LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/14 t. 2
  • Sut Mae Jehofa yn Fy Ngweld i?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Jehofa yn Fy Ngweld i?
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Defnyddia’r Drych yn Gywir
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Pam Rydw i’n Poeni am y Ffordd Rydw i’n Edrych?
    10 Ateb i Gwestiynau Pobl Ifanc
  • Y Math o Berson y Dylwn Fod
    Canwch i Jehofa
Ein Gweinidogaeth—2014
km 7/14 t. 2

Sut Mae Jehofa yn Fy Ngweld i?

1. Sut mae’r Beibl yn debyg i ddrych?

1 Pa mor aml rydych chi’n edrych yn y drych? Fel arfer rydyn ni’n edrych yn y drych bob dydd i wneud yn siŵr ein bod ni’n daclus. Mewn ffordd, mae’r Beibl yn debyg i ddrych. Mae darllen Gair Duw yn ein helpu ni i weld beth mae Jehofa yn ei weld yn ein calonnau. (1 Sam. 16:7; Iago 1:22-24) Y mae Gair Duw yn gallu “barnu bwriadau a meddyliau’r galon.” (Heb. 4:12) Sut mae darllen y Beibl a myfyrio arno yn ein helpu ni i weld ble mae angen inni wella, er mwyn bod yn fwy llwyddiannus yn y weinidogaeth?—Salm 1:1-3.

2. Sut gall y Beibl ein helpu ni i’n harchwilio ein hunain?

2 Defnyddio’r Beibl fel Drych: Trwy ddarllen am weision ffyddlon Jehofa yn y Beibl, rydyn ni’n dysgu pa rinweddau sy’n ddeniadol i Jehofa. Er enghraifft, roedd Dafydd yn selog dros enw Duw. (1 Sam. 17:45, 46) Roedd Eseia yn barod i bregethu mewn ardaloedd anodd. (Esei. 6:8, 9) Roedd gweinidogaeth Iesu yn bleser iddo, nid yn faich, oherwydd ei fod yn caru ei Dad nefol yn fawr. (Ioan 4:34) Roedd y Cristnogion yn y ganrif gyntaf yn pregethu’n selog, gan ddibynnu ar Jehofa, ac roedden nhw’n benderfynol o ddal ati. (Act. 5:41, 42; 2 Cor. 4:1; 2 Tim. 4:17) Mae myfyrio ar esiamplau fel hyn yn ein helpu ni i feddwl am ein gwasanaeth i Jehofa a chwilio am ffyrdd i’w gwella.

3. Pam dylen ni wneud unrhyw newidiadau heb oedi?

3 Gwnewch Rywbeth Amdani: Wrth gwrs, nid oes pwynt edrych mewn drych, gweld bod rhywbeth o’i le, a’i anwybyddu. Gallwn ofyn i Jehofa ein helpu ni i weld ein hunain yn wrthrychol ac yna i wella. (Salm 139:23, 24; Luc 11:13) Mae’r amser wedi mynd yn brin ac mae bywydau yn y fantol, felly mae’n bwysig inni wneud unrhyw newidiadau heb oedi.—1 Cor. 7:29; 1 Tim. 4:16.

4. Beth sy’n digwydd i rywun sy’n rhoi sylw dyfal i Air Duw ac yn gweithredu?

4 Nid yw Jehofa yn barnu ar yr olwg allanol. Y peth pwysicaf iddo ef yw’r hyn rydyn ni ar y tu mewn. (1 Pedr 3:3, 4) Beth sy’n digwydd i rywun sy’n rhoi sylw dyfal i Air Duw ac yn gweithredu? Oherwydd ei fod yn ‘weithredwr ac nid yn wrandawr anghofus,’ fe fydd yn ‘ddedwydd yn ei weithredoedd.’ (Iago 1:25) Trwy efelychu Duw fe fyddwn ni’n hapus ac yn effeithiol yn y weinidogaeth.—Effesiaid 5:1.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu