Cân 11
Llawenhau Calon Jehofa
Fersiwn Printiedig
(Diarhebion 27:11)
1. Adduned wnaethom dirion Dduw
I daenu d’Air i’r ddynolryw.
Yn llawen boed dy galon di
O weld ymdrechion ffyddlon lu.
2. Dy oruchwyliwr doeth a chall
Amdanat draetha yn ddi-ball.
Ysbrydol gynnydd sicrha—
Ein trwytho gawn yn neddfau Jah.
3. I wneud d’ewyllys Iôr, ymrown;
Am nerth dy ysbryd atat down.
Yn addurn i’th sancteiddiaf Air
Boed byw a moes dy weision taer.
(Gweler hefyd Math. 24:45-47; Luc 11:13; 22:42.)