Cân 12 (32)
“O Dŷ i Dŷ”
1. O dŷ i dŷ lledaenu wnawn
Gair pur Jehofah Dduw.
O dref i dref rhown ymborth i
Lân ddefaid dynolryw.
Y Deyrnas sy’n teyrnasu nawr
Fel d’wedodd Iesu cu.
Cyhoeddwn hyn drwy’r ddaear gron,
Diffuant fôm a hy.
2. O ddrws i ddrws cyhoeddi wnawn
Mai iachawdwriaeth sydd
I’r rhai a barchant enw mawr
Jehofah Dduw, mewn ffydd.
Ond sut y gallant wneud hyn os
Na wyddant enw Duw?
Mae’n rhaid in felly fynd at bawb
Â’r enw dwyfol gwiw.
3. Ni chawn ni groeso wrth bob drws
Wrth wneud gwaith maes, mae’n wir.
Mae’n anodd weithiau canfod clust
Sy’n fodlon gwrando’n hir.
Fe gofiwn mai yn debyg oedd
I Grist flynyddoedd ’n ôl.
Ond nabod mae y defaid rai
Ei lais; ni thrônt yn ôl.
4. O boed in fynd o ddrws i ddrws
A thaenu’r newydd da
Am Deyrnas wiw, i’r defaid rai
- Didoli pawb a wna.
Fe dd’wedwn am Jehofah Dduw
A’i holl wirionedd pur.
Fe ddown ar draws yr addfwyn rai
Wrth gyson weithio’n tir.