-
3 | Dadwreiddio Casineb o’ch MeddwlY Tŵr Gwylio (Cyhoeddus)—2022 | Rhif 1
-
-
Dysgeidiaeth o’r Beibl:
“Chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe.”—RHUFEINIAID 12:2.
Beth Mae’n ei Olygu:
Mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl yn bwysig i Dduw. (Jeremeia 17:10) Dylen ni osgoi dweud neu wneud pethau cas, ond hefyd mae’n rhaid inni fynd ymhellach. Mae’r cylch o gasineb yn dechrau yn y meddwl a’r galon. Felly mae’n rhaid inni ddadwreiddio unrhyw awgrym o gasineb o’n meddyliau a’n teimladau. Dim ond wedyn byddwn ni’n gallu “chwyldroi [ein] ffordd o feddwl” a thorri’r cylch o gasineb.
-