Cân 70
“Cymeradwyo’r Hyn Sy’n Rhagori!”
1. Mawr angen heddiw sydd am ddirnadaeth
I wybod beth sy’n eirwir,
I ’nabod ’r hyn a haedda’n blaenoriaeth,
Gweithredoedd da, geiriau pur!
Gwrthod y drwg, dewis y da,
Hyn hapus wna
Galon Duw Jah. I weddïo ym rown,
At adnod trown.
Bendith a ddaw o weithredu hyn.
2. Dwys alwad heddiw sydd i bregethu
Am Deyrnas hawddgar a da.
O ganfod defaid coll ein Tad nefol
A’u porthi, fe lawenha.
Yn bennaf oll, traethwn y Gair,
Sgwrsiwn yn daer.
Helpwn gymydog o’i weld yn tristáu
Dros gynnydd gwae.
Oriau a brynwn o’n hamser prin.
3. O roi ar waith yr hyn sy’n rhagori
Cadarnach fyth daw ein ffydd.
Tangnefedd Duw gaiff beunydd flaenori,
A’n gobaith angor a fydd.
Cwmni a gawn, cariad di-drai
Ffyddlonaf rai.
Jah a’n bendithia. Boed gadarn ein llais—
Eang yw’n maes!
Rhown iddo’n gore; ein Iôr a fyn!
(Gweler hefyd Salm 97:10; Math. 22:37; Ioan 21:15-17; Act. 10:42.)