Ydych Chi’n Barod i Wynebu Argyfwng Meddygol?
Gall argyfwng meddygol ddigwydd yn sydyn ac yn ddirybudd. (Iag. 4:14) Felly, bydd rhywun call yn gwneud popeth posibl i baratoi o flaen llaw. (Diar. 22:3) A ydych chi wedi penderfynu ynglŷn â’r triniaethau meddygol y byddwch chi’n eu derbyn, a chofnodi eich penderfyniad ar bapur? Bydd gwylio ail ran y DVD Transfusion-Alternatives—Documentary Series, sef Transfusion-Alternative Health Care—Meeting Patient Needs and Rights, yn eich helpu chi. Wrth wylio’r DVD, ceisiwch ateb y cwestiynau dilynol. Gan fod y ffilm yn cynnwys golygfeydd byr o lawdriniaethau, cyfrifoldeb y rhieni yw dewis pa rannau o’r ffilm y dylai plant bach eu gweld.
(1) Pam mae rhai yn y byd meddygol yn ailystyried defnyddio trallwysiadau gwaed? (2) Rhowch dair enghraifft o lawdriniaethau cymhleth sydd wedi cael eu gwneud heb drallwysiadau gwaed. (3) Pam mae miloedd o feddygon trwy’r byd yn fodlon trin cleifion heb ddefnyddio trallwysiadau gwaed? (4) Beth mae astudiaethau clinigol diweddar wedi ei ddangos ynglŷn â’r defnydd o waed? (5) Pa risgiau meddygol sy’n perthyn i drallwysiadau gwaed? (6) Beth yw casgliad llawer o arbenigwyr ynglŷn â manteision triniaethau y gellir eu cael yn lle trallwysiadau gwaed? (7) Beth sy’n achosi anemia a beth y gellir ei wneud i liniaru’r effeithiau? (8) Beth y gellir ei wneud i ysgogi’r corff i greu celloedd coch? (9) Pa dechnegau sy’n cael eu defnyddio i leihau colli gwaed yn ystod llawdriniaethau? (10) A all triniaethau y gellir eu cael yn lle trallwysiadau gwaed weithio yn achos plant bach neu mewn argyfwng lle mae bywyd yn y fantol? (11) Beth yw un o’r prif egwyddorion moesegol ym maes gofal meddygol da?
Gan mai mater o gydwybod yw rhai o’r triniaethau sydd i’w gweld yn y ffilm, peidiwch ag aros nes y bydd argyfwng yn digwydd cyn penderfynu beth y byddwch yn ei dderbyn neu yn ei wrthod. Cewch fwy o wybodaeth i’ch helpu chi i benderfynu ym Mhennod 7 o’r llyfr “Cariad Duw” ac yn y cyfeiriadau a restrir yno, yn ogystal â’r atodiad yn Ein Gweinidogaeth mis Tachwedd 2006. Wedyn, os ydych chi wedi cael eich bedyddio, ysgrifennwch eich dewisiadau ar y cerdyn Penderfyniad Ymlaen Llaw, a chadw’r cerdyn gyda chi bob amser.
[Broliant ar dudalen 3]
Ydych chi wedi penderfynu pa driniaethau meddygol y byddwch chi yn eu derbyn a chofnodi hyn ar bapur?