Cân 36 (81)
Diolch am Hirymaros Dwyfol
1. Hawddgar dy greadigaeth fawr
Jehofah Dduw, rhown glod it nawr.
O’n cwmpas harddwch disglair sydd
—Myrdd sêr y nos, goleuni’r dydd.
Rhyfeddod tegwch gwaith dy law
Mewn gwynfyd mwyn i’w lawnder daw.
Dy ogoneddus hawl mawrhawn;
Yn dy frenhiniaeth llawenhawn.
2. Selog am gyfiawn drefn wyt, Dduw;
Diddymu wnei ddrwg ddynolryw.
Ymwared gennyt ddaeth i’n hynt
Cans cedwaist ’n ôl y pedwar gwynt.
I’th enw mawr anrhydedd rhown;
 chalon llawn o ddiolch down.
Gweld buddugoliaeth yw ein nod;
I’th lân frenhiniaeth fyth boed clod.
3. Amynedd Duw nid ofer â
—Pregethu wnawn y newydd da.
Nodweddion dwyfol sanctaidd Air
Amlygwn nawr i bawb yn daer.
Dysgwn i eraill sail gwir ffydd
Ac iachawdwriaeth iddynt fydd.
Dymunol, llawn ysblander, Dduw,
Yw dy frenhiniaeth nerthol, wiw.