Cân 65
“Dyma’r Ffordd”
(Eseia 30:20, 21)
1. Tangnefedd Duw,
Tangnefedd goruwch deall yw;
Ein dysgu gawn
Sut dylem ni â’n cyd-ddyn fyw.
Glân heddwch Crist
Sy’n gwarchod ein calonnau ni.
Dilynwn ffordd Jehofa,
Dangnefeddus Ri.
(CYTGAN)
‘O dyma’r Ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw;
‘Y ffordd dragwyddol, llesol odiaeth yw!
O rodio ynddi fe fyddwch fyw.
Ymlaen, O ewch. Ffordd bywyd bythol yw.’
2. Ffordd Duw yw cariad,
Nid oes tebyg iddi’n bod.
Ei Air yw’n llusern,
Boed ei ddilyn inni’n nod.
Daionus gariad,
Gwresog a thosturiol yw;
Boed inni lenwi’n buchedd
Â’i rinweddau gwiw.
(CYTGAN)
‘O dyma’r Ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw;
‘Y ffordd dragwyddol, llesol odiaeth yw!
O rodio ynddi fe fyddwch fyw.
Ymlaen, O ewch. Ffordd bywyd bythol yw.’
3. Y ffordd i’r bywyd
Arwain at breswylfa mae—
Addewid wnaed
Am gyfiawn a heddychol ddae’r.
Nid oes ffordd well—
Ffordd cariad a thangnefedd yw,
Ein harwain gawn at fywyd.
Diolch rhown i Dduw.
(CYTGAN)
‘O dyma’r Ffordd i’r bywyd,’ medd llais Duw;
‘Y ffordd dragwyddol, llesol odiaeth yw!
O rodio ynddi fe fyddwch fyw.
Ymlaen, O ewch. Ffordd bywyd bythol yw.’
(Gweler hefyd Salm 32:8; 139:24; Diar. 6:23.)