LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Sut Gall Cyfarfodydd Tystion Jehofa Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
    • Gwers 10. Un o Dystion Jehofa yn dangos adnod o’r Beibl i ddyn yn ystod cyfarfod.

      GWERS 10

      Sut Gall Cyfarfodydd Tystion Jehofa Eich Helpu?

      Ydych chi wedi cael gwahoddiad i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa? Os nad ydych chi wedi bod o’r blaen, peth naturiol yw teimlo braidd yn nerfus. Efallai byddwch chi eisiau gwybod: ‘Beth sy’n digwydd yn y cyfarfodydd? Pam maen nhw’n bwysig? Pam dylwn i fynd?’ Yn y wers hon, byddwch yn dysgu sut mae’r cyfarfodydd yn gallu eich helpu chi’n bersonol ac yn eich tynnu chi’n nes at Dduw.

      1. Beth yw’r rheswm pwysicaf dros gyfarfod gyda’n gilydd?

      Sylwch sut mae’r Beibl yn tynnu sylw at y rheswm pennaf inni ddod at ein gilydd mewn cyfarfodydd: “Bydda i’n addoli’r ARGLWYDD eto gyda’i bobl.” (Salm 26:12) Mae Tystion Jehofa heddiw hefyd yn mwynhau cyfarfodydd yn fawr. Ym mhob cwr o’r byd, maen nhw’n cyfarfod bob wythnos er mwyn addoli Duw, canu, a gweddïo. Sawl gwaith y flwyddyn, maen nhw’n cynnal cynulliadau mawr er mwyn addoli ar y cyd.

      2. Beth byddwch chi’n ei ddysgu yn y cyfarfodydd?

      Yn y cyfarfodydd, mae’r pwyslais ar esbonio Gair Duw “fel bod y bobl yn deall beth [sy’n] cael ei ddarllen.” (Darllenwch Nehemeia 8:8.) Drwy fynychu’r cyfarfodydd, byddwch chi’n dysgu am Jehofa ac am ei bersonoliaeth hyfryd. Wrth ichi ddysgu mwy am ei gariad, byddwch yn closio ato. Byddwch chi hefyd yn gweld sut gall Jehofa eich helpu i gael bywyd ystyrlon.—Eseia 48:17, 18.

      3. Sut bydd cymdeithasu â phobl eraill yn y cyfarfodydd yn eich helpu?

      Mae Jehofa yn dweud wrthon ni am “ystyried ein gilydd er mwyn inni annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud pethau da, heb esgeuluso ein cyfarfodydd.” (Hebreaid 10:24, 25) Yn y cyfarfodydd, byddwch chi’n cwrdd â phobl sy’n caru ei gilydd, ac sydd, fel y chi, yn awyddus i ddysgu mwy am Dduw. Byddwch chi’n clywed pobl yn rhannu sylwadau calonogol o’r Beibl. (Darllenwch Rhufeiniaid 1:11, 12.) Cewch gyfle i siarad ag eraill sy’n delio’n llwyddiannus â’r problemau sy’n wynebu pobl briod a sengl. Dyma rai o’r rhesymau y mae Jehofa eisiau inni gyfarfod â’n gilydd yn rheolaidd.

      CLODDIO’N DDYFNACH

      Dysgwch am beth sy’n digwydd mewn cyfarfodydd Tystion Jehofa a pham mae’n werth gwneud yr ymdrech i fynd.

      4. Cyfarfodydd Tystion Jehofa

      Yn y ganrif gyntaf, roedd Cristnogion yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i addoli Jehofa. (Rhufeiniaid 16:3-5) Darllenwch Colosiaid 3:16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Sut roedd y Cristnogion cynnar yn addoli Jehofa?

      Heddiw, mae’r Tystion yn cyfarfod yn rheolaidd. I weld beth sy’n digwydd yn eu cyfarfodydd, gwyliwch y FIDEO. Yna, edrychwch ar y llun o un o’r cyfarfodydd, a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

      FIDEO: Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? (2:12)

      • Pa debygrwydd a weloch chi rhwng beth sy’n digwydd yn Neuadd y Deyrnas a’r disgrifiad yn Colosiaid 3:16?

      • Yn y fideo neu’r llun, a weloch chi rywbeth arall am y cyfarfodydd sy’n apelio atoch chi?

      Darllenwch 2 Corinthiaid 9:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Pam nad yw Tystion Jehofa yn casglu arian yn eu cyfarfodydd?

      Gyda’r un sy’n eich dysgu am y Beibl, edrychwch ar raglen un o’r cyfarfodydd yr wythnos hon i weld beth fydd yn cael ei drafod.

      • Pa ran o’r cyfarfod sy’n swnio’n ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi?

      Oeddech chi’n gwybod?

      Os ewch i jw.org, gallwch weld pryd a lle mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled y byd.

      Collage: Golygfeydd yn Neuadd y Deyrnas cyn, yn ystod, ac ar ôl cyfarfod. Gwelir y golygfeydd eto yn lluniau A i Ch. A. Tyst gwrywaidd yn rhoi anerchiad am y Beibl o’r llwyfan yn ystod cyfarfod. B. Tyst benywaidd yn y gynulleidfa yn cynnig sylwadau yn ystod trafodaeth cwestiwn ac ateb. C. Tyst gwrywaidd yn cael sgwrs gyda theulu ar ôl y cyfarfod. Ch. Tyst gwrywaidd yn agor y drws i ddyn oedrannus sy’n cyrraedd y cyfarfod.
      1. A. Mae ein cyfarfodydd yn cynnwys anerchiadau, dangosiadau a fideos. Ceir cân a gweddi ar ddechrau a diwedd pob cyfarfod

      2. B. Mewn rhai rhannau o’r cyfarfod, mae cyfle i’r gynulleidfa gynnig sylwadau

      3. C. Mae croeso cynnes i bawb—teuluoedd, pobl sengl, rhai mewn oed, a phlant

      4. Ch.  Mae mynediad am ddim i bob cyfarfod. Nid yw Tystion Jehofa byth yn gwneud casgliad

      5. Mae mynd i’r cyfarfodydd yn gofyn am ymdrech

      Ystyriwch esiampl teulu Iesu. Bob blwyddyn, roedden nhw’n cerdded 60 milltir drwy’r mynyddoedd o Nasareth i Jerwsalem er mwyn mynd i’r deml. Darllenwch Luc 2:39-42, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

      • Ydych chi’n meddwl bod y daith i Jerwsalem wedi gofyn am ymdrech?

      • Pam efallai bydd angen i chi wneud ymdrech i fynd i’r cyfarfodydd?

      • Ydych chi’n meddwl ei bod yn werth yr ymdrech? Pam?

      Collage: Joseff, Mair, Iesu ac un o’i frodyr yn paratoi ar gyfer taith. 1. Joseff yn llwytho’r asyn a Mair yn paratoi bwyd. 2. Map sy’n dangos y daith o Nasareth i Jerwsalem.

      Mae’r Beibl yn dweud bod dod at ein gilydd i addoli Duw yn bwysig iawn. Darllenwch Hebreaid 10:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Pam dylen ni fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd?

      BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim rhaid ichi gyfarfod â phobl eraill. Gallwch astudio’r Beibl gartref ar eich pen eich hun.”

      • Pa adnod neu esiampl o’r Beibl sy’n dangos beth mae Jehofa eisiau i ni ei wneud?

      CRYNODEB

      Bydd mynd i’r cyfarfodydd yn eich helpu chi i ddysgu mwy am Jehofa, i gryfhau eich perthynas ag ef, ac i’w addoli yng nghwmni pobl eraill.

      Adolygu

      • Pam mae Jehofa yn ein hannog ni i ddod at ein gilydd mewn cyfarfodydd?

      • Beth byddwch chi’n ei ddysgu yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa?

      • Ym mha ffordd arall bydd y cyfarfodydd yn eich helpu chi?

      Nod

      DARGANFOD MWY

      Ydych chi’n teimlo’n nerfus am fynd i’r cyfarfod? Gwelwch hanes dyn oedd yn teimlo’r un ffordd ond sydd bellach wrth ei fodd yn mynd i’r cyfarfodydd.

      Fyddwn Ni Byth yn Anghofio’r Croeso (4:16)

      Gwelwch sut roedd dyn ifanc yn mwynhau’r cyfarfodydd a beth a wnaeth er mwyn eu mynychu.

      O’n i’n Mwynhau’r Cyfarfodydd Gymaint! (4:33)

      Dysgwch sut mae pobl eraill yn teimlo am fynd i’r cyfarfodydd.

      “Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?” (Erthygl ar jw.org)

      Gwelwch sut newidiodd bywyd dyn treisgar a oedd yn aelod o gang, ar ôl iddo fynd i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa.

      “Doeddwn i Ddim yn Mynd i Nunlle Heb fy Ngwn” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2014)

  • Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
    • 5. Mae’r byd wedi newid ers 1914

      Gwyliwch y FIDEO.

      FIDEO: Mae’r Byd Wedi Newid Ers 1914 (1:10)

      Rhagfynegodd Iesu beth fyddai cyflwr y byd ar ôl iddo ddod yn Frenin. Darllenwch Luc 21:9-11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Ydych chi wedi clywed am neu wedi gweld rhai o’r pethau hyn yn digwydd?

      Disgrifiodd yr apostol Paul sut byddai pobl yn ymddwyn yn ystod dyddiau olaf llywodraethau dynol. Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Ydych chi wedi gweld pobl yn ymddwyn fel hyn?

      Collage: Golygfeydd yn dangos cyflwr y byd ac agweddau pobl yn y dyddiau diwethaf. 1. Cadfridog yn gweiddi gyda’i freichiau yn yr awyr. 2. Tai yn adfeilion ar ôl daeargryn. 3. Awyrennau rhyfel. 4. Grŵp o bobl yn gwisgo masgiau. 5. Y ‘Twin Towers’ yn Efrog Newydd yn llosgi ar ôl ymosodiad terfysgol. 6. Dyn yn defnyddio cyffuriau. 7. Dyn yn bygwth ei wraig ac yn gweiddi arni. 8. Cyffuriau ac alcohol. 9. Dwy ddynes yn gwisgo tlysau a dillad ffasiynol ac yn cymryd hunlun. 10. DJ yn chwarae cerddoriaeth o flaen dorf. 11. Dyn mewn reiat yn taflu bom petrol.

      6. Mae gwybod am Deyrnas Dduw yn gofyn inni weithredu

      Darllenwch Mathew 24:3, 14, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

      • Pa waith pwysig sy’n dangos bod Teyrnas Dduw yn llywodraethu heddiw?

      • Sut gallwch chi gael rhan yn y gwaith hwn?

      Mae Teyrnas Dduw yn rheoli nawr ac yn fuan iawn bydd yn rheoli’r ddaear gyfan. Darllenwch Hebreaid 10:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

      • Beth dylai pob un ohonon ni ei wneud wrth weld “y dydd yn dod yn agos”?

      Collage: 1. Dynes ifanc sy’n astudio’r Beibl yn mynd i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa. 2. Mae’r ddynes ifanc yn pregethu i ffrind.

      Petasech chi’n dysgu rhywbeth a allai helpu pobl ac achub bywydau, beth fyddech chi’n ei wneud?

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu