LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w20 Rhagfyr t. 14
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Bedydd—Hanfodol ar Gyfer Cristnogion
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Beth Yw Bedydd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1: Ystyr Bedydd
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
w20 Rhagfyr t. 14

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Ydy geiriau’r apostol Paul yn 1 Corinthiaid 15:29 yn golygu bod rhai Cristnogion bryd hynny yn cael eu bedyddio ar ran y meirw?

Nac ydy, does unlle yn y Beibl na llyfrau hanes sy’n dweud bod hynny’n arfer digwydd.

Mae’r ffordd mae’r adnod hon wedi ei chyfieithu mewn llawer o Feiblau yn gwneud i rai feddwl bod bedydd ar ran y meirw yn arferiad yn nyddiau Paul. Er enghraifft: “Os nad oes atgyfodiad, beth a wna’r rhai hynny a fedyddir dros y meirw?”—BCND.

Ond, ystyria sylwadau dau ysgolhaig y Beibl. Dywedodd y Dr Gregory Lockwood nad oes unrhyw dystiolaeth Feiblaidd na hanesyddol fod unrhyw un wedi cael ei fedyddio ar ran rhywun oedd eisoes wedi marw. Mae’r Athro Gordon D. Fee yn cytuno drwy ddweud nad oes unrhyw enghraifft yn y Beibl nac mewn hanes o’r math hwn o fedydd. Ychwanegodd nad oes unrhyw sôn amdano yn y Testament Newydd, a does ’na ddim tystiolaeth i ddangos fod y Cristnogion cynnar wedi gwneud hyn, nac unrhyw un o’r eglwysi a ffurfiodd yn y canrifoedd ar ôl i’r apostolion farw chwaith.

Mae’r Beibl yn dweud bod rhaid i ddilynwyr Iesu ‘wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio, . . . a’u dysgu nhw i wneud popeth’ roedd ef wedi ei orchymyn. (Math. 28:19, 20) Cyn i rywun fod yn ddisgybl bedyddiedig, roedd rhaid iddo ddysgu am Jehofa a’i Fab, credu ynddyn nhw, ac ufuddhau iddyn nhw. Fyddai rhywun oedd eisoes wedi marw ac yn y bedd ddim yn gallu gwneud hynny, a fyddai rhywun oedd dal yn fyw ddim yn gallu ei wneud drosto chwaith.—Preg. 9:5, 10; Ioan 4:1; 1 Cor. 1:14-16.

Beth felly roedd Paul yn ei olygu?

Roedd rhai o’r Corinthiaid yn gwadu y byddai’r meirw yn cael eu hatgyfodi. (1 Cor. 15:12) Ond gwrthbrofodd Paul y safbwynt hwnnw. Tynnodd sylw at y ffaith ei fod yn “wynebu marwolaeth bob dydd.” Wrth gwrs, roedd yn dal yn fyw. Ond er gwaetha’r peryglon, roedd yn hyderus y byddai, ar ôl marw, yn cael ei atgyfodi i fywyd yn y nef, fel y cafodd Iesu.—1 Cor. 15:30-32, 42-44.

Roedd y Corinthiaid angen sylweddoli yr oedd bod yn Gristnogion eneiniog yn golygu y bydden nhw’n wynebu treialon bob dydd, ac yn marw cyn y gallen nhw gael eu hatgyfodi. Roedd cael eu ‘bedyddio i Grist Iesu’ yn golygu cael eu “bedyddio i’w farwolaeth.” (Rhuf. 6:3, BCND) Felly, fel Iesu, bydden nhwthau’n wynebu treialon ac yn marw er mwyn cael eu hatgyfodi i’r nef.

Dros ddwy flynedd ar ôl i Iesu gael ei fedyddio mewn dŵr, dywedodd wrth ddau o’i apostolion: ‘Cewch eich bedyddio â’r un bedydd a mi.’ (Marc 10:38, 39) Felly, doedd Iesu ddim yn sôn yma am gael ei fedyddio mewn dŵr. Roedd yn golygu y byddai ei gwrs o ffyddlondeb i Dduw yn arwain at ei farwolaeth. Wrth sôn am y rhai eneiniog, dywedodd Paul: “Os ydyn ni’n cael rhannu yn ei ysblander mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd.” (Rhuf. 8:16, 17; 2 Cor. 4:17) Felly, byddai’n rhaid iddyn nhwthau hefyd farw er mwyn cael eu hatgyfodi i fywyd yn y nef.

Felly, gall datganiad Paul gael ei drosi’n gywir: “Os nad yw’r meirw am gael eu codi, pam felly maen nhw’n cael eu bedyddio i farwolaeth? Os nad yw’r meirw am gael eu codi, pam felly maen nhw’n cael y math yna o fedydd?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu