LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lv tt. 222-223
  • Datrys Anghydfod Mewn Materion Busnes

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Datrys Anghydfod Mewn Materion Busnes
  • “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Erthyglau Tebyg
  • Henuriaid—Daliwch Ati i Efelychu’r Apostol Paul
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
lv tt. 222-223

ATODIAD

Datrys Anghydfod Mewn Materion Busnes

Yn 1 Corinthiaid 6:1-8, roedd yr apostol Paul yn trafod achosion llys rhwng cyd-gredinwyr. Mynegodd ei siom fod rhai Cristnogion yng Nghorinth wedi ‘beiddio mynd â’u hachos gerbron yr annuwiol.’ (Adnod 1) Rhestrodd Paul resymau cryf dros geisio datrys anghydfod rhwng Cristnogion yn unol â chyfarwyddyd y gynulleidfa yn hytrach na mynd i’r gyfraith. Gad inni ystyried rhai o’r rhesymau y tu ôl i’r cyngor ysbrydoledig hwn, ac yna edrychwn ar rai sefyllfaoedd lle nad yw’r cyngor, o angenrheidrwydd, yn berthnasol.

Os oes anghydfod busnes rhyngddon ni ac un o’n cyd-gredinwyr, fe fyddwn ni’n ceisio ei ddatrys drwy ddilyn ffordd Jehofa yn hytrach na’n ffordd ni’n hunain. (Diarhebion 14:12) Fel y dangosodd Iesu, mae’n bwysig ein bod ni’n datrys anghytundebau yn gyflym, cyn iddyn nhw dyfu’n bethau mawr. (Mathew 5:23-26) Ond mae rhai Cristnogion yn mynd yn gwerylgar, ac yn mynd i’r gyfraith yn y llys. Dywedodd Paul: “Yn gymaint â’ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â’ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli’r dydd.” Pam felly? Un rheswm pwysig yw bod hyn yn gallu adlewyrchu’n wael ar enw da’r gynulleidfa ac ar y Duw rydyn ni yn ei addoli. Felly, dylen ni feddwl yn ofalus am gwestiwn Paul: “Pam yn hytrach, na oddefwch gam?”—Adnod 7.

Dywed Paul fod Duw wedi sefydlu trefn o fewn y gynulleidfa er mwyn i Gristnogion fedru datrys sawl math o anghydfod. Mae bod yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau yn rhoi doethineb i’r henuriaid Cristnogol, ac mae Paul yn dweud eu bod nhw’n ‘gallu barnu rhwng cyd-gredinwyr’ o ran ‘pethau’r bywyd hwn.’ (Adnodau 3-5) Dangosodd Iesu y dylid dilyn tri cham i ddatrys anghydfod sy’n ymwneud ag achosion difrifol fel enllib a thwyll. Yn gyntaf, ceisia ddatrys yr anghydfod rhyngoch chi’ch hunain yn unig. Yn ail, os yw’r cam cyntaf yn methu, dos at yr unigolyn gydag un neu ddau o dystion. Yn drydydd, os nad yw’r ddau gam cyntaf yn llwyddo, cyflwyna’r mater gerbron yr henuriaid sy’n cynrychioli’r gynulleidfa.—Mathew 18:15-17.

Wrth gwrs, dydy’r henuriaid ddim, o anghenraid, yn gyfreithwyr neu’n ddynion busnes, ac nid eu gwaith nhw yw rhoi cyngor cyfreithiol. Nid yr henuriaid sy’n gosod y telerau ar gyfer datrys anghydfod busnes rhwng brodyr. Yn hytrach, maen nhw’n helpu pawb sydd ynghlwm wrth yr achos i roi cyngor y Beibl ar waith a dod i gytundeb heddychlon. Mewn achosion cymhleth, efallai y bydd yr henuriaid yn dewis ymgynghori ag arolygwr y gylchdaith neu â swyddfa gangen Tystion Jehofa. Sut bynnag, ceir rhai achosion nad ydyn nhw’n dod o fewn terfynau cyngor Paul. Beth yw’r rhain?

Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd achos llys yn ddim mwy na phroses ffurfiol neu gyfreithiol i gyrraedd amcanion heddychlon ac anhunanol. Er enghraifft, os oes angen arnat ddyfarniad ysgaru, dyfarniad ynglŷn â chyfrifoldeb rhieni neu daliadau cynhaliaeth, iawndal yswiriant, cael dy restru fel credydwr mewn achos methdaliad, neu gael profiant i ymdrin ag ewyllys, mae’n bosibl mai mynd i’r llys yw’r unig ffordd o weithredu. Mewn rhai achosion, gall Cristion deimlo ei fod yn gorfod gwneud gwrth-hawliad er mwyn iddo ei amddiffyn ei hun mewn achos llys.a

Os bydd Cristnogion yn mynd i’r gyfraith dan amgylchiadau o’r fath, a hynny mewn ysbryd digynnen, efallai na fyddai hynny yn mynd yn groes i gyngor ysbrydoledig Paul.b Sut bynnag, blaenoriaeth y Cristion, bob amser, yw sancteiddio enw Jehofa a chadw heddwch ac undod y gynulleidfa. Prif nodwedd dilynwyr Crist yw cariad, ac “nid yw cariad yn . . . ceisio ei ddibenion ei hun.”—1 Corinthiaid 13:4, 5; Ioan 13:34, 35.

a Mewn achosion prin, fe all Cristion gyflawni trosedd difrifol yn erbyn Cristion arall. Byddai’r rhain yn cynnwys achosion o drais rhywiol, ymosodiad, llofruddiaeth, neu ladrad. Mewn achosion fel y rhain, nid anghristnogol fyddai mynd at yr awdurdodau, er y gall hynny arwain at achos llys neu achos troseddol.

b Am wybodaeth bellach, gweler y Watchtower, 15 Mawrth 1997, tudalennau 17-22, a 15 Hydref 1991, tudalennau 25-28.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu