LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 86
  • Ai Hwyl Ddiniwed Yw’r Ocwlt?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ai Hwyl Ddiniwed Yw’r Ocwlt?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth yw’r apêl?
  • Pam bod yn ofalus?
  • Beth fedri di ei wneud?
  • Gad i Jehofa Dy Helpu i Wrthsefyll Ysbrydion Drwg
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Gwrthsafa’r Diafol a’i Gynllwynion
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Gwrthsefyll Pwerau Ysbrydol Drygionus
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Beth Yw’r Gwir am Angylion?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 86
Dwy ferch yn eu harddegau yn edrych ar hen lyfr sy’n ymwneud â’r ocwlt

CWESTIYNAU POBL IFANC

Ai Hwyl Ddiniwed Yw’r Ocwlt?

Beth yw dy farn di?

  • A yw’n niweidiol i ymofyn â horosgopau, byrddau ouija, neu seicig?

  • Ai alegorïau yn unig yw straeon yr ocwlt​—brwydr symbolaidd rhwng da a drwg​—neu oes rhywbeth mwy iddyn nhw?

Bydd yr erthygl hon yn ystyried pam mae ysbrydegaeth yn gallu ymddangos yn apelgar, a pham mae’n rhaid bod yn ofalus.

  • Beth yw’r apêl?

  • Pam bod yn ofalus?

  • Beth fedri di ei wneud?

  • Barn dy gyfoedion

Beth yw’r apêl?

Mae’r byd adloniant wedi manteisio ar themâu sy’n ymwneud â’r ocwlt, ac yn eu gwneud yn prif ran o ffilmiau, rhaglenni teledu, gemau fideo a llyfrau. O ganlyniad, mae llawer o bobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn astroleg, cythreuliaid, fampirod, a dewiniaeth. Pam? Rhai rhesymau am hyn yw:

  • Chwilfrydedd: I ddarganfod a yw byd yr ysbrydion yn bodoli

  • Consýrn: I geisio darganfod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol

  • Cyswllt: I geisio cyfathrebu ag anwylyn sydd wedi marw

Efallai nid yw’r rhesymau hynny yn anghywir ynddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, mae’n hollol naturiol i feddwl am y dyfodol ac i hiraethu am anwylyn sydd wedi marw. Ond mae yna beryglon y dylet ti fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

Pam bod yn ofalus?

Mae’r Beibl yn cynnwys rhybuddion clir yn erbyn unrhyw beth sydd yn gysylltiedig ag ysbrydegaeth. Er enghraifft, mae’n dweud:

“Ddylai neb ohonoch chi . . . ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.”​—Deuteronomium 18:10-​12.

Pam bod y Beibl yn condemnio ysbrydegaeth?

  • Os ydyn ni’n cysylltu gyda’r cythreuliaid, rydyn ni’n eu cefnogi. Mae’r Beibl yn dysgu bod rhai angylion wedi gwrthryfela yn erbyn Duw, ac felly yn gwneud eu hunain yn elynion iddo. (Genesis 6:2; Jwdas 6, Beibl Cymraeg Diwygiedig.) Mae’r angylion drwg hyn, sef cythreuliaid, yn camarwain pobl gan ddefnyddio cyfryngwyr ysbrydion, pobl sy’n dweud ffortiwn, a rhai sy’n ymarfer dewiniaeth ac astroleg. Byddwn ni’n ochri gyda gelynion Duw os gwnawn ni y pethau hyn.

  • Mae ysbrydegaeth yn cefnogi’r gred anghywir fod rhai pobl yn gallu rhagweld y dyfodol. Sut bynnag, Duw yn unig sy’n gallu “dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.”​—Eseia 46:10; Iago 4:13, 14.

  • Mae ysbrydegaeth yn cefnogi’r gred anghywir fod y meirw yn gallu cyfathrebu â’r byw. Sut bynnag, mae’r Beibl yn dweud: “Nid yw’r meirw yn gwybod dim . . . nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb [yn y bedd].”​—Pregethwr 9:​5, 10, BCND.

Oherwydd y rhesymau hyn, mae Tystion Jehofa yn cadw draw oddi wrth unrhyw ymarferion sy’n ymwneud ag ysbrydegaeth. Maen nhw hefyd yn osgoi adloniant sy’n cynnwys pethau fel sombis, fampirod, a’r goruwchnaturiol. “Os yw’n cynnwys elfennau ysbrydegol, ni ddylwn ei wylio,” dywed ddynes ifanc o’r enw Maria.a

Mae bachgen yn ei arddegau yn ateb galwad ffôn, heb sylweddoli ei fod yn siarad â throseddwr

Yn debyg i’r ffordd y mae troseddwr yn ceisio dy dwyllo i feddwl ei fod yn rhywun arall, mae’r cythreuliaid yn esgus i fod yn anwylyn sydd wedi marw

Beth fedri di ei wneud?

  • Bydda’n benderfynol o gadw “cydwybod glir” o flaen Jehofa, gan osgoi unrhyw arferion neu adloniant sy’n ymwneud â’r ocwlt.​—Actau 24:16.

  • Cael gwared ar unrhyw eiddo sy’n gysylltiedig â’r ocwlt. Darllena Actau 19:19, 20 (BCND), a nodi’r esiampl dda yn hyn o beth a osodwyd gan Gristnogion yn y ganrif gyntaf.

Cofia: Pan wyt ti’n cadw draw oddi wrth ymarferion ac adloniant sy’n cynnwys yr ocwlt, rwyt yn gwneud safiad ar ochr Jehofa. Ac mae hyn yn ei wneud yn hapus iawn!​—Diarhebion 27:11.

Barn dy gyfoedion

Brandon

“Mae hyd yn oed rhaglenni plant yn seiliedig ar hudoliaeth, melltithion, swynion a phethau tebyg. Ond yn Deuteronomium 18:10 dywedodd Jehofa ‘dylai neb ohonoch chi’ ymarfer y fath bethau. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw i fod yn rhan o’n hadloniant chwaith.”​—Brandon.

Rose

“Os ydy rhaglen teledu yn cynnwys themâu ysbrydegaeth, bydda’n ddigon cryf i’w ddiffodd, hyd yn oed os yw’n golygu dweud wrth dy ffrindiau dwyt ti ddim yn teimlo’n gyfforddus i’w wylio. Mae cydwybod lân yn llawer gwell nag unrhyw raglen neu ffilm.”​—Rose.

a Nid yw hyn yn golygu bod straeon ffantasi i gyd yn hyrwyddo ysbrydegaeth. Ond mae Cristnogion yn defnyddio eu cydwybod sydd wedi ei hyfforddi yn ôl y Beibl, er mwyn osgoi unrhyw arferion neu adloniant sydd yn gwneud hynny.​—2 Corinthiaid 6:​17; Hebreaid 5:​14.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu