LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w23 Chwefror tt. 8-13
  • Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • DARLLEN ER MWYN DEALL
  • DARLLENA ER MWYN DARGANFOD TRYSORAU YSBRYDOL
  • GAD I’R HYN RWYT TI’N EI DDARLLEN DY FOWLDIO DI
  • MAE DARLLEN GAIR DUW YN EIN GWNEUD NI’N HAPUS
  • “Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • ‘Gweithreda yn Unol â’r Gair’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Gall y Beibl Fy Helpu i?—Rhan 3: Elwa’n Llawn o Ddarllen y Beibl
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
w23 Chwefror tt. 8-13

ERTHYGL ASTUDIO 7

Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl

“Sut rwyt ti’n ei ddeall?”—LUC 10:26.

CÂN 97 Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw

CIPOLWGa

1. Beth sy’n dangos bod yr Ysgrythurau’n bwysig i Iesu?

DYCHMYGA sut byddet ti wedi teimlo yn gwrando ar Iesu’n dysgu? Roedd yn dyfynnu o’r Ysgrythurau’n aml iawn, a hynny ar ei gof! A dweud y gwir, dyfyniadau o’r Ysgrythurau oedd rhai o’i eiriau cyntaf ar ôl ei fedydd a rhai o’i eiriau olaf cyn iddo farw.b (Deut. 8:3; Salm 31:5; Luc 4:4; 23:46) Ac yn ystod y tair blynedd a hanner o’i weinidogaeth, roedd Iesu’n aml yn darllen, yn dyfynnu, ac yn esbonio’r Ysgrythurau’n gyhoeddus.—Math. 5:17, 18, 21, 22, 27, 28; Luc 4:16-20.

Collage: 1. Mae Iesu, fel plentyn, yn gwrando ar ei rieni yn siarad ag ef. 2. Ar ôl iddo dyfu, mae Iesu a’i deulu yn gwrando’n astud wrth i’r Ysgrythurau gael eu darllen mewn synagog. 3. Fel oedolyn, mae Iesu yn darllen oddi ar sgrôl.

Drwy gydol ei fywyd, dangosodd Iesu ei fod yn caru’r Ysgrythurau ac yn gadael iddyn nhw lywio ei fywyd (Gweler paragraff 2)

2. Wrth iddo dyfu, beth oedd yn helpu Iesu i ddod yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau? (Gweler y llun ar y clawr.)

2 Yn y blynyddoedd cyn iddo ddechrau ei weinidogaeth, roedd Iesu wedi darllen a chlywed Gair Duw yn aml. Heb os, byddai Iesu wedi clywed Mair a Joseff yn dyfynnu o’r Ysgrythurau wrth sgwrsio fel teulu bob dydd.c (Deut. 6:6, 7) Byddai Iesu hefyd yn cael cyfle i wrando ar yr Ysgrythurau yn cael eu darllen yn y synagog bob Saboth gyda’i deulu. (Luc 4:16) Gallwn ddychmygu Iesu’n gwrando’n astud, ac ymhen amser yn dysgu i’w darllen ar ei ben ei hun. Oherwydd hyn i gyd, daeth Iesu’n gyfarwydd iawn â’r Ysgrythurau. Ar ben hynny roedd yn caru Gair Duw ac yn gadael iddo lywio ei fywyd. Er enghraifft, cofia beth ddigwyddodd yn y deml pan oedd Iesu yn 12 mlwydd oed. Roedd yr athrawon a oedd yn arbenigwyr yng Nghyfraith Moses “yn rhyfeddu at ei ddealltwriaeth a’i atebion.”—Luc 2:46, 47, 52.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gallwn ninnau hefyd ddod i adnabod a charu Gair Duw wrth inni ei ddarllen yn rheolaidd. Ond sut gallwn ni gael y gorau allan o’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen? Gallwn ni ddysgu gwers o beth ddywedodd Iesu wrth yr arweinwyr crefyddol. Roedd yr ysgrifenyddion, y Phariseaid, a’r Sadwceaid yn gyfarwydd â’r Gyfraith ac yn ei darllen yn rheolaidd. Ond doedden nhw ddim yn elwa o’i darllen. Gwnaeth Iesu amlygu tair ffordd gallai’r dynion hynny fod wedi elwa’n fwy o ddarllen yr Ysgrythurau. Gall ei eiriau ein helpu ni i wella ein gallu (1) i ddeall beth rydyn ni’n ei ddarllen, (2) i ddod o hyd i drysorau ysbrydol, a (3) i adael i Air Duw ein mowldio ni.

DARLLEN ER MWYN DEALL

4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Luc 10:25-29 am ddarllen Gair Duw?

4 Er mwyn elwa’n llawn o ddarllen Gair Duw, rydyn ni angen deall ystyr yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Er enghraifft, meddylia am y sgwrs a gafodd Iesu gyda “dyn a oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith.” (Darllen Luc 10:25-29.) Pan ofynnodd y dyn beth oedd angen iddo ei wneud i gael bywyd tragwyddol, gwnaeth Iesu ei helpu i ddod o hyd i’r ateb yng Ngair Duw. Gofynnodd iddo: “Beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith? Sut rwyt ti’n ei ddeall?” Rhoddodd y dyn yr ateb cywir drwy ddyfynnu’r ysgrythurau am garu Duw a charu cymydog. (Lef. 19:18; Deut. 6:5) Ond sylwa ar beth ddywedodd nesaf: “Pwy yn wir ydy fy nghymydog?” Roedd hyn yn dangos nad oedd y dyn yn deall beth roedd wedi ei ddarllen yn iawn. Ac o ganlyniad nid oedd yn gwybod sut i’w roi ar waith yn ei fywyd.

Gallwn ni ddatblygu’r sgìl o ddeall beth rydyn ni’n ei ddarllen

5. Sut gall gweddïo a darllen yn araf wella ein dealltwriaeth?

5 Drwy ddatblygu arferion darllen da, gallwn ni ddeall Gair Duw yn well. Dyma rai awgrymiadau a all dy helpu di. Gweddïa cyn iti ddechrau darllen. Rydyn ni angen help Jehofa er mwyn deall yr Ysgrythurau, felly gofynna iddo am ei ysbryd glân i dy helpu di i ganolbwyntio. Yna darllena yn araf. Bydd hynny yn dy helpu di i ddeall y deunydd. Er mwyn defnyddio mwy o dy synhwyrau, beth am ddarllen yn uchel, neu wrando ar recordiad sain o’r Beibl wrth iti ddarllen. Bydd hynny yn dy helpu di i ddeall, cofio, a dysgu mwy o Air Duw. (Jos. 1:8) Ar ôl iti orffen darllen, gweddïa eto i ddiolch i Jehofa am roi ei Air yn anrheg iti, ac i ofyn am ei help i roi ei gyngor ar waith.

Collage: 1. Chwaer yn ysgrifennu nodyn i’w roi yn ei Beibl. 2. Brawd yn aroleuo testun ac yn gwneud nodiadau wrth astudio erthygl ar ei dabled. 3. Chwaer yn aroleuo testun ac yn gwneud nodiadau yn ei Beibl, gan ddefnyddio’r ap “JW Library.”

Pam bydd cymryd nodiadau byr yn dy helpu di i gofio a deall beth rwyt ti wedi ei ddarllen? (Gweler paragraff 6)

6. Wrth iti ddarllen, pam mae’n beth da i ofyn cwestiynau a chymryd nodiadau byr? (Gweler hefyd y llun.)

6 Dyma ddau awgrym arall i dy helpu di i ddeall y Beibl yn well. Gofynna gwestiynau i ti dy hun am yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen. Wrth iti ddarllen rhan o’r Beibl, gofynna: ‘Pwy yw’r prif gymeriadau? Pwy sy’n siarad? Pwy mae’n siarad gyda a pham? Ble a phryd mae hyn yn digwydd?’ Bydd cwestiynau fel hynny yn dy helpu di i feddwl am y prif syniadau a’u dilyn. Hefyd, cymera nodiadau byr wrth iti ddarllen. Wrth ysgrifennu, rwyt ti’n troi syniadau yn eiriau, ac mae hynny yn dy helpu di nid yn unig i feddwl yn glir ond hefyd i gofio beth rwyt ti wedi ei ddarllen. Gelli di wneud nodyn o unrhyw gwestiynau, o bethau gwnest ti eu darganfod yn ystod dy ymchwil, ac o’r prif bwyntiau. Gelli di hefyd nodi ffyrdd i ddefnyddio’r hyn rwyt ti’n ei ddarllen neu sut rwyt ti’n teimlo amdano. Efallai bydd gwneud hynny yn dy helpu di i weld Gair Duw fel neges bersonol atat ti.

7. Beth rydyn ni ei angen wrth ddarllen y Beibl, a pham? (Mathew 24:15)

7 Soniodd Iesu am rywbeth pwysig y mae angen inni ei wneud er mwyn elwa’n llawn o ddarllen y Beibl, sef defnyddio ein deall. (Darllen Mathew 24:15.) Mae hynny’n golygu cael y gallu i weld sut mae rhai syniadau wedi cysylltu â’i gilydd, sut mae rhai’n wahanol i’w gilydd, ac i weld beth sydd o dan y wyneb. Hefyd dangosodd Iesu fod angen inni ddefnyddio ein deall i weld sut mae digwyddiadau’n cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl.

8. Sut gallwn ni ddefnyddio ein deall wrth ddarllen?

8 Gan fod Jehofa yn rhoi deall i’w bobl, gweddïa arno i ofyn am ei help. (Diar. 2:6) Sut gelli di weithio’n unol â dy weddïau? Meddylia’n ofalus am yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen, a sut mae’n cysylltu â phethau eraill rwyt ti’n eu gwybod. Gelli di ddefnyddio ein hadnoddau astudio’r Beibl, fel Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa i dy helpu di i ddeall ystyr rhan o’r Beibl ac i weld ffyrdd i’w rhoi ar waith yn dy fywyd. (Heb. 5:14) Wrth iti wneud hyn i gyd, bydd dy ddealltwriaeth o’r Ysgrythurau’n cynyddu.

DARLLENA ER MWYN DARGANFOD TRYSORAU YSBRYDOL

9. Pa wirionedd pwysig o’r Beibl roedd y Sadwceaid wedi ei anwybyddu?

9 Roedd y Sadwceaid yn hen gyfarwydd â phum llyfr cyntaf yr Ysgrythurau Hebraeg, ond roedden nhw’n gwrthod derbyn y gwirioneddau pwysig yn y llyfrau ysbrydoledig hynny. Er enghraifft, ystyria sut gwnaeth Iesu ymateb pan gafodd ei herio gan y Sadwceaid ynglŷn â’r atgyfodiad. Gofynnodd Iesu iddyn nhw: “Onid ydych chi wedi darllen llyfr Moses, yn yr hanes am y berth ddrain, fod Duw wedi dweud wrtho: ‘Fi ydy Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’?” (Marc 12:18, 26) Yn bendant, byddai’r Sadwceaid wedi darllen yr hanes hwnnw dro ar ôl tro. Ond gwnaeth cwestiwn Iesu ddatgelu eu bod nhw wedi anwybyddu gwirionedd pwysig o’r Ysgrythurau—dysgeidiaeth yr atgyfodiad.—Marc 12:27; Luc 20:38.d

10. Beth dylen ni ei gofio wrth ddarllen?

10 Beth yw’r wers i ni? Wrth ddarllen, dydyn ni ddim eisiau bod yn fodlon â deall gwirioneddau hawdd yn unig. Rydyn ni hefyd eisiau deall gwirioneddau ac egwyddorion mwy dwfn sy’n llai amlwg, wedi eu cuddio dan y wyneb fel petai. Drwy wneud hynny byddwn ni’n cael y gorau allan o bob adnod neu hanes rydyn ni’n ei ddarllen.

11. Sut gelli di ddefnyddio 2 Timotheus 3:16, 17 i gael hyd i drysorau gwerthfawr yn y Beibl?

11 Un peth all ein helpu ni i ddod o hyd i drysorau ysbrydol ydy ystyried y geiriau yn 2 Timotheus 3:16, 17. (Darllen.) Mae’n dweud bod yr “holl Ysgrythurau . . . yn fuddiol” ar gyfer (1) dysgu, (2) ceryddu, (3) cywiro, a (4) disgyblu. Hyd yn oed wrth ddarllen llyfrau o’r Beibl nad wyt ti’n eu defnyddio’n aml, gelli di elwa yn y pedair ffordd hyn. Cymera amser i feddwl am yr hanes i weld beth mae’n ei ddysgu am Jehofa, ei bwrpas, neu egwyddorion duwiol. Ystyria sut mae’n fuddiol ar gyfer ceryddu. Gelli di wneud hynny drwy sylwi ar sut mae’r adnodau’n dy helpu di i weld a gwrthod tueddiadau ac agweddau drwg, ac i aros yn ffyddlon. Meddylia am sut gelli di ddefnyddio’r adnodau i gywiro safbwynt anghywir, efallai un rwyt ti wedi dod ar ei draws yn y weinidogaeth. A chwilia am unrhyw ddisgyblaeth all dy helpu di i weld pethau o safbwynt Jehofa. Drwy wneud y pedwar peth hyn, byddi di’n dod o hyd i drysorau ysbrydol ac yn elwa’n fwy o ddarllen y Beibl.

GAD I’R HYN RWYT TI’N EI DDARLLEN DY FOWLDIO DI

12. Pam gofynnodd Iesu i’r Phariseaid “Onid ydych chi wedi darllen?”

12 Gofynnodd Iesu’r cwestiwn “Onid ydych chi wedi darllen?” i’r Phariseaid hefyd i ddangos bod ganddyn nhw’r agwedd anghywir at yr Ysgrythurau. (Math. 12:1-7)e Roedd y Phariseaid yn honni nad oedd disgyblion Iesu yn dilyn rheolau’r Saboth. Atebodd Iesu drwy ddyfynnu dwy esiampl o’r Ysgrythurau ac adnod o lyfr Hosea. Drwy wneud hynny, gwnaeth Iesu ddangos nad oedd y Phariseaid wedi deall y rheswm tu ôl i gyfraith y Saboth a’u bod nhw’n hollol ddi-drugaredd. Yn amlwg, doedd y dynion hyn ddim wedi gadael i Air Duw eu mowldio nhw. Pam? Roedd eu hagwedd feirniadol a balch wedi eu stopio nhw rhag deall beth roedden nhw’n ei ddarllen.—Math. 23:23; Ioan 5:39, 40.

13. Pa agwedd dylen ni ei chael wrth ddarllen y Beibl, a pham?

13 Rydyn ni’n dysgu o eiriau Iesu bod rhaid inni ddarllen y Beibl gyda’r agwedd gywir. Rydyn ni eisiau osgoi’r agwedd falch a beirniadol oedd gan y Phariseaid. Yn hytrach mae angen inni fod yn ostyngedig ac yn barod i ddysgu. Mae Iago 1:21 yn dangos pa mor bwysig yw i fod “yn ostyngedig wrth ichi adael i Dduw blannu ei eiriau y tu mewn ichi.” Drwy wneud hynny wrth ddarllen, byddwn ni’n gadael i Air Duw ein mowldio ni a’n helpu ni i ddangos trugaredd, cydymdeimlad, a chariad.

Sut gallwn ni wybod a ydyn ni’n gadael i Air Duw ein mowldio? (Gweler paragraff 14)f

14. Sut rydyn ni’n gwybod os ydyn ni’n gadael i’r Beibl ein mowldio ni? (Gweler hefyd y lluniau.)

14 Dewisodd y Phariseaid beidio â gadael i Dduw newid eu hagwedd, ac felly roedden nhw’n “condemnio’r rhai dieuog.” (Math. 12:7) Felly mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl am eraill ac yn eu trin yn dangos a ydyn ni wedi gadael i Air Duw ein mowldio ni. Er enghraifft, ydyn ni fel arfer yn sôn am y da rydyn ni’n ei weld mewn eraill, neu ydyn ni’n brysio i bigo beiau? Ydyn ni’n drugarog ac yn barod i faddau, neu ydyn ni’n feirniadol ac yn dueddol o ddal dig? Bydd cwestiynau fel hyn yn datgelu a ydyn ni’n gadael i’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen effeithio ar ein meddyliau, ein teimladau, a’n hymddygiad.—1 Tim. 4:12, 15; Heb. 4:12.

MAE DARLLEN GAIR DUW YN EIN GWNEUD NI’N HAPUS

15. Sut roedd Iesu’n teimlo am yr Ysgrythurau?

15 Gwnaeth Salm 40:8, BCND, ragfynegi sut byddai Iesu’n teimlo am Air Duw. Mae’r geiriau proffwydol yn dweud ‘ei fod yn hoffi gwneud ewyllys ei Dduw, a bod ei gyfraith yn ei galon.’ Gan fod Iesu yn caru Gair Duw gymaint, roedd yn hapus ac yn llwyddiannus wrth wasanaethu Jehofa. Gallwn ni hefyd brofi’r un peth os ydyn ni’n dysgu i fwynhau darllen y Beibl.—Salm 1:1-3.

16. Beth rwyt ti am ei wneud er mwyn elwa’n fwy o ddarllen Gair Duw? (Gweler y blwch “Gall Geiriau Iesu Dy Helpu i Ddeall yr Hyn Rwyt Ti’n ei Ddarllen.”)

16 Gad inni fod yn benderfynol o ddilyn geiriau ac esiampl Iesu a gwella ein sgiliau o ddarllen Gair Duw. Bydd gweddïo, darllen yn araf, gofyn cwestiynau, a chymryd nodiadau byr yn gwella ein dealltwriaeth o’r Beibl. Gallwn ni ddefnyddio ein deall drwy wneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau. Gallwn ni ddysgu i ddefnyddio’r Beibl yn well, hyd yn oed adnodau sy’n llai cyfarwydd inni, drwy gloddio am drysorau ysbrydol. A thrwy gadw’r agwedd gywir wrth inni ddarllen, byddwn ni’n gadael i Air Duw ein mowldio. Pan fyddwn ni’n gwneud ein gorau yn y pethau hyn, byddwn ni’n elwa’n fwy o ddarllen y Beibl ac yn closio’n fwy byth at Jehofa.—Salm 119:17, 18; Iago 4:8.

Gall Geiriau Iesu Dy Helpu i Ddeall yr Hyn Rwyt Ti’n ei Ddarllen

  • Gwna dy orau i ddeall beth rwyt ti’n ei ddarllen, fel dy fod ti’n gwybod sut i’w roi ar waith.—Math. 24:15; Luc 10:25-37.

  • Astudia hanesion y Beibl yn ofalus er mwyn dod o hyd i drysorau ysbrydol.—Marc 12:18-27.

  • Gad i Air Duw dy fowldio di ac effeithio ar sut rwyt ti’n trin eraill.—Math. 12:1-8.

WRTH ITI DDARLLEN Y BEIBL, BETH ALL DY HELPU DI . . .

  • i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei ddarllen?

  • i gael hyd i drysorau ysbrydol?

  • i adael i Air Duw dy fowldio?

CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch

a Rydyn ni fel pobl Dduw yn ceisio darllen ei Air bob dydd. Mae llawer o bobl eraill hefyd yn darllen y Beibl, ond heb ddeall beth maen nhw’n ei ddarllen bob tro. Roedd hynny’n wir yn nyddiau Iesu hefyd. Er mwyn elwa’n fwy ar ddarllen y Beibl, gad inni ystyried beth ddywedodd Iesu wrth y rhai oedd yn darllen Gair Duw.

b Mae’n ymddangos bod atgofion Iesu o’i fywyd cyn iddo ddod i’r ddaear wedi dod yn ôl ato pan gafodd ei fedyddio a’i eneinio â’r ysbryd glân.—Math. 3:16.

c Roedd Mair yn gyfarwydd iawn â’r Ysgrythurau ac yn cyfeirio atyn nhw. (Luc 1:46-55) Mae’n debyg nad oedd Joseff a Mair yn gallu fforddio copïau personol o Air Duw. Felly mae’n rhaid eu bod nhw wedi gwrando’n astud pan oedd Gair Duw yn cael ei ddarllen yn y synagog. Roedd hynny yn meddwl eu bod nhw’n gallu ei gofio’n nes ymlaen.

d Gweler yr erthygl “Draw Close to God—‘He Is the God . . . of the Living’” yn rhifyn Chwefror 1, 2013 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

e Gweler hefyd Mathew 19:4-6. Yno gofynnodd Iesu’r un cwestiwn i’r Phariseaid: “Onid ydych chi wedi darllen?” Er eu bod nhw wedi darllen hanes y creu, roedden nhw’n anwybyddu beth roedd yr hanes yn ei ddysgu am safbwynt Duw tuag at briodas.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod cyfarfod yn Neuadd y Deyrnas, mae un o’r brodyr sy’n gofalu am y sain a’r fideo yn gwneud sawl camgymeriad. Ond ar ôl y cyfarfod, mae’r brodyr yn ei ganmol am ei ymdrech, yn hytrach na chanolbwyntio ar ei gamgymeriadau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu