-
Beth Yw Agwedd y Cristion at Alcohol?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
Beth Yw Agwedd y Cristion at Alcohol?
Ar draws y byd, mae gan bobl agweddau gwahanol at alcohol. Mae rhai’n hoffi cael diod fach bob hyn a hyn gyda ffrindiau. Mae rhai’n dewis peidio ag yfed alcohol o gwbl. Ac mae eraill yn yfed nes eu bod nhw’n meddwi. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am alcohol?
1. Ydy yfed alcohol yn anghywir?
Nid yw’r Beibl yn erbyn yfed alcohol. I’r gwrthwyneb, mae’n dweud bod gwin yn rhodd gan Dduw sy’n gallu codi’r galon. (Salm 104:14, 15) Roedd rhai dynion a menywod ffyddlon yn amser y Beibl yn yfed alcohol.—1 Timotheus 5:23.
2. Pa gyngor mae’r Beibl yn ei roi i’r rhai sy’n dewis yfed alcohol?
Mae Jehofa yn erbyn yfed gormod a meddwi. (Galatiaid 5:21) Mae ei Air yn dweud: “Paid cael gormod i’w wneud gyda’r rhai sy’n goryfed.” (Diarhebion 23:20) Felly os ydyn ni’n dewis yfed—hyd yn oed yn ein bywydau preifat—ddylen ni ddim yfed cymaint nes ein bod ni’n cael trafferth meddwl yn glir, rheoli ein geiriau a’n hymddygiad, a chadw’n iach. Os nad ydyn ni’n gallu rheoli faint rydyn ni’n ei yfed, dylen ni fod yn barod i stopio yfed yn gyfan gwbl.
3. Sut gallwn ni barchu penderfyniadau pobl eraill ynglŷn ag alcohol?
Mae’n rhaid i bob person ddewis a fydd yn yfed alcohol neu beidio. Ddylen ni ddim barnu rhywun sy’n dewis yfed alcohol yn gymedrol, ac ni ddylen roi pwysau ar eraill i yfed os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. (Rhufeiniaid 14:10) Byddwn ni hefyd yn dewis peidio ag yfed os bydd hynny yn achosi problemau i eraill. (Darllenwch Rhufeiniaid 14:21.) Byddwn ni’n dilyn cyngor y Beibl: “Gadewch i bob un barhau i geisio, nid ei fantais ei hun, ond mantais y person arall.”—Darllenwch 1 Corinthiaid 10:23, 24.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch egwyddorion y Beibl a fydd yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am yfed neu beidio, a faint i’w yfed. Dysgwch hefyd beth gallwch chi ei wneud os ydy yfed gormod yn broblem ichi.
4. Penderfynu a fyddwch chi’n yfed neu beidio
Sut roedd Iesu’n teimlo am yfed alcohol? I gael yr ateb, ystyriwch ei wyrth gyntaf. Darllenwch Ioan 2:1-11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Beth gallwn ni ei ddysgu o’r wyrth hon am y ffordd roedd Iesu’n teimlo am alcohol ac am y rhai sy’n ei yfed?
Gan nad oedd Iesu yn erbyn yfed alcohol, sut dylai Cristion deimlo am rywun sy’n dewis yfed?
Serch hynny, er bod gan Gristnogion yr hawl i yfed alcohol, nid yw’n golygu bod hynny bob amser yn beth call i’w wneud. Darllenwch Diarhebion 22:3, ac yna ystyriwch sut gall y ffactorau canlynol effeithio ar eich penderfyniad i yfed neu beidio:
Byddwch chi’n gyrru cerbyd neu ddefnyddio peiriant.
Rydych chi’n feichiog.
Mae meddyg wedi awgrymu ichi beidio ag yfed alcohol.
Rydych chi’n cael trafferth rheoli faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.
Mae cyfraith y wlad yn gwahardd ichi yfed alcohol.
Rydych chi yng nghwmni rhywun sy’n dewis peidio ag yfed alcohol oherwydd ei fod wedi cael problem ag alcohol yn y gorffennol.
A ddylech chi gynnig alcohol mewn gwledd briodas, neu wrth gymdeithasu? I’ch helpu chi i benderfynu, gwyliwch y FIDEO.
Darllenwch Rhufeiniaid 13:13 a 1 Corinthiaid 10:31, 32. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut bydd rhoi’r egwyddor hon ar waith yn eich helpu chi i wneud penderfyniad a fydd yn plesio Jehofa?
Penderfyniad pob Cristion yw dewis yfed alcohol neu beidio. Hyd yn oed os yw’n dewis yfed, efallai bydd yn dewis peidio ag yfed mewn rhai sefyllfaoedd
5. Penderfynu faint y byddwch chi’n ei yfed
Os ydych chi’n dewis yfed alcohol, cofiwch hyn: Er nad yw Jehofa yn erbyn yfed alcohol, y mae yn erbyn goryfed. Pam? Darllenwch Hosea 4:11, 18, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth all ddigwydd pan fydd rhywun yn yfed gormod?
Sut gallwn ni osgoi yfed gormod? Mae angen inni fod yn wylaidd, neu’n ymwybodol o’n terfynau. Darllenwch Diarhebion 11:2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam mae’n syniad da ichi osod terfyn penodol ar faint y byddwch chi’n ei yfed?
6. Stopio camddefnyddio alcohol
Gwelwch beth helpodd un dyn i stopio camddefnyddio alcohol. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
Yn y fideo, sut roedd alcohol yn effeithio ar ymddygiad Dmitry?
A wnaeth Dmitry lwyddo i stopio yfed yn syth?
Sut llwyddodd i dorri’n rhydd o’i ddibyniaeth ar alcohol yn y pen draw?
Darllenwch 1 Corinthiaid 6:10, 11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pa mor ddifrifol yw meddwi?
Beth sy’n dangos bod rhywun sy’n camddefnyddio alcohol yn gallu newid?
Darllenwch Mathew 5:30, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Rhoddodd Iesu’r eglureb hon i ddangos bod angen inni wneud aberth weithiau er mwyn plesio Jehofa. Beth gallwch chi ei wneud os ydych chi’n ceisio stopio camddefnyddio alcohol?a
Darllenwch 1 Corinthiaid 15:33, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut gall eich ffrindiau ddylanwadu ar faint rydych chi’n ei yfed?
BYDD RHAI YN GOFYN: “Ydy yfed yn beth drwg?”
Sut byddech chi’n ateb?
CRYNODEB
Rhoddodd Jehofa alcohol inni ei fwynhau, ond y mae yn erbyn goryfed a meddwi.
Adolygu
Beth yw agwedd y Beibl at alcohol?
Beth yw peryglon yfed gormod?
Sut gallwn ni barchu penderfyniadau pobl eraill ynglŷn ag yfed alcohol?
DARGANFOD MWY
Sut gall pobl ifanc benderfynu’n ddoeth ynglŷn ag alcohol?
Dewch o hyd i’r camau gallwch chi eu cymryd er mwyn rheoli eich yfed.
A ddylai Cristion yfed i iechyd rhywun?
“Cwestiynau Ein Darllenwyr” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 15, 2007)
Yn yr hanes “Roeddwn i’n ‘Gasgen Ddiwaelod,’” gwelwch sut gwnaeth dyn roi’r gorau i oryfed.
a Efallai bydd yn rhaid i’r rhai sydd yn gaeth i alcohol fynd am help proffesiynol er mwyn torri’n rhydd. Mae nifer o feddygon yn awgrymu na ddylai’r rhai sydd wedi cael problem yn y gorffennol yfed alcohol o gwbl.
-
-
Pam Mae Ein Gwisg a Thrwsiad yn Bwysig?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 52
Pam Mae Ein Gwisg a Thrwsiad yn Bwysig?
Rydyn ni i gyd yn hoffi gwahanol fathau o wisg a thrwsiad. Os ydyn ni’n dilyn egwyddorion y Beibl byddwn ni’n gallu gwisgo beth rydyn ni’n ei hoffi a phlesio Jehofa ar yr un pryd. Dewch inni ystyried rhai o’r egwyddorion hynny.
1. Pa egwyddorion dylen ni eu dilyn wrth feddwl am ein gwisg a thrwsiad?
Dylen ni “wisgo’n weddus, . . . yn wylaidd a synhwyrol,” a chadw’n lân er mwyn dangos ein “defosiwn i Dduw.” (1 Timotheus 2:9, 10) Ystyriwch y pedair egwyddor hyn: (1) Dylai ein gwisg fod yn “weddus.” Yn y cyfarfodydd, mae’n debyg eich bod chi wedi sylwi bod gan bob un o bobl Jehofa steil wahanol. Ond mae ein gwisg a’n steiliau gwallt yn dangos parch tuag at ein Duw. (2) Mae gwisgo “yn wylaidd” yn golygu peidio â gwisgo’n bryfoclyd, na thynnu gormod o sylw aton ni’n hunain. (3) Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n “synhwyrol” drwy beidio â dilyn pob steil a ffasiwn sy’n mynd a dod. (4) Dylai ein “defosiwn i Dduw” fod yn amlwg yn y ffordd rydyn ni’n gwisgo.—1 Corinthiaid 10:31.
2. Sut gall ein gwisg a thrwsiad effeithio ar ein brodyr a chwiorydd?
Er bod hawl gynnon ni i ddewis beth byddwn ni’n ei wisgo, dylen ni ystyried teimladau pobl eraill hefyd. Rydyn ni’n gwneud ein gorau i beidio â digio neb ond yn hytrach rydyn ni’n ceisio “plesio [ein cymydog] a gwneud beth sy’n dda iddo er mwyn ei gryfhau.”—Darllenwch Rhufeiniaid 15:1, 2.
3. Sut gall ein gwisg a thrwsiad denu eraill i ddysgu am Jehofa?
Rydyn ni’n ceisio gwisgo’n addas bob dydd, ond mae’n arbennig o bwysig pan fyddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd neu yn y weinidogaeth. Fydden ni ddim eisiau tynnu sylw oddi ar y neges am y newyddion da. Yn hytrach, dylai ein gwisg a thrwsiad ddenu eraill at y gwir, a “dangos harddwch dysgeidiaeth ein Hachubwr.”—Titus 2:10.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch sut gall ein gwisg a thrwsiad ei gwneud hi’n amlwg ein bod ni’n Gristnogion.
Gall ein gwisg a thrwsiad ddangos a ydyn ni’n parchu awdurdod dynol neu beidio. Er bod Jehofa’n gallu darllen ein calonnau, dylai’r ffordd rydyn ni’n gwisgo ddangos parch tuag ato
4. Mae bod yn lân a gwisgo’n daclus yn dangos parch tuag at Jehofa
Beth yw’r rheswm pwysicaf inni wisgo’n daclus? Darllenwch Salm 47:2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut dylai’r ffaith ein bod ni’n cynrychioli Jehofa effeithio ar ein gwisg?
Ydych chi’n meddwl ei fod yn rhesymol i boeni am y ffordd rydyn ni’n edrych wrth fynd i’r cyfarfodydd a chael rhan yn y weinidogaeth? Pam, neu pam ddim?
5. Sut gallwn ni wneud penderfyniadau da ynglŷn â’n gwisg a thrwsiad?
Does dim rhaid cael dillad drud ond mae’n bwysig eu bod nhw’n daclus ac yn addas ar gyfer y sefyllfa. Darllenwch 1 Corinthiaid 10:24 a 1 Timotheus 2:9, 10. Yna trafodwch pam byddwn ni eisiau osgoi gwisgo dillad sydd . . .
yn flêr neu’n rhy lac.
yn rhy dyn, yn dangos gormod o gnawd, neu’n bryfoclyd.
Er nad ydy Cristnogion o dan Gyfraith Moses bellach, mae’r gyfraith honno yn dangos teimladau Jehofa. Darllenwch Deuteronomium 22:5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam dylen ni osgoi gwisg a thrwsiad sy’n gwneud i ddynion edrych fel merched a merched edrych fel dynion?
Darllenwch 1 Corinthiaid 10:32, 33 a 1 Ioan 2:15, 16, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pam dylen ni feddwl am sut gall ein gwisg effeithio ar bobl yn y gymuned neu yn y gynulleidfa?
Pa wahanol fathau o wisg sydd yn boblogaidd yn eich ardal chi?
Ydych chi’n meddwl bod y steiliau hynny yn addas ar gyfer Cristnogion? Pam neu pam ddim?
Mae’n bosib plesio Jehofa a chael steil unigryw ar yr un pryd
BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae gen i’r hawl i ddewis pa ddillad dw i’n eu gwisgo.”
Ydych chi’n cytuno? Pam, neu pam ddim?
CRYNODEB
Pan fyddwn ni’n gwneud dewisiadau da am ein gwisg a thrwsiad, rydyn ni’n dangos parch tuag at Jehofa ac eraill.
Adolygu
Pam mae ein gwisg a thrwsiad yn bwysig i Jehofa?
Pa egwyddorion dylai ddylanwadu ar ein gwisg a thrwsiad?
Sut gall ein gwisg a thrwsiad effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar bobl Jehofa?
DARGANFOD MWY
Gwelwch pa fath o effaith gall eich dillad eu cael ar eraill.
Dysgwch pam mae’n bwysig ichi feddwl yn ofalus cyn cael tatŵ.
“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gael Tatŵs?” (Erthygl ar jw.org)
Ystyriwch egwyddorion ychwanegol a all ein helpu i wneud penderfyniadau da.
“Ydy’r Hyn Rwyt Ti’n ei Wisgo yn Anrhydeddu Duw?” (Y Tŵr Gwylio, Medi 2016)
Sut gwnaeth un ddynes ddiffuant ddysgu sut i dderbyn dewisiadau pobl eraill o ran gwisg?
“Roedd Gwisg a Thrwsiad yn Rhwystr i Mi” (Deffrwch!, Rhagfyr 22, 2003)
-