LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm t. 3
  • Pam Astudio’r Beibl?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Astudio’r Beibl?
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm t. 3
Dyn yn edrych ar ei Feibl

Pam Astudio’r Beibl?

Ydych chi’n gyfarwydd â’r Beibl? Mae mwy o Feiblau wedi cael eu dosbarthu nag unrhyw lyfr arall yn holl hanes y byd. Mae neges y Beibl wedi rhoi cysur, gobaith, a chyngor ymarferol i bobl o bob cefndir. Eto, mae yna lawer o bobl heddiw sy’n gwybod fawr ddim am y Beibl. Hyd yn oed os nad ydych chi’n grefyddol, efallai y byddech chi’n hoffi gwybod mwy amdano. Bwriad y llyfryn hwn yw rhoi darlun cyffredinol o gynnwys y Beibl.

CYN ichi agor y Beibl a dechrau ei ddarllen, peth da fyddai gwybod ychydig o ffeithiau amdano. Mae’r Beibl yn gasgliad o 66 llyfr sy’n cychwyn gyda Genesis ac yn gorffen gyda Datguddiad.

Pwy yw awdur y Beibl? Dyna gwestiwn diddorol. Ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gan tua 40 o ddynion dros gyfnod o ryw 1,600 o flynyddoedd. Ond eto, doedden nhw ddim yn honni mai nhw oedd awduron y Beibl. Ysgrifennodd un ohonyn nhw: “Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw.” (2 Timotheus 3:16) Dywedodd un arall: “Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof, a’i air ef oedd ar fy nhafod.” (2 Samuel 23:2) Felly, yn ôl yr ysgrifenwyr, Jehofa Dduw, Brenin Goruchaf y bydysawd, yw awdur y Beibl. Ac maen nhw’n dweud Ei fod yn dymuno i bobl fod yn agos ato.

Mae rhywbeth arall yn hanfodol er mwyn deall y Beibl. Mae gan y Beibl un thema ganolog, sef cyfiawnhau hawl Duw i deyrnasu dros y ddynolryw drwy gyfrwng ei Deyrnas nefol. Ar y tudalennau nesaf, fe welwch chi fod y thema hon yn rhedeg fel llinyn drwy’r Beibl, o Genesis i Ddatguddiad.

O gofio’r ffeithiau hyn, gadewch inni ystyried neges y Beibl, y llyfr mwyaf poblogaidd yn y byd.

FFEITHIAU DEFNYDDIOL AM Y BEIBL

  • Cafodd ei ysgrifennu dros gyfnod o 1,610 o flynyddoedd, o 1513 COG hyd at 98 OG.a

  • Ysgrifennwyd y 39 llyfr cyntaf yn Hebraeg, gyda rhannau yn Aramaeg. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel yr Ysgrythurau Hebraeg, neu’r “Hen Destament.”

  • Ysgrifennwyd y 27 llyfr olaf mewn Groeg. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, neu’r “Testament Newydd.”

  • Mae’r Beibl wedi ei rannu’n benodau ac adnodau. Er enghraifft, mae Mathew 6:9, 10 yn cyfeirio at ben-nod 6 llyfr Mathew, adnodau 9 a 10.

a Mae sawl ffordd o fynegi dyddiadau. Yn y llyfryn hwn, mae OG yn golygu “Oes Gyffredin” ac COG yn golygu “Cyn yr Oes Gyffredin.” Fe welwch hyn ar y llinell amser sydd ar waelod pob tudalen.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu