-
4 | Trechu Casineb Gyda Help DuwY Tŵr Gwylio (Cyhoeddus)—2022 | Rhif 1
-
-
Dysgeidiaeth o’r Beibl:
“Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth.”—GALATIAID 5:22, 23.
Beth Mae’n ei Olygu:
Gallwn ni dorri’r cylch o gasineb gyda help Duw. Mae ei ysbryd glân yn gallu ein helpu ni i gael rhinweddau fyddwn ni byth yn gallu eu meithrin ar ein pennau’n hunain. Yn lle ceisio trechu casineb yn ein nerth ein hunain, mae’n dda i ddibynnu ar help gan Dduw. Os ydyn ni, byddwn ni’n profi’r un peth â’r apostol Paul a ysgrifennodd: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.” (Philipiaid 4:13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yna byddwn ni’n gallu dweud: “Daw [fy] help oddi wrth yr ARGLWYDD.”—Salm 121:2.
-