Cân 59
Wedi’n Cysegru i Dduw!
Fersiwn Printiedig
1. Ein denu at Grist a gawsom gan Jah ein Duw,
Disgyblion a fyddwn tra fôm byw.
O’i orseddfa llewyrch ddaeth,
’N oleuedig hyn a’n gwnaeth.
Ffydd, ymborthi wna ar faeth.
Ymwadu a wnawn. Mawr yw’r gwaith.
(CYTGAN)
Ymrown! Ymgysegru wnawn o’n gwirfodd i Dduw.
Ac ynddo a Christ boed in llawen fyw.
2. Gerbron Duw Jehofa down, gweddïwn a dweud:
‘Dilynwn d’orchmynion glân a’u gwneud.’
Yn ei lewyrch llawenhawn,
Gwasanaethu’n hapus wnawn,
I bregethu’r Deyrnas awn;
Ein braint dwyn ei enw mawrhawn.
(CYTGAN)
Ymrown! Ymgysegru wnawn o’n gwirfodd i Dduw.
Ac ynddo a Christ boed in llawen fyw.
(Gweler hefyd Salm 43:3; 107:22; Ioan 6:44.)