-
Diogel Ymhlith Pobl DduwGwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
-
-
“GWISGWCH GARIAD”
9. Pa esiampl o weithredu cariad a gawn ni gan Jehofah?
9 Fe ’sgrifennodd Paul: “Gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd.” (Colosiaid 3:14) Yn raslon, mae Jehofah wedi paratoi’r wisg hon ar ein cyfer ni. Sut? Gall Cristnogion ddangos cariad gan fod cariad yn un o ffrwythau duwiol ysbryd sanctaidd Jehofah. (Galatiaid 5:22, 23) Mae Jehofah ei hun wedi dangos y cariad eithaf wrth anfon ei unig-anedig Fab er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Mae’r cariad hwn, cariad i’r eithaf, yn rhywbeth inni ei efelychu. “Os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn,” ’sgrifennodd yr apostol Ioan, “fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.”—1 Ioan 4:11.
10. Sut gall y “frawdoliaeth” gyfan fod o fudd inni?
10 Cyfle da i ddangos cariad ydi mynd i’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas lle byddwch yn cyfarfod ag amrywiaeth mawr o bobl sy’n gwas’naethu Jehofah. Mae’n siŵr y byddwch yn teimlo’n agos iawn at lawer o’r cychwyn. Mae’n bosib’ eich bod chi gynt wedi arfer osgoi pobl oedd â’u diddordebau a’u nodweddion yn wahanol i’ch rhai chi. Ond mae Cristnogion i ‘garu’r frawdoliaeth’ gyfan. (1 Pedr 2:17) Gwnewch ymdrech, felly, i ddod i ’nabod pawb sydd yn Neuadd y Deyrnas—hyd yn oed unigolion gwahanol i chi o ran oed, personoliaeth, hil, neu addysg. ’Rydych yn siŵr o ffeindio fod pob un yn rhagori mewn rhyw nodwedd annwyl.
11. Pam ’does dim rhaid i chi boeni oherwydd bod pobl Jehofah yn amrywio cymaint o ran personoliaeth?
11 Peidiwch â phoeni fod aelodau’r gynulleidfa yn amrywio o ran personoliaeth. Dychmygwch wahanol gerbydau yn symud ar hyd y ffordd i’r un cyfeiriad â chi, pob un yn amrywio o ran cyflymdra, cyflwr, a’r milltiroedd maen’ nhw wedi’u teithio. Mae rhai, fel chi, newydd gychwyn ar eu taith, ond mae pob un yn teithio i’r un cyfeiriad. Mae hi rhywbeth yn debyg gydag aelodau’r gynulleidfa. ’Dyw pawb ddim yn datblygu rhinweddau Cristnogol i’r un graddau. ’Dydyn’ nhw ddim chwaith yn yr un cyflwr corfforol neu emosiynol. Mae rhai wedi bod yn addoli Jehofah ers blynyddoedd, ac eraill yn dechrau ’nawr. Ond maen’ nhw i gyd yn teithio’r ffordd i fywyd tragwyddol, wedi’u “cyfannu yn yr un meddwl a’r un farn.” (1 Corinthiaid 1:10) Felly, os gwnewch yn fawr o’u cryfderau fe ddowch i weld fod Duw, yn wir, ymhlith y bobl hyn. Ac mae’n siŵr mai dyma lle ’rydych chi eisiau bod.—1 Corinthiaid 14:25.
12, 13. (a) Be’ fedrwch chi’i wneud os ydi rhywun yn y gynulleidfa yn eich siomi chi? (b) Pam mae hi’n bwysig i beidio â dal dig?
12 Gan fod pawb o fodau dynol yn amherffaith, ar adegau fe all rhywun yn y gynulleidfa ddweud neu wneud rhywbeth sy’n eich siomi’n fawr. (Rhufeiniaid 3:23) Fe dd’wedodd y disgybl Iago: “Y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma ddyn perffaith.” (Iago 3:2) Be’ wnewch chi os bydd rhywun yn eich brifo chi fel hyn? Yn ôl dihareb yn y Beibl mae “deall yn gwneud dyn yn amyneddgar, a’i anrhydedd yw maddau camwedd.” (Diarhebion 19:11) Ystyr deall ydi gweld yr hyn sy’ dan yr wyneb, i fedru pwyso a mesur be’ sy’n gwneud i berson siarad neu ymddwyn mewn ffordd arbennig. Mae pawb ohonom yn barod i esgusodi’n camgymeriadau ein hunain. Pam na fedrwn ni felly fod yr un mor barod i ddeall ac esgusodi amherffeithrwydd pobl eraill?—Mathew 7:1-5; Colosiaid 3:13.
13 Cofiwch fod yn rhaid i ni faddau i eraill cyn medrwn ni ein hunain dderbyn maddeuant Jehofah. (Mathew 6:9, 12, 14, 15) Os ’rydym ni’n byw yn ôl y gwirionedd, fe fyddwn ni’n trin eraill mewn ffordd gariadus. (1 Ioan 1:6, 7; 3:14-16; 4:20, 21) Felly, os oes ’na broblem yn codi rhyngoch chi a rhywun arall yn y gynulleidfa, gwnewch bob ymdrech i beidio â dal dig. Os ydych chi’n gwisgo cariad, fe fyddwch chi’n gwneud eich gorau i ddatrys y broblem, ac fe fyddwch yn barod i ymddiheuro os ydych chi wedi tramgwyddo rhywun.—Mathew 5:23, 24; 18:15-17.
14. Pa rinweddau ddylem ni eu gwisgo amdanom?
14 Mae’n gwisg ysbrydol ni i gynnwys rhinweddau eraill sy’n debyg iawn i gariad. “Gwisgwch amdanoch,” ’sgrifennodd Paul, “dynerwch calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.” Rhinweddau ydi’r rhain sy’ ynghlwm wrth gariad ac yn rhan annatod o’r “natur ddynol newydd” dduwiol. (Colosiaid 3:10, 12) Wnewch chi’r ymdrech i wisgo’r dillad hyfryd hyn? Gan fod Iesu wedi dweud wrth ei ddisgyblion, “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych,” bydd gwisgo cariad brawdol amdanoch yn help i bobl eich adnabod yn un o ddisgyblion Iesu.—Ioan 13:35.
-
-
Diogel Ymhlith Pobl DduwGwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
-
-
[Llun-tudalen lawn ar dudalen 165]
-