-
“’Dyw E Ddim yn Wir!”Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
-
-
Yno, o flaen llygad-dystion, fe gyflawnodd Iesu atgyfodiad bythgofiadwy. Ernes ydoedd o’r atgyfodiad ’roedd e eisoes wedi’i ragfynegi beth amser cyn y digwyddiad hwn, adferiad i fywyd ar y ddaear dan “nef newydd.” Ar yr achlysur hwnnw ’roedd Iesu wedi dweud: “Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef ac yn dod allan.”—Datguddiad 21:1, 3, 4; Ioan 5:28, 29; 2 Pedr 3:13.
Ymhlith llygad-dystion eraill i atgyfodiad ’roedd Pedr, ynghyd ag eraill o’r 12 oedd yn cadw cwmni i Iesu ar ei deithiau. Yn wir fe glywson’ nhw’r Iesu atgyfodedig yn siarad wrth Fôr Galilea. Mae’r cofnod yn dweud wrthyn ni: “‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, ‘cymerwch frecwast.’ Ond nid oedd neb o’r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, ‘Pwy wyt ti?’ Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd. Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i’w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.”—Ioan 21:12-14.
Felly, fe allai Pedr ysgrifennu ag argyhoeddiad llwyr: “Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw.”—1 Pedr 1:3.
Fe roddodd yr apostol Paul fynegiant i’w obaith hyderus pan ddywedodd: “Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy’n ysgrifenedig yn y proffwydi, ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.”—Actau 24:14, 15.
Felly fe all miliynau fod yn gadarn eu gobaith o weld eu hanwyliaid yn fyw eto ar y ddaear ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Beth fydd yr amgylchiadau hynny? Fe drafodir manylion pellach ynglŷn â’r gobaith ar gyfer ein hanwyliaid a gollwyd, sy’n seiliedig ar y Beibl, yn adran ola’r llyfryn hwn, dan y pennawd “Gobaith Sicr ar gyfer y Meirw.”
Ond yn gynta’ dowch inni ystyried cwestiynau y gallech fod yn eu holi os ydych chi’n hiraethu mewn galar o fod wedi colli anwylyn: Ydi e’n beth normal i alaru fel hyn? Sut fedra’i fyw gyda’m galar? Be’ all eraill ei wneud i fy helpu i ymdopi? Sut fedra’i helpu eraill sy’n hiraethu mewn galar? Ac yn bennaf, Beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â gobaith sicr ar gyfer y meirw? Fydda’ i’n gweld fy anwyliaid eto o gwbl rywdro? Ac ymhle?
-
-
Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
-
-
Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?
FE YSGRIFENNA person oedd wedi colli rhywun trwy farwolaeth: “Yn blentyn yn Lloegr, fe gefais i fy nysgu i beidio â rhoi mynegiant i’m teimladau yn gyhoeddus. Fe alla’ i gofio fy nhad, cyn-filwr, yn dweud wrthyf â’i enau ynghau, ‘Paid ti â chrio!’ pan ’roedd rhywbeth wedi achosi poen i mi. ’Fedra’ i ddim cofio a gusanodd neu a gofleidiodd mam unrhyw un ohonon ni blant (’roedd ’na bedwar ohonon ni). ’Roeddwn i’n 56 pan welais fy nhad yn marw. Fe deimlais golled enfawr. Ac eto, ar y cychwyn, ’fedrwn i ddim wylo.”
Yn rhai diwylliannau, mae pobl yn mynegi’u teimladau yn agored. Boed nhw’n llon neu’n drist, mae eraill yn gwybod sut maen’ nhw’n teimlo. Ar y llaw arall, yn rhai rhannau’r byd, yn enwedig yng ngogledd Ewrop a Phrydain, mae pobl, dynion yn arbennig, wedi cael eu cyflyru i guddio’u teimladau, i ymatal rhag mynegi’u hemosiynau, i fod yn galed â’u hunain ac i beidio ag amlygu’r hyn sy’n eu calonnau. Ond wedi i chi ddioddef colli rhywun annwyl, oes rhywbeth allan o’i le rywsut mewn rhoi mynegiant i dristwch eich galar? Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud?
Y Rhai A Wylodd yn y Beibl
Fe ysgrifennwyd y Beibl gan Hebreaid o ardal glannau dwyreiniol Môr y Canoldir, oedd yn bobl oedd wedi arfer rhoi llwyr fynegiant i’w teimladau. Mae e’n cynnwys llawer enghraifft o unigolion a ddangosodd dristwch eu galar yn agored. Fe alarodd y Brenin Dafydd oherwydd colli ei fab Amnon a lofruddiwyd. I ddweud y gwir, ’roedd “yn wylo’n chwerw.” (2 Samuel 13:28-39) Fe dristaodd yn fawr hyd yn oed o golli’i fab twyllodrus Absalom, a oedd wedi ceisio cipio’r frenhiniaeth. Mae cofnod y Beibl yn dweud wrthyn ni: “Cynhyrfodd y brenin [Dafydd], ac aeth i fyny i’r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, ‘O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!’” (2 Samuel 18:33) Fe alarodd Dafydd fel unrhyw dad normal. A sawl gwaith mae rhieni wedi dymuno cael marw yn lle eu plant! Mae’n ymddangos mor annaturiol i blentyn farw o flaen rhiant.
Sut ymatebodd Iesu i farw ei gyfaill Lasarus? Fe wylodd e wrth agosáu at ei fedd. (Ioan 11:30-38) Yn ddiweddarach, fe wylodd Mair Magdalen wrth iddi agosáu at feddrod Iesu. (Ioan 20:11-16) Mae’n wir nad ydi Cristion sydd â dealltwriaeth ynglŷn â gobaith y Beibl am yr atgyfodiad, yn tristáu gymaint fel nad oes cysuro arno, fel y gwna rhai nad
-