Cân 73
Carwch Eich Gilydd yn Angerddol
1. Cariad gwresog, cariad di-ffael
Geir gan frawdoliaeth heb ei hail,
Cynnig wna gymorth hawdd ei gael;
Cwbl ddiffuant yw.
Ufudd i’r gwirionedd y mae;
Cariad angerddol sydd heb drai,
Rhwyma frawdoliaeth defaid rai’n
Hyfryd gymanfa driw.
Cariad, grymus yw ar waith,
Estyn wna at bob un llwyth ac iaith;
Parod yw i rannu maeth,
Dal mae ar bob cyfle sydd.
Anrhydeddu’n brodyr a wnawn,
Undod a ddaw a hedd fwynhawn,
Teyrngar yw’r cyfeillgarwch gawn.
Amlwg boed rhinweddau’r ffydd
Yn ein sgwrs a’n moes bob dydd.
2. Os anghydfod ddaw, maddau wnawn,
Cytgord a hedd â’n brawd fwynhawn,
Ato i gynnal sgwrs yr awn.
Wrth Dduw ein serch a lŷn.
Cyfarch wnawn ein brodyr yn daer,
Cwmni cyfeillion da fwynheir,
Gweithiwn ynghyd i daeni’r Gair;
Nerth gawn o fyw’n gytûn.
Sgwrsio’n dyner iawn fydd rhaid
Â’r briwedig, aberth drostynt wnaed;
Prynwyd hwythau â’r un gwaed.
O’u cysuro daw llesâd.
Brawd sy’n gyfaill, gwir drysor yw;
Hawddgar gymundod gweision Duw
Cadarn a wna’r frawdoliaeth wiw.
Â’r fath gariad yn ein bron
Tystio wnawn drwy’r ddaear gron.
(Gweler hefyd 1 Pedr 2:17; 3:8; 4:8; 1 Ioan 3:11.)