LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 2
  • Sut i Helpu Eich Plentyn i Wella ei Waith Ysgol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Helpu Eich Plentyn i Wella ei Waith Ysgol
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Beth dylech chi ei wybod
  • Beth gallwch chi ei wneud
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 2
Bachgen yn cael trafferth gyda’i waith cartref

HELP AR GYFER Y TEULU

Sut i Helpu Eich Plentyn i Wella ei Waith Ysgol

Ydych chi wedi sylwi nad yw eich plentyn yn malio llawer am yr ysgol, a’i fod yn osgoi astudio a gwneud ei waith cartref? O ganlyniad, mae ei farciau yn dirywio, yn ogystal â’i ymddygiad. Sut gallwch chi helpu eich plentyn i wneud yn well?

  • Beth dylech chi ei wybod

  • Beth gallwch chi ei wneud

Beth dylech chi ei wybod

Gall pwysau wneud pethau’n waeth. Bydd rhoi pwysau ar eich plentyn yn achosi pryder iddo yn yr ysgol ac yn y cartref! I leihau’r straen, efallai bydd yn dweud celwyddau, cuddio marciau isel, ffugio’ch llofnod ar ei adroddiad, neu chwarae triwant. Dim ond gwaethygu a wna’r broblem.

Gall gwobrwyo greu problemau eraill. Dywed tad o’r enw Andrew: “Er mwyn ysgogi ein merch, roedden ni’n gwobrwyo marciau da ond wedyn roedd hi’n canolbwyntio ar y wobr. Pan oedd hi’n cael marciau isel roedd hi’n poeni mwy am golli’r wobr nac am y marciau drwg.”

Nid yw beio’r athrawon yn helpu neb. Efallai bydd eich plentyn yn dechrau credu nad oes angen ymdrech i gael marciau da. Mae peryg iddo ddechrau rhoi’r bai ar eraill am ei gamgymeriadau a disgwyl i bobl eraill ddatrys ei broblemau. Y gwir yw, gall eich plentyn fethu’r cyfle i ddysgu sgìl a fydd yn hanfodol iddo yn y dyfodol, sef derbyn cyfrifoldeb am yr hyn mae yn ei wneud.

Beth gallwch chi ei wneud

Rheolwch eich emosiynau. Os ydych yn teimlo’n ddig, arhoswch am gyfle arall i drafod y marciau. “Mae fy ngwraig a minnau wedi llwyddo orau drwy gydymdeimlo a pheidio â chynhyrfu,” meddai tad o’r enw Brett.

Egwyddor y Beibl: “[Byddwch] yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll.”​—Iago 1:​19.

Ceisiwch weld gwraidd y broblem. Ymhlith y rhesymau cyffredin dros farciau isel yw bwlio, newid ysgol, pryder am arholiadau, problemau yn y teulu, diffyg cwsg, diffyg trefn ddyddiol a methu canolbwyntio. Peidiwch â chymryd bod eich plentyn yn ddiog.

Egwyddor y Beibl:“Mae’r person doeth yn . . . gwneud yn siŵr ei fod yn deall.”​—Diarhebion 19:8.

Crëwch awyrgylch sy’n ffafriol i ddysgu. Sefydlwch drefn arferol ar gyfer gwaith cartref ac astudio. Sicrhewch fod gan eich plentyn le addas ar gyfer gwneud gwaith cartref, lle na fydd pethau fel y teledu a ffonau symudol yn tynnu ei sylw. Rhannwch sesiynau gwaith cartref yn gyfnodau byr er mwyn helpu’ch plentyn i ganolbwyntio. Dywed Hector, tad o’r Almaen: “Os bydd prawf ar y gorwel, rydyn ni’n adolygu tipyn bach bob dydd yn lle gadael popeth tan y munud olaf.”

Egwyddor y Beibl: ‘Mae amser penodol i bopeth.’​—Pregethwr 3:1.

Anogwch ddysgu. Bydd eich plentyn yn fwy awyddus i ddysgu os yw’n deall sut mae gwaith ysgol yn ei helpu nawr. Er enghraifft, mae mathemateg yn gallu ei helpu i ofalu am ei arian poced.

Egwyddor y Beibl: “Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall . . . meddwl yn uchel ohoni.”​—Diarhebion 4:​5, 8.

Mam yn helpu ei mab gyda’i waith cartref

Gair i gall: Helpwch eich plentyn gyda’i waith cartref, ond peidiwch â’i wneud drosto. Mae Andrew yn cyfaddef: “Roedd y ferch yn dibynnu arnon ni yn lle defnyddio ei phen ei hun.” Dysgwch eich plentyn sut i wneud gwaith cartref ar ei ben ei hun.

Millicent

“Os bydd un o’r plant yn dod adref gyda marciau gwael, dw i’n ceisio peidio gwylltio. Bydda’ i’n gofyn pam felly a sut y gall wneud yn well tro nesaf. Hefyd dw i’n ceisio cofio nad oeddwn i bob tro yn cael marciau da yn yr ysgol chwaith.”​—Millicent.

Edwin

“Rydyn ni’n cymryd diddordeb yng ngwaith ysgol y plant o ddechrau’r flwyddyn ysgol. Mae rhai rhieni ’mond yn sylweddoli bod ’na broblem pan fydd y plant yn dod adref gydag adroddiad gwael. Wedyn mae ’na lawer o waith i’w wneud er mwyn trwsio’r broblem.”​—Edwin.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu