-
Gweld y Gwahaniaeth Mewn PoblY Tŵr Gwylio (Rhifyn Astudio)—2018 | Ionawr
-
-
9. Beth fydd yn helpu plant i ufuddhau i’w rhieni?
9 Beth all helpu plant i aros yn ufudd i’w rhieni hyd yn oed os nad ydy’r rhai sydd o’u cwmpas yn ufudd? Pan fydd plant yn meddwl am yr holl bethau da mae eu rhieni wedi eu gwneud iddyn nhw, dylen nhw deimlo’n ddiolchgar a bod eisiau ufuddhau iddyn nhw. Mae’n rhaid i rai ifanc hefyd ddeall bod Duw, ein Tad, yn disgwyl iddyn nhw fod yn ufudd i’w rhieni. Wrth i rai ifanc ddweud pethau da am eu rhieni, maen nhw’n helpu eu ffrindiau i barchu eu rhieni hefyd. Wrth gwrs, os ydy rhieni yn ddiserch tuag at eu plant, efallai bydd yn anodd i’w plant ufuddhau iddyn nhw. Ond pan fydd person ifanc yn teimlo gwir gariad gan ei rieni, gall ei helpu i ufuddhau hyd yn oed pan fydd yn anodd. Mae brawd ifanc o’r enw Austin yn dweud: “Er roeddwn ni’n tueddu trio osgoi cael fy nghosbi, gosododd fy rhieni ganllawiau rhesymol, esbonion nhw’r rhesymau dros gael rheolau, ac roedden nhw’n rhoi’r cyfle imi siarad â nhw drwy’r adeg. Gwnaeth hyn fy helpu i fod yn ufudd. Roeddwn i’n gallu gweld eu bod nhw’n fy ngharu, a gwnaeth hynny wneud imi eisiau ufuddhau iddyn nhw.”
10, 11. (a) Pa dueddiadau drwg sy’n dangos dydy pobl ddim yn caru ei gilydd? (b) Faint mae gwir Gristnogion yn caru eraill?
10 Disgrifiodd Paul hefyd dueddiadau eraill sy’n dangos dydy pobl ddim yn caru ei gilydd. Ar ôl sôn am fod yn “anufudd i’w rhieni,” mae’n sôn am fod yn anniolchgar. Mae hyn yn gwneud synnwyr, oherwydd dydy pobl anniolchgar ddim yn gwerthfawrogi’r pethau da mae eraill yn eu gwneud ar eu cyfer. Dywedodd Paul hefyd y byddai pobl yn annuwiol. Bydden nhw’n amharod i faddau, sy’n golygu na fydden nhw eisiau bod yn heddychlon ag eraill. Bydden nhw’n sarhaus ac yn bradychu eraill, yn dweud pethau cas a niweidiol am bobl a hyd yn oed am Dduw. Bydden nhw’n hel clecs maleisus er mwyn rhoi enw drwg i eraill.a—Gweler y troednodyn.
-
-
Gweld y Gwahaniaeth Mewn PoblY Tŵr Gwylio (Rhifyn Astudio)—2018 | Ionawr
-
-
14, 15. Pa dueddiadau drwg mae rhai yn eu dangos? Sut mae rhai wedi newid eu personoliaethau?
14 Yn y dyddiau olaf, mae pobl hefyd yn dangos tueddiadau drwg eraill y dylen ni eu hosgoi. Er enghraifft, mae llawer yn casáu daioni. Maen nhw’n casáu’r hyn sy’n dda a hyd yn oed yn ei wrthod. Mae pobl o’r fath yn gwbl afreolus ac mae eraill yn poeni dim am neb. Maen nhw’n gwneud pethau heb feddwl a dydyn nhw ddim yn poeni am yr effaith bydd eu gweithredodd yn ei chael ar eraill.
-
-
Gweld y Gwahaniaeth Mewn PoblY Tŵr Gwylio (Rhifyn Astudio)—2018 | Ionawr
-
-
a Y gair Groeg am “hel clecs maleisus” neu “enllibiwr” ydy di·aʹbo·los. Yn y Beibl, mae’r gair hwn yn cael ei ddefnyddio fel teitl ar gyfer Satan, yr enllibiwr creulon.
-