Cân 26 (56)
Dyfalbarhau yn Ddewr
1. Ffyddlon yw’r sawl sy’n deyrngar i’r diwedd,
Di-ofn yw hwn yn y ffydd.
Wrth roi tystiolaeth am degwch y Deyrnas
Dewr yw ei ymdrech bob dydd.
(Cytgan)
2. Grymus yw’r ffydd sy’n cymell gweithredoedd;
Cariad sy’n ffyddlon barhau.
Mawr yw ein sêl yng ngwasanaeth ein Brenin;
Ymaith wag ymffrost mor gau.
(Cytgan)
3. Jehofah’r Lluoedd beunydd sy’n annog
Ei holl ffyddloniaid yn daer
I gadarn sefyll nes rhydd Armagedon
Lwyr gyfiawnhad sanctaidd Air.
(CYTGAN)
Ymlaen yr awn. Dyfalbarhawn.
Cynyddol, gwir lewyrch yw.
Dywed Jehofah: ‘Ymnerthwch i’r frwydyr;
Taenwch wirionedd clodwiw.’