LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 1 tt. 8-9
  • Pam Nad Ydy Duw yn Ateb Pob Gweddi?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Nad Ydy Duw yn Ateb Pob Gweddi?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • “Mae’n gas gan Dduw wrando ar weddi rhywun sy’n gwrthod gwrando ar y Gyfraith.”—Diarhebion 28:9.
  • Nesáu at Dduw Drwy Weddïo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Closio at Dduw Drwy Weddi
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Rhan 11
    Gwrando ar Dduw
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 1 tt. 8-9

Pam Nad Ydy Duw yn Ateb Pob Gweddi?

Mae ein Tad nefol, Jehofa Dduw, yn fodlon gwrando ar ein gweddïau diffuant. Ond mae yna rai pethau a fyddai yn ei atal rhag ateb ein gweddïau. Beth ydy’r pethau hyn, a beth dylen ni ei gofio wrth weddïo? Dyma rai canllawiau o’r Beibl.

Grŵp o bobl mewn eglwys yn darllen gweddi allan o lyfr gweddi.

“Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.”—Salm 62:8.

Nid ydy Jehofa am inni ailadrodd gweddïau oddi ar ein cof neu eu darllen o lyfr gweddi. Y mae eisiau inni siarad o’n calonnau. Dychmygwch pa mor ddiflas byddai clywed ffrind yn dweud yr un peth wrthoch chi ddydd ar ôl dydd. Mae ffrindiau da yn onest ac yn bur o galon. Pan weddïwn yn ein geiriau ein hunain, mae’n dangos ein bod ni’n gweld ein Tad nefol fel ffrind.

Dyn yn edrych i fyny wrth grafu cerdyn loteri.

“Dydych chi ddim yn derbyn oherwydd eich bod chi’n gofyn am reswm anghywir.”—Iago 4:3.

Fydden ni ddim yn disgwyl i Dduw ateb gweddïau am rywbeth nad ydy ef am inni ei wneud neu ei gael. Er enghraifft, mae Jehofa wedi dweud wrthon ni am beidio â bod yn farus nac yn ofergoelus. (Eseia 65:11; Luc 12:15) Felly, a fyddai’n ateb gweddi am lwc dda gan rywun sy’n gamblo? Byddai’n hollol afresymol disgwyl i Jehofa ateb gweddi o’r fath! Os ydyn ni eisiau i Dduw ateb ein gweddïau, mae angen inni ofyn am bethau sy’n cyd-fynd â’r canllawiau yn y Beibl.

Gweinidog yn gweddïo dros grŵp o filwyr.

“Mae’n gas gan Dduw wrando ar weddi rhywun sy’n gwrthod gwrando ar y Gyfraith.”—Diarhebion 28:9.

Yn amser y Beibl, nid oedd Duw yn ateb gweddïau pobl oedd yn gwrthod ufuddhau i’w gyfreithiau cyfiawn. (Eseia 1:15, 16) Nid ydy Duw wedi newid. (Malachi 3:6) Os ydyn ni eisiau i Dduw ateb ein gweddïau, mae’n rhaid i ni wneud ein gorau i ddilyn ei gyfreithiau yn ein bywydau. Ond beth os ydyn ni wedi pechu yn y gorffennol? Ydy hynny’n golygu na fydd Jehofa byth yn gwrando arnon ni? Dim o gwbl! Bydd Duw yn maddau inni os ydyn ni’n newid cwrs ein bywyd a gwneud ein gorau i’w blesio.—Actau 3:19.

“Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n mynd at Dduw gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio’n daer.”—Hebreaid 11:6.

Dynes yn darllen y Beibl.

Mae gweddi yn llawer mwy na ffordd o roi rhyddhad i’n teimladau pan fyddwn ni dan straen. Mae’n ffordd i ddangos ein ffydd ac i addoli Duw. Os nad ydyn ni’n gofyn “mewn ffydd,” meddai’r disgybl Iago, yna ni ddylen ni “ddisgwyl cael unrhyw beth gan Jehofa.” (Iago 1:6, 7) I adeiladu ein ffydd yn Nuw, mae angen inni neilltuo’r amser i ddod i’w adnabod drwy astudio’r Beibl. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ei ewyllys ac i weddïo gan gredu bod Jehofa yn gwrando.

PEIDIWCH Â DIGALONNI!

Er nad ydy Duw yn ateb pob gweddi, y mae’n gwrando ar weddïau diffuant miliynau o bobl a’u hateb. Mae’r Beibl yn disgrifio beth gallwch chi ei wneud i sicrhau bod eich gweddïau yn plesio Duw. Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio mwy.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu