath yn cadw’n haddoliad yn lân ac yn bur. Fe soniodd yr apostol Paul am ryw ysbryd-greadur sy’n cymryd arno bod yn “angel goleuni.” (2 Corinthiaid 11:14) Wedi’i wisgo fel hyn, mae’r ysbryd- greadur hwn—Satan—yn ceisio’n cael ni i wneud pethau sy’n groes i ewyllys Duw. Yn cadw cwmni i Satan mae ysbryd-greaduriaid eraill sydd hefyd wedi bod yn llygru addoliad pobl, oherwydd fe dd’wedodd Paul: “I gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth.” (1 Corinthiaid 10:20) Mae llawer wedi cymryd yn ganiataol fod eu haddoliad yn dderbyniol heb sylweddoli nad oedden’ nhw’n plesio Duw. Cael eu camarwain oedden’ nhw i addoli mewn ffordd gau, amhur. Byddwn yn dysgu rhagor am Satan a’r cythreuliaid yn nes ’mlân, ond fel gelynion Duw, heb os nac onibai, maen’ nhw wedi bod yn llygru addoliad pawb.

10. Be’ fyddech chi’n ei wneud petai rhywun yn fwriadol wenwyno’ch cyflenwad dŵr, a be’ mae gwybodaeth gywir o Air Duw yn ein helpu i’w wneud?

10 Petaech chi’n gwybod fod rhywun wedi rhoi gwenwyn yn eich cyflenwad dŵr chi, a hynny’n fwriadol, ’fyddech chi’n yfed y dŵr hwnnw wedyn? Mae’n siŵr y byddech ar unwaith yn chwilio am gyflenwad dŵr glân, diogel. Wel, mewn ffordd debyg, mae’r wybodaeth gywir sy’ yng Ngair Duw yn ein helpu i ’nabod y grefydd sy’n wir ac i osgoi’r pethau amhur sy’n llygru addoliad a’i wneud yn annerbyniol gan Dduw.

GORCHMYNION DYNION YN ATHRAWIAETHAU

11. Beth oedd o’i le ar addoliad llawer o Iddewon?

11 Yn amser Iesu ar y ddaear, ’roedd gweithredoedd yr Iddewon ymhell o fod mewn harmoni â gwybodaeth gywir am Dduw. Fe goll’son’ nhw felly, y cyfle i fedru sefyll o flaen Jehofah yn lân ac yn bur. “Gallaf dystio o’u plaid,” ’sgrifennodd Paul, “fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw.” (Rhufeiniaid 10:2) Yn lle gwrando ar Dduw, nhw oedd yn penderfynu drostyn’ eu hunain sut i’w addoli.

12. Be’ lygrodd addoliad Israel, a beth oedd canlyniad hynny?

12 Ar y cychwyn ’roedd yr Israeliaid yn byw yn ôl y grefydd bur ’roedd Duw wedi’i rhoi iddyn’ nhw, ond ymhen amser daeth dysgeidiaeth ac athroniaeth dyn yn rhan ohoni, ac fe gollodd ei phurdeb. (Jeremeia 8:8, 9; Malachi 2:8, 9; Luc 11:52) Er bod y Phariseaid, arweinwyr crefyddol yr Iddewon, yn meddwl eu bod nhw’n addoli Duw mewn ffordd oedd yn dderbyniol ganddo, dyma be’ dd’wedodd Iesu wrthyn’ nhw: “Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig: ‘Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf; yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’”—Marc 7:6, 7.

13. Oes ’na beryg’ inni fod fel y Phariseaid?

13 Os ein hanes ni ydi dilyn yn ddall draddodiadau crefyddol o’n cwmpas yn lle edrych i mewn i’r hyn mae Duw wedi’i ddweud am addoli, mi fyddwn ni hefyd fel y Phariseaid hynny. Fe ’sgrifennodd Paul am yr union beryg’ hwn: “Y mae’r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu.” (1 Timotheus 4:1) Mae’n amlwg felly na fedrwn ni gymryd yn ganiataol fod ein haddoliad yn plesio Duw. Fel y wraig o Samaria a fu’n sgwrsio gyda Iesu, mae’n eithaf tebygol ein bod ni wedi etifeddu ein ffordd o addoli gan ein rhieni. Ond rhaid inni fod yn hollol sicr ein bod yn gwneud y pethau mae Duw yn eu dymuno.

GWYLIWCH RHAG DIGIO DUW

14, 15. Hyd yn oed os oes gennym beth gwybodaeth o ewyllys Duw, pam mae’n rhaid inni fod yn ofalus?

14 Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n annerbyniol gan Dduw. Er enghraifft, pan syrthiodd yr apostol Ioan wrth draed angel “i’w addoli,” fe rybuddiodd yr angel e: “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â’th frodyr sy’n dal tystiolaeth Iesu; addola Dduw.” (Datguddiad 19:10) Ydych chi’n gweld ’nawr pa mor bwysig ydi hi i wneud yn siŵr fod eich addoliad yn lân oddi wrth unrhyw fath o eilunaddoliaeth?—1 Corinthiaid 10:14.

15 Pan ddechreuodd rhai Cristnogion arfer defodau crefyddol oedd yn groes i ddymuniad Duw, gofynnodd Paul: “Sut y gallwch droi yn ôl at yr ysbrydion elfennig [“egwyddorion,” BCL] llesg a thlawd, a mynnu mynd yn gaethweision iddynt hwy unwaith eto? Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych. Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.” (Galatiaid 4:8-11) Oedd, ’roedd gan y rhain wybodaeth o Dduw ond ymhen amser dyma nhw’n gwneud peth annoeth trwy gadw traddodiadau crefyddol a dathlu gwyliau sanctaidd oedd yn annerbyniol gan Jehofah. “Gwnewch yn siŵr,” meddai Paul, “beth sy’n gymeradwy gan yr Arglwydd.”—Effesiaid 5:10.

16. Sut mae Ioan 17:16 a 1 Pedr 4:3 yn ein helpu ni i benderfynu a ydi gwyliau ac arferion yn plesio Duw?

16 Mae’n rhaid inni osgoi gwyliau crefyddol ac arferion eraill sy’n groes i egwyddorion Duw. (1 Thesaloniaid 5:21) Fel d’wedodd Iesu am ei ddilynwyr: “Nid ydynt yn perthyn i’r byd, fel nad wyf finnau’n perthyn i’r byd.” (Ioan 17:16) Ydi’ch crefydd chi yn cymryd rhan mewn seremonïau a gwyliau sy’n torri egwyddor bod yn niwtral tuag at bethau’r byd hwn? Oes ’na rai o’r un grefydd â chi yn cael rhan o dro i dro mewn arferion a gwyliau sy’n gallu arwain at ymddygiad tebyg i’r hyn a ddisgrifiodd yr apostol Pedr pan dd’wedodd: “Y mae’r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd.”?—1 Pedr 4:3.

17. Pam ddylem ni osgoi unrhyw beth sy’n copïo ysbryd y byd?

17 Fe bwysleisiodd yr apostol Ioan mor bwysig ydi inni osgoi unrhyw beth sy’n copïo ysbryd y byd drwg o’n cwmpas pan ’sgrifennodd: “Peidiwch â charu’r byd na’r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef, oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o’r Tad y mae, ond o’r byd. Y mae’r byd a’i drachwant yn mynd heibio, ond y mae’r hwn sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.” (1 Ioan 2:15-17) Wnaethoch chi sylwi y bydd y rhai “sy’n gwneud ewyllys Duw” yn aros am byth? Felly, os byddwn yn gwneud ewyllys Duw ac yn osgoi’r gweithredoedd sy’n perthyn i ysbryd y byd hwn, ein gobaith fydd cael byw am byth!

MYNNWCH GADW SAFONAU UCHEL DUW

18. Beth oedd camargraff rhai Corinthiaid ynglŷn ag ymddygiad, a be’ ddylem ni ei ddysgu o hyn?

18 Mae Duw eisiau i’w addolwyr fyw yn ôl ei safonau moesol uchel e. ’Roedd rhai oedd yn byw yng Nghorinth gynt yn meddwl y byddai Duw yn gadael llonydd iddyn’ nhw fyw yn anfoesol. Wrth inni ddarllen 1 Corinthiaid 6:9, 10 mae’n amlwg mor bell oedden’ nhw o ’nabod Duw. Os ydym ni am i Dduw dderbyn ein haddoliad, mae’n rhaid inni ei blesio yn ein sgwrsio a’r ffordd y byddwn ni’n ymddwyn. Ydi’ch ffordd chi o addoli ’nawr yn caniatáu i chi wneud hynny?—Mathew 15:8; 23:1-3.

19. Sut mae gwir addoliad yn dylanwadu ar ein hymwneud ag eraill?

19 Fe ddylai’r ffordd ’rydym ni’n trin pobl eraill hefyd ddangos ein bod ni’n byw yn ôl safonau Duw. Anogaeth Iesu Grist oedd inni drin eraill fel y byddem ni’n dymuno iddyn’ nhw’n trin ni, oherwydd bod hyn yn rhan o wir addoliad. (Mathew 7:12) Mae’n werth sylwi ar yr hyn dd’wedodd Iesu am weithredu cariad brawdol: “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” (Ioan 13:35) Mae’n rhaid i ddisgyblion Iesu garu ei gilydd a gwneud daioni i gydaddolwyr ac eraill.—Galatiaid 6:10.

ADDOLI Â’CH HOLL ENAID

20, 21.(a) Pa fath o addoliad mae Duw yn ei ofyn? (b) Pam wnaeth Jehofah wrthod addoliad Israel yng nghyfnod Malachi?

20 Os yn eich calon, ’rydych chi’n awyddus i addoli Duw a gwneud hynny yn y ffordd mae e’n ei ddymuno, byddwch yn barod i wrando ar Jehofah yn disgrifio’r addoliad sy’n ei blesio. Fel pwysleisiodd y disgybl Iago, barn Duw sy’n bwysig nid ein barn ni: “Dyma’r grefydd sy’n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod dyn yn gofalu am yr amddifad a’r gweddwon yn eu trallod, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.” (Iago 1:27) Gan ein bod ni eisiau plesio Duw, peth iach fyddai i bob un ohonom edrych pa mor lân a phur ydi’r ffordd y byddwn ni’n addoli. Oes gennym ni arferion drwg? Ydi hi’n bosib’ ein bod ni’n esgeuluso gwneud rhywbeth mae Duw yn ei ystyried yn holl bwysig?—Iago 1:26.

21 Dim ond addoliad sy’n lân ac yn dod o’r galon sy’n plesio Jehofah. (Mathew 22:37; Colosiaid 3:23) Pan welodd Duw fod cenedl Israel yn cynnig llai na hynny iddo, ei ymateb oedd: “Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi’n dad, ple mae f’anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” ’Roedden’ nhw’n digio Duw trwy offrymu ac aberthu anifeiliaid dall, cloff a chlaf iddo. Fe wrthododd e dderbyn y math hwn o addoliad. (Malachi 1:6-8) Mae Jehofah yn teilyngu’r addoliad puraf sy’n bod. Nid yw’n derbyn dim llai na’n llwyr ymroddiad eiddigeddus.—Exodus 20:5; Diarhebion 3:9; Datguddiad 4:11.

22. Os ein dymuniad ydi i Dduw dderbyn ein haddoliad, be’ fyddwn ni’n ei osgoi, a be’ fyddwn ni’n ei wneud?

22 Ar ôl cael sgwrs gyda Iesu ’roedd y wraig o Samaria yn ymddangos yn awyddus i addoli Duw yn ôl y dymuniad dwyfol. Os mai dyna fel ’rydym ni’n teimlo rhaid inni gadw’n glir rhag y dysgeidiaethau ac arferion sy’n llygru. (2 Corinthiaid 6:14-18) Yn hytrach, gadewch inni wneud ein gorau i ennill gwybodaeth gywir o Dduw a gwneud ei ewyllys. Gadewch inni wneud pob ymdrech i’w addoli mewn ffordd sy’n dderbyniol ganddo yn ôl ei ofynion. (1 Timotheus 2:3, 4) Dyna’n union mae Tystion Jehofah yn ceisio’i wneud ac maen’ nhw’n eich annog chi’n gynnes i addoli Duw gyda nhw “mewn ysbryd a gwirionedd.” (Ioan 4:24) D’wedodd Iesu: “Rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.” (Ioan 4:23) Y gobaith ydi eich bod chi’n un o’r rhain. Fel y wraig o Samaria, mae’n siŵr eich bod chithau’n dymuno byw am byth. (Ioan 4:13-15) Ond yr hyn ’rydych yn ei weld ’nawr ydi pobl yn mynd yn hen ac yn marw. Mae’r bennod nesa’n esbonio pam mae hyn yn digwydd.

RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH

Yn ôl Ioan 4:23, 24, pa addoliad sy’n dderbyniol gan Dduw?

Sut mae’n bosib’ dweud a yw rhai arferion a gwyliau yn plesio Duw?

Nodwch rai gofynion addoliad derbyniol.

[Llun-tudalen lawn on page 44]

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu